Ofcom yn cadarnhau rheolau newydd i hybu band eang Prydain

28 Mawrth 2018

Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw ddatganiadau terfynol ar ein hadolygiadau o’r canlynol:

Mae datganiadau heddiw yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018. Maent yn cadarnhau pecyn o fesurau a bennwyd gan Ofcom fis diwethaf i gynyddu ymhellach y buddsoddiad mewn rhwydweithiau band eang ‘ffibr llawn’ a sicrhau gwelliannau o ran ansawdd gwasanaeth Openreach.

Ar ôl cyflwyno ein penderfyniadau drafft i’r Comisiwn Ewropeaidd, fawr iawn o sylwadau rydyn ni wedi’u cael, ac mae ein penderfyniadau terfynol, ar y cyfan, yn parhau i fod yr un fath â’r rheini a gyhoeddwyd ym mis Chwefror.

Mae ein prif fesurau fel a ganlyn:

Yn gyntaf, mae’n rhaid i BT roi mynediad i ddarparwyr eraill at ei bolion telegraff a’i dwneli tanddaearol, a fydd yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws iddynt adeiladu eu rhwydweithiau ffibr llawn eu hunain a fydd yn cysylltu’n uniongyrchol â chartrefi ledled y DU.

Yn ail, rydyn ni wedi penderfynu peidio â rheoleiddio prisiau cynhyrchion band eang cyflym iawn cyfanwerthol cyflymaf Openreach, gan gynnwys ei wasanaethau ffibr llawn newydd.  Mae hyn yn cefnogi’r cymhellion i weithredwyr adeiladu rhwydweithiau ffibr llawn.

Yn drydydd, rydyn ni’n sicrhau bod mynediad fforddiadwy i fand eang cyflym iawn ar gyfer pobl a busnesau, drwy leihau’r pris cyfanwerthol y gall Openreach ei godi ar gwmnïau telegyfathrebiadau am ei wasanaeth band eang cyflym iawn lefel mynediad, sydd â chyflymder ‘lawrlwytho’ o 40Mbit yr eiliad, a chyflymder lanlwytho o 10Mbit yr eiliad.

Yn ein penderfyniad drafft fis diwethaf, fe wnaethom gynnig gosod pris misol o £11.92 ar gyfer pecyn band eang ‘40/10’ Mbit yr eiliad Openreach erbyn 2021. Ers hynny, rydyn ni wedi addasu’r ffigur hwn i £12.06 er mwyn adlewyrchu gwybodaeth newydd, yn enwedig mewn perthynas â chwyddiant a chostau pensiwn BT.

Yn olaf, bydd y rheolau newydd yn cynnwys gofynion llymach ar Openreach i drwsio diffygion a gosod llinellau band eang newydd yn gyflymach.