27 July 2010
Mae'r ymchwil mwyaf cynhwysfawr i gyflymdra band eang yn y DU yn datgelu bod cyflymdra band eang preswyl llinell sefydlog wirioneddol wedi cynyddu yn gyffredinol o dros 25% yn ystod y llynedd o 4.1Mbit/s i 5.2Mbit/s wrth i ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd (“ISPs”) symud yn gynyddol tuag at gynnig pecynnau band eang cyflymdra uwch.
Mae ymchwil Ofcom i gyflymdra band eang, a gynhaliwyd mewn partneriaeth gyda'r arbenigwyr monitro band eang SamKnows, yn dangos bod gan bron i chwarter (24%) o gysylltiadau band eang preswyl llinell sefydlog gyflymdra pennawd neu gyflymdra a hysbysebwyd o dros ‘hyd at’ 10Mbit/s ym mis Mai 2010 o’i gymharu â dim ond 8% ym mis Ebrill 2009.
Ond, mae'r symudiad tuag at gyflymdra pennawd cyflymach wedi arwain at gynnydd yn y bwlch rhwng y cyflymdra gwirioneddol a gyflenwir a'r cyflymdra y mae rhai ISPs yn ei ddefnyddio i hysbysebu eu gwasanaethau. Yn aml mae’r gwahaniaethau rhwng cyflymdra pennawd a'r cyflymdra gwirioneddol yn cael ei achosi gan gyflwyniad band eang dros linellau copr a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer galwadau ffôn, ac felly mae cyflymdra yn arafu dros linellau hir ac o ansawdd gwael ac oherwydd ymyrraeth drydanol.
Cyflymdra pennawd (a hysbysebir) | Cyflymdra gwirioneddol ar gyfartaledd |
---|---|
pecynnau DSL 'hyd at' 8/10Mbit/s | 3.3Mbit/s |
pecynnau DSL 'hyd at' 20/24Mbit/s | 6.5Mbit/s |
gwasanaethau cebl 'hyd at' 10Mbit/s | 8.7Mbit/s |
gwasanaethau cebl 'hyd at' 20Mbit/s | 15.7Mbit/s |
Ym mis Ebrill 2009 y cyflymdra gwirioneddol ar gyfartaledd oedd 4.1Mbit/s, 58% o'r cyfartaledd cyflymdra 'hyd at' a hysbysebwyd (7.1Mbit/s). Ym mis Mai 2010 y cyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd oedd 5.2Mbit/s, 45% 'r cyfartaledd cyflymdra 'hyd at' a hysbysebwyd (11.5Mbit/s).
Perfformiad ISP
Darganfu'r ymchwil bod gwasanaethau band eang cebl yn cyflwyno cyflymdra gwirioneddol (neu lawr lwytho) sylweddol gyflymach na gwasanaethau DSL cymharol.
Roedd effaith hyd ac ansawdd llinell ffôn defnyddiwr ar wasanaethau DSL yn arwain at amrywiaeth mawr o ran y cyflymdra a dderbynnir:
Roedd cyflymdra gwirioneddol hefyd yn arafu yn ystod cyfnodau prysur gan fod traffig rhyngrwyd trymach yn arwain at dagfeydd ar rwydweithiau ISPs:
Cyflymdra lawr lwytho ar gyfartaledd yn ystod Mai 2010 (Mbit/s)
Pecyn ISP | 24 awr(edefyn sengl) | 8-10 dyddiau’r wythnos(edefyn sengl) | 4-6am bob dydd (edefyn lluosog) |
---|---|---|---|
Band eang AOL 'hyd at' 8Mbit/s | 3.6 - 4.7 | 3.4 - 4.4 | 4.0 – 5.2 |
BT 'hyd at' 8Mbit/s | 3.8 - 4.5 | 3.4 - 4.1 | 4.0 – 4.7 |
O2/Be 'hyd at' 8Mbit/s | 4.3 - 5.0 | 4.2 - 5.0 | 4.6 – 5.4 |
Orange 'hyd at' 8Mbit/s+ | 3.3 - 4.2 | 2.6 - 3.4 | 4.1 – 5.3 |
Plusnet 'hyd at' 8Mbit/s | 3.3 - 4.2 | 3.0 - 3.9 | 3.4 – 4.4 |
Sky 'hyd at' 10Mbit/s | 3.9 - 4.9 | 3.8 - 4.9 | 4.1 – 5.2 |
TalkTalk 'hyd at' 8Mbit/s | 3.6 - 4.3 | 3.4 - 4.1 | 3.8 – 4.7 |
Virgin Media 'hyd at' 10Mbit/s | 8.6 - 9.0 | 7.5 - 8.0 | 9.1 – 9.5 |
Pecynnau 'o hyd at' 20/24Mbit/s a 'hyd at' 50Mbit/s | |||
BT 'hyd at' 20Mbit/s | 6.1 - 7.6 | 5.6 - 7.0 | 6.4 – 8.1 |
O2/Be 'hyd at' 20/24Mbit/s++ | 8.1 - 9.7 | 7.9 - 9.4 | 8.9 – 10.8 |
Sky 'hyd at' 20Mbit/s | 7.0 - 8.6 | 6.9 - 8.5 | 7.5 – 9.3 |
TalkTalk 'hyd at' 24Mbit/s | 6.5 - 8.4 | 5.9 - 7.6 | 7.3 – 9.7 |
Virgin Media 'hyd at' 20Mbit/s | 15.2 - 16.5 | 13.4 - 14.9 | 17.4 – 19 |
Virgin Media 'hyd at' 50Mbit/s+++ | 33.4 - 36.7 | 31.8 - 35.2 | 45.9 – 47.4 |
Mae'r amrediadau a gyhoeddir uchod yn cynrychioli’r ffin camgymeriad o ran y 95% o egwyl hyder o gwmpas y gwerth cymedrig (neu werth ar gyfartaledd) - gweler nodyn 7; nid ydynt yn cynrychioli’r amrediad o gyflymdra a gyflwynir, sydd yn llawer mwy na'r amrediadau a ddangosir uchod.
Mae'r holl ddata'n cyfeirio at brofion lawr lwytho ffeiliau sengl (mae cyflymdra ar gyfartaledd yn uwch trwy ddefnyddio profion edefyn lluosog) ac eithrio rhwng 4-6am bob dydd.
+ rhybudd sampl bychan o dan 50
++ rhybudd normaleiddio’n llai effeithiol oherwydd y nifer fechan o ymatebwyr gyda hyd linellau dros 2km
Cryfhau'r Côd Ymarfer Gwirfoddol ar Gyflymdra Band Eang
Mae Ofcom wedi cryfhau'r Côd Ymarfer Gwirfoddol ar Gyflymdra Band eang ("y Côd") a gyflwynwyd yn 2008. Mae ISPs sydd yn llofnodi’r Côd diwygiedig yn ymrwymo i roi amcangyfrif cywirach a mwy cyson i ddefnyddwyr ar yr uchafswm cyflymdra sydd yn debygol o fod yn bosibl i’w gyflawni ar eu llinellau. Mae ISPs hefyd yn ymrwymo i helpu defnyddwyr i wella'u cyflymdra a rhoi'r dewis i ddefnyddwyr adael eu contractau'n gynnar heb gosb (o fewn tri mis i ymuno â'r gwasanaeth) os ydynt yn derbyn uchafswm cyflymdra llinell sydd yn sylweddol yn is na’r amcangyfrif a gawsant ar adeg gwerthu ac os nad yw'r ISP yn gallu datrys y broblem.
Mae'r Côd Ymarfer Gwirfoddol ar Gyflymdra Band eang ar gael yma: http://stakeholders.orfcom.org.uk/telecoms/codes-of-practice/broadband-speeds-cop-2010/.
Hysbysebu cyflymdra band eang
Yn ystod y llynedd mae rhai ISPs wedi rhoi’r gorau i hysbysebu eu gwasanaethau ar sail cyflymdra pennawd ‘o hyd at' ond mae eraill yn parhau i wneud hynny. Mae Ofcom wedi trafod y pwnc hwn gyda’r Awdurdod Safonau Hysbysebu ("ASA") a gyda’r Pwyllgor ar Ymarfer Hysbysebu ("CAP") ac maent wrthi ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r maes hwn.
Mae Ofcom wedi gwneud dau awgrym i ASA a CAP. Rydym yn argymell:
Cyngor i ddefnyddwyr ar gyflymdra a gwasanaethau band eang
Gallai rhai defnyddwyr gymryd rhai camau cymharol syml i wella perfformiad eu band eang. Mae Ofcom yn darparu cyngor i ddefnyddwyr ar y ffactorau i’w cymryd i ystyriaeth wrth ddewis darparydd band eang a sut i wella cyflymdra band eang yn y cartref.
Mae canllawiau diweddaraf Ofcom i ddefnyddwyr ar gael yma: http://consumers.ofcom.org.uk/guides
Dywedodd Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom: “ Dengys ymchwil Ofcom bod cyflymdra ar gyfartaledd wedi cynyddu ac mae hynny’n newyddion da, ond mae lle i gael gwelliant pellach yn ansawdd seilwaith cyfathrebiadau y DU.”
“Yn aml mae cyflymdra gwirioneddol yn is na’r cyflymdra a hysbysebir, sydd yn ei gwneud yn hanfodol bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth sydd mor gywir â phosibl ar adeg gwerthu; dyna fwriad y Côd newydd.”
“Rydym yn falch iawn bod yr holl ISPs mawr wedi ymuno mewn rhywbeth sydd yn gam pwysig ymlaen.”
Ymchwil
Mae’r ymchwil yn darparu data annibynnol, cryf ar y cyflymdra gwirioneddol y mae defnyddwyr preswyl y DU yn ei dderbyn ar gyfartaledd gan y gwasanaethau band eang sydd yn gynwysedig yn yr ymchwil. Cynhaliwyd dros 18 miliwn o brofion perfformiad gwasanaeth ar wahân mewn dros 1,500 o gartrefi yn ystod mis Mai 2010. Roedd sampl yr ymchwil yn caniatáu i Ofcom gymharu perfformiad y pecynnau ISP hynny gyda dros 250,000 o gysylltiadau preswyl (yn ogystal â gwasanaeth cebl Virgin Media ‘o hyd at’ 50Mbit/s, lle roedd nodweddion ei sylfaen defnyddwyr yn ei gwneud yn bosibl i recriwtio digon o banelwyr).
Mae’r ymchwil yn parhau ac mae Ofcom yn bwriadu cyhoeddi adroddiad bob chwe mis, ac mae disgwyl i’r adroddiad nesaf ymddangos ym mis Ionawr 2011. Rydym yn awyddus hefyd i gynnwys darparwyr llai mewn ymchwil yn y dyfodol, os yw’n ymarferol, a bydden yn nodi, tra nad yw’r ymchwil ar hyn o bryd ond yn cynnwys y gweithredwyr mwyaf, mae nifer o weithredwyr llai eraill sydd ar gael, nifer ohonynt all fod cystal os nad gwell o ran perfformiad na rhai o’r pecynnau yn yr adroddiad hwn.
Mae’r ymchwil yn casglu data perfformiad gan banel gwirfoddol sudd wedi cysylltu offer monitro band eang i’w llwybrwyr. Mae Ofcom yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr er mwyn ehangu’r ymchwil. Am ragor o fanylion ewch i: www.samknows.com
Mae’r adroddiad ymchwil llawn, sydd yn cynnwys rhestr o dermau, ar gael yma: http://stakholder.ofcom.org.uk/market-data-research/telecoms-research/broadband-speeds/broadband-speeds-2010/.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
CYSWLLT
Amber Vassiliou
Cysylltiadau Cyfryngau a Chorfforaethol
Ofcom
0300 123 4000