Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ymchwil Ofcom yn datgelu cynnydd yng nghyflymdra gwirioneddol band eang yn y DU ar gyfartaledd

27 Gorffennaf 2010

27 July 2010

Mae'r  ymchwil mwyaf cynhwysfawr i gyflymdra band eang yn y DU yn datgelu bod  cyflymdra band eang preswyl llinell sefydlog wirioneddol wedi cynyddu yn  gyffredinol o dros 25% yn ystod y llynedd o 4.1Mbit/s i 5.2Mbit/s wrth i  ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd (“ISPs”) symud yn gynyddol tuag at gynnig  pecynnau band eang cyflymdra uwch.

Mae  ymchwil Ofcom i gyflymdra band eang, a gynhaliwyd mewn partneriaeth gyda'r  arbenigwyr monitro band eang SamKnows, yn dangos bod gan bron i chwarter (24%)  o gysylltiadau band eang preswyl llinell sefydlog gyflymdra pennawd neu  gyflymdra a hysbysebwyd o dros ‘hyd at’ 10Mbit/s ym mis Mai 2010 o’i gymharu â  dim ond 8% ym mis Ebrill 2009.

Ond,  mae'r symudiad tuag at gyflymdra pennawd cyflymach wedi arwain at gynnydd yn y  bwlch rhwng y cyflymdra gwirioneddol a gyflenwir a'r cyflymdra y mae rhai ISPs  yn ei ddefnyddio i hysbysebu eu gwasanaethau. Yn aml mae’r gwahaniaethau rhwng  cyflymdra pennawd a'r cyflymdra gwirioneddol yn cael ei achosi gan gyflwyniad  band eang dros linellau copr a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer galwadau ffôn,  ac felly mae cyflymdra yn arafu dros linellau hir ac o ansawdd gwael ac  oherwydd ymyrraeth drydanol.

Cyflymdra  pennawd (a hysbysebir)Cyflymdra  gwirioneddol
ar  gyfartaledd
pecynnau  DSL 'hyd at' 8/10Mbit/s3.3Mbit/s
pecynnau  DSL 'hyd at' 20/24Mbit/s6.5Mbit/s
gwasanaethau  cebl 'hyd at' 10Mbit/s8.7Mbit/s
gwasanaethau  cebl 'hyd at' 20Mbit/s15.7Mbit/s

Ym  mis Ebrill 2009 y cyflymdra gwirioneddol ar gyfartaledd oedd 4.1Mbit/s, 58% o'r  cyfartaledd cyflymdra 'hyd at' a hysbysebwyd (7.1Mbit/s). Ym mis Mai 2010 y  cyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd oedd 5.2Mbit/s, 45% 'r cyfartaledd  cyflymdra 'hyd at' a hysbysebwyd (11.5Mbit/s).

Perfformiad  ISP

Darganfu'r  ymchwil bod gwasanaethau band eang cebl yn cyflwyno cyflymdra gwirioneddol (neu  lawr lwytho) sylweddol gyflymach na gwasanaethau DSL cymharol.

  • Roedd gwasanaethau cebl       'hyd at' 10Mbit/s a 'hyd at' 20Mbit/s Virgin Media yn cyflwyno cyfartaledd       cyflymdra lawr lwytho oedd tua dwywaith cyn gyflymed â phecynnau DSL gyda’r       un cyflymdra pennawd, neu gyflymdra pennawd tebyg (gweler y tabl uchod).
  • Gwasanaeth cebl 'hyd at'       50Mbit/s Virgin Media oedd y gwasanaeth cyflymaf a brofwyd, yn cyflwyno       cyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd o tua 36Mbit/s gyda phrofion edefyn       sengl a thua 46Mbit/s gyda phrofion edefyn lluosog a gynhaliwyd rhwng 4 a       6am. Mae prawf edefyn sengl yn golygu lawr lwytho ffeil sengl, ac mae       prawf edefyn lluosog yn golygu lawr lwytho tair ffeil ar yr un pryd, sydd       yn fwy nodweddiadol o’r modd y mae defnyddwyr trwm o’r rhyngrwyd yn       defnyddio band eang.

Roedd  effaith hyd ac ansawdd llinell ffôn defnyddiwr ar wasanaethau DSL yn arwain at  amrywiaeth mawr o ran y cyflymdra a dderbynnir:

  • O'r panelwyr ar       wasanaethau DSL 'o hyd at' 20/24Mbit/s, roedd gan bron i ddwy ran o dair       ohonynt (65%) gyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd o 8Mbit/s neu is, a dim       ond 2% oedd yn derbyn cyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd o dros       14Mbit/s. Nid oedd yr un o’r panelwyr DSL ar ‘hyd at’ 20/24Mbit/s yn       derbyn cyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd o dros 18Mbit/s.
  • O'r panelwyr ar       wasanaethau cebl 'o hyd at' 20Mbit/s roedd 80% yn derbyn cyflymdra lawr       lwytho ar gyfartaledd o dros 14Mbit/s ac roedd 4% yn derbyn cyflymdra lawr       lwytho ar gyfartaledd o 8Mbit/s neu lai, ac roedd 19% yn derbyn cyflymdra       lawr lwytho ar gyfartaledd o dros 18Mbit/s.

Roedd  cyflymdra gwirioneddol hefyd yn arafu yn ystod cyfnodau prysur gan fod traffig  rhyngrwyd trymach yn arwain at dagfeydd ar rwydweithiau ISPs:

  • ar gyfartaledd roedd y       gwasanaeth band eang cebl yn cyflwyno cyflymdra lawr lwytho uwch ar bob       adeg yn y dydd o’i gymharu â gwasanaethau DSL, ond roedd yn dangos mwy o       arafwch yn ystod cyfnodau brig o’i gymharu â rhai darparwyr DSL.

Cyflymdra  lawr lwytho ar gyfartaledd yn ystod Mai 2010 (Mbit/s)

Pecyn ISP24 awr(edefyn sengl)8-10 dyddiau’r wythnos(edefyn sengl)4-6am bob dydd (edefyn lluosog)
Band eang AOL 'hyd at' 8Mbit/s3.6 - 4.73.4 - 4.44.0 – 5.2
BT 'hyd at'  8Mbit/s3.8 - 4.53.4 - 4.14.0 – 4.7
O2/Be 'hyd at' 8Mbit/s4.3 - 5.04.2 - 5.04.6 – 5.4
Orange 'hyd at' 8Mbit/s+3.3 - 4.22.6 - 3.44.1 – 5.3
Plusnet 'hyd at' 8Mbit/s3.3 - 4.23.0 - 3.93.4 – 4.4
Sky 'hyd at' 10Mbit/s3.9 - 4.93.8 - 4.94.1 – 5.2
TalkTalk 'hyd at' 8Mbit/s3.6 - 4.33.4 - 4.13.8 – 4.7
Virgin Media 'hyd at' 10Mbit/s8.6 - 9.07.5 - 8.09.1 – 9.5
Pecynnau 'o hyd at' 20/24Mbit/s a 'hyd at' 50Mbit/s
BT 'hyd at' 20Mbit/s6.1 - 7.65.6 - 7.06.4 – 8.1
O2/Be 'hyd at' 20/24Mbit/s++8.1 - 9.77.9 - 9.48.9 – 10.8
Sky 'hyd at' 20Mbit/s7.0 - 8.66.9 - 8.57.5 – 9.3
TalkTalk 'hyd at' 24Mbit/s6.5 - 8.45.9 - 7.67.3 – 9.7
Virgin Media 'hyd at' 20Mbit/s15.2 - 16.513.4 - 14.917.4 – 19
Virgin Media 'hyd at' 50Mbit/s+++33.4 - 36.731.8 - 35.245.9 – 47.4

Mae'r  amrediadau a gyhoeddir uchod yn cynrychioli’r ffin camgymeriad o ran y 95% o  egwyl hyder o gwmpas y gwerth cymedrig (neu werth ar gyfartaledd) - gweler  nodyn 7; nid ydynt yn cynrychioli’r amrediad o gyflymdra a gyflwynir,  sydd yn llawer mwy na'r amrediadau a ddangosir uchod.

Mae'r  holl ddata'n cyfeirio at brofion lawr lwytho ffeiliau sengl (mae cyflymdra ar  gyfartaledd yn uwch trwy ddefnyddio profion edefyn lluosog) ac eithrio rhwng  4-6am bob dydd.

+  rhybudd sampl bychan o dan 50

++  rhybudd normaleiddio’n llai effeithiol oherwydd y nifer fechan o ymatebwyr gyda  hyd linellau dros 2km

Cryfhau'r Côd Ymarfer Gwirfoddol ar  Gyflymdra Band Eang

Mae  Ofcom wedi cryfhau'r Côd Ymarfer Gwirfoddol ar Gyflymdra Band eang ("y Côd") a  gyflwynwyd yn 2008. Mae ISPs sydd yn llofnodi’r Côd diwygiedig yn ymrwymo i roi  amcangyfrif cywirach a mwy cyson i ddefnyddwyr ar yr uchafswm cyflymdra sydd yn  debygol o fod yn bosibl i’w gyflawni ar eu llinellau. Mae ISPs hefyd yn ymrwymo  i helpu defnyddwyr i wella'u cyflymdra a rhoi'r dewis i ddefnyddwyr adael eu contractau'n  gynnar heb gosb (o fewn tri mis i ymuno â'r gwasanaeth) os ydynt yn derbyn  uchafswm cyflymdra llinell sydd yn sylweddol yn is na’r amcangyfrif a gawsant  ar adeg gwerthu ac os nad yw'r ISP yn gallu datrys y broblem.

Mae'r  Côd Ymarfer Gwirfoddol ar Gyflymdra Band eang ar gael yma: http://stakeholders.orfcom.org.uk/telecoms/codes-of-practice/broadband-speeds-cop-2010/.

Hysbysebu cyflymdra band eang

Yn ystod  y llynedd mae rhai ISPs wedi rhoi’r gorau i hysbysebu eu gwasanaethau ar sail  cyflymdra pennawd ‘o hyd at' ond mae eraill yn parhau i wneud hynny. Mae Ofcom  wedi trafod y pwnc hwn gyda’r Awdurdod Safonau Hysbysebu ("ASA") a gyda’r  Pwyllgor ar Ymarfer Hysbysebu ("CAP") ac maent wrthi ar hyn o bryd yn cynnal  adolygiad o'r maes hwn.

Mae  Ofcom wedi gwneud dau awgrym i ASA a CAP. Rydym yn argymell:

  • dylid hysbysebu cyflymdra       yn unig os oes rhai defnyddwyr o leiaf yn gallu derbyn y cyflymdra a       hysbysebir
  • dylai’r rhai sydd yn       hysbysebu cyflymdra ‘o hyd at’ hefyd gynnwys ‘amrediad cyflymdra       nodweddiadol’ (neu TSR) yn seiliedig ar gylchrediad safonol i’w ddatblygu,       yn debyg i’r rhai mewn diwydiannau eraill (er enghraifft APR mewn       gwasanaethau ariannol ac MPG mewn moduro).

Cyngor i ddefnyddwyr ar gyflymdra a  gwasanaethau band eang

Gallai  rhai defnyddwyr gymryd rhai camau cymharol syml i wella perfformiad eu band  eang. Mae Ofcom yn darparu cyngor i ddefnyddwyr ar y ffactorau i’w cymryd i  ystyriaeth wrth ddewis darparydd band eang a sut i wella cyflymdra band eang yn  y cartref.

Mae canllawiau  diweddaraf Ofcom i ddefnyddwyr ar gael yma: http://consumers.ofcom.org.uk/guides

Dywedodd  Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom: “ Dengys ymchwil Ofcom bod cyflymdra ar  gyfartaledd wedi cynyddu ac mae hynny’n newyddion da, ond mae lle i gael  gwelliant pellach yn ansawdd seilwaith cyfathrebiadau y DU.”

“Yn  aml mae cyflymdra gwirioneddol yn is na’r cyflymdra a hysbysebir, sydd yn ei  gwneud yn hanfodol bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth sydd mor gywir â phosibl  ar adeg gwerthu; dyna fwriad y Côd newydd.”

“Rydym  yn falch iawn bod yr holl ISPs mawr wedi ymuno mewn rhywbeth sydd yn gam pwysig  ymlaen.”

Ymchwil

Mae’r  ymchwil  yn darparu data annibynnol, cryf  ar y cyflymdra gwirioneddol y mae defnyddwyr preswyl y DU yn ei dderbyn ar  gyfartaledd gan y gwasanaethau band eang sydd yn gynwysedig yn yr ymchwil.  Cynhaliwyd dros 18 miliwn o brofion perfformiad gwasanaeth ar wahân mewn dros  1,500 o gartrefi yn ystod mis Mai 2010. Roedd sampl yr ymchwil yn caniatáu i  Ofcom gymharu perfformiad y pecynnau ISP hynny gyda dros 250,000 o gysylltiadau  preswyl (yn ogystal â gwasanaeth cebl Virgin Media ‘o hyd at’ 50Mbit/s, lle  roedd nodweddion ei sylfaen defnyddwyr yn ei gwneud yn bosibl i recriwtio digon  o banelwyr).

Mae’r  ymchwil yn parhau ac mae Ofcom yn bwriadu cyhoeddi adroddiad bob chwe mis, ac  mae disgwyl i’r adroddiad nesaf ymddangos ym mis Ionawr 2011. Rydym yn awyddus  hefyd i gynnwys darparwyr llai mewn ymchwil yn y dyfodol, os yw’n ymarferol, a  bydden yn nodi, tra nad yw’r ymchwil ar hyn o bryd ond yn cynnwys y  gweithredwyr mwyaf, mae nifer o weithredwyr llai eraill sydd ar gael, nifer  ohonynt all fod cystal os nad gwell o ran perfformiad na rhai o’r pecynnau yn  yr adroddiad hwn.

Mae’r  ymchwil yn casglu data perfformiad gan banel gwirfoddol sudd wedi cysylltu  offer monitro band eang i’w llwybrwyr. Mae Ofcom yn chwilio am ragor o  wirfoddolwyr er mwyn ehangu’r ymchwil. Am ragor o fanylion ewch i: www.samknows.com

Mae’r  adroddiad ymchwil llawn, sydd yn cynnwys rhestr o dermau, ar gael yma: http://stakholder.ofcom.org.uk/market-data-research/telecoms-research/broadband-speeds/broadband-speeds-2010/.

DIWEDD

NODIADAU  I OLYGYDDION

  1. * Mae band eang yn cael       ei gyflwyno i gartrefi a busnesau trwy gyfrwng nifer o wahanol       dechnolegau. Mae gwasanaethau cebl Virgin Media ar gael i tua 49% o       boblogaeth y DU. Mae darparwyr eraill yn defnyddio weiren gopr a Llinell       Tanysgrifiwr Digidol Anghymesur (ADSL), technoleg ddigidol sydd yn caniatáu’r       defnydd o linell ffôn copr safonol i ddarparu cyfathrebiadau data       cyflymdra uchel.
  2. Er mwyn sicrhau       cymhariaeth debyg at ei debyg, mae’r gymhariaeth o becynnau ISP yn cynnwys       cwsmeriaid ar-rwyd yn unig ar gyfer gweithredwyr dadfwndelu dolen leol       (LLU) a Virgin Media ac ar gyfer pecynnau DSL, mae’n cynnwys panelwyr sydd       wedi’u cysylltu i gyfnewidfa ffôn lleol sydd o fewn 5km yn unig a lle mae       o leiaf un gweithredwr LLU yn bresennol.
  3. Mae’n ofynnol i Ofcom yn       ôl Deddf Cyfathrebiadau 2003, wneud trefniadau i ddarganfod beth yw       profiadau defnyddwyr o’r gwasanaethau cyfathrebiadau electronig, sydd yn       cynnwys gwasanaethau band eang a’r modd y cânt eu darparu (adran 14).       Gwnawn hyn trwy gynnal ymchwil i’w profiadau o’r gwasanaethau hynny. Yn       amodol i rai eithriadau, mae’n ddyletswydd arnom i gyhoeddi canlyniadau       ein hymchwil ac i’w gymryd i ystyriaeth wrth gyflawni ein swyddogaethau       (adran 15).
  4. Daeth y Côd Ymarfer       Gwirfoddol ar Gyflymdra Band eang i rym ar 5 Rhagfyr 2008: http://stakeholders.ofcom.org.uk/telecoms/codes-of-practice/broadband-speeds-cop/voluntary-codes-of-practice/. Datgelodd siopa cudd a       gyhoeddwyd ar 29 Mawrth 2010 bod ISP yn ddiffygiol, ymysg pethau eraill, o       ran darparu gwybodaeth ddigonol i ddefnyddwyr ar gyflymdra band eang ar       adeg gwerthu, yn ôl yr hyn oedd yn ofynnol gan y Côd: http://stakeholders.ofcom.org.uk/telecoms/codes-of-practice/broadband-speeds-cop/voluntary-code/.
  5. Ni chafodd pecynnau ISP       gyda llai na 250,000 o gysylltiadau preswyl ar draws y DU eu cynnwys yn yr       ymchwil oherwydd diffyg meintiau sampl (ac eithrio pecyn cebl Virgin Media       ‘o hyd at’ 50Mbit/s)
  6. Mae’r amrediadau a       gyhoeddwyd uchod yn cynnwys y ffin camgymeriad a roddwyd yn nhermau’r       egwyl hyder o 95% o’r cymedrig. Mewn termau ystadegol, pe bai’r ymchwil yn       cael ei gynnal dro ar ôl tro, yna byddai’r canlyniadau yn syrthio o fewn       yr amrediad disgwyliedig o leiaf 95% o’r amser. Cafodd y data ei bwyso i       sicrhau bod y canlyniadau’n gynrychioliadol o’r boblogaeth yn gyffredinol.       Mae’r data’n cynnwys cwsmeriaid ar-rwyd ar gyfer gwasanaethau cebl Virgin       Media ac ar gyfer gweithredwyr DSL sydd yn darparu gwasanaethau manwerthu       trwy LLU (AOL Broadband, O2/Be, TalkTalk, Sky) yn unig. Addaswyd y       canlyniadau penodol i becyn ISP i gymryd i ystyriaeth y ffaith bod       panelwyr yn amrywio o ran pellter o’r gyfnewidfa, ac felly caniatáu       cymhariaeth gyson.
  7. Ar ddiwedd 2009, roedd       18.2 filiwn o gysylltiadau rhyngrwyd band llydan preswyl a Mentrau Bach a       Chanolig yn y DU, 8.3 miliwn (119%) yn fwy nag ar ddiwedd 2005. Mae       ymchwil arall Ofcom wedi dangos bod gan 65% o gartrefi yn y DU gysylltiad       band llydan yn chwarter cyntaf 2010, cynnydd o 31% ers chwarter cyntaf       2005. Roedd 6% o gartrefi ychwanegol yn defnyddio cysylltiad band llydan       symudol fel eu hunig gysylltiad band llydan yn chwarter cyntaf 2010.
  8. Ofcom yw’r rheoleiddiwr       a’r awdurdod cystadleuaeth annibynnol ar gyfer diwydiannau       cyfathrebiadau’r DU gyda chyfrifoldebau dros deledu, radio,       telegyfathrebiadau a gwasanaethau cyfathrebiadau di-wifr.
  9. Am ragor o wybodaeth am       Ofcom ewch i: www.ofcom.org.uk <http://www.ofco.org.uk> . Mae datganiadau i’r wasg Ofcom ar gael yn: www.ofcom.org/uk/media/ <http://www.ofcom.org/uk/media/>.

CYSWLLT

Amber  Vassiliou

Cysylltiadau  Cyfryngau a Chorfforaethol

Ofcom

ofcomnews@ofcom.org.uk

0300  123 4000