Mae'r ddarpariaeth symudol yn gwella ond dydy'r gwasanaeth ddim yn ddigonol o hyd yng Nghymru wledig

15 Rhagfyr 2017

  • Mae’r ddarpariaeth symudol yn gwella, ond yn araf
  • Mae band eang cyflym iawn ar gael yn 89% o eiddo yng Nghymru
  • Mae defnyddwyr yn gallu gwirio am broblemau band eang a symudol gan ddefnyddio ap gwell

Mae’r ddarpariaeth symudol wedi gwella yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ond rhaid gwneud llawer mwy o waith cyn bod y gwasanaethau llais a data yr un fath â’r hyn sydd ar gael mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae’r canfyddiadau’n rhan o adroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2017 Ofcom, sy'n edrych yn fanwl ar rwydweithiau di-wifr a thelegyfathrebu yn y Deyrnas Unedig a’r gwledydd sy'n rhan ohoni. Yn yr adroddiad eleni, gwelir cynnydd da o hyd o ran y gwasanaethau cyfathrebu sydd ar gael a’r defnydd ohonynt, sy’n rhan mor allweddol o fywyd gwaith a phersonol pobl.

Mae Ofcom wedi newid y ffordd rydym yn mesur darpariaeth symudol, i adlewyrchu’r defnydd cynyddol a disgwyliadau defnyddwyr ffonau clyfar. Mae dyfeisiau heddiw yn derbyn llawer mwy o ddata, ond hefyd mae angen signalau cryfach arnynt o’u cymharu â’r hen ffonau.

Rydym wedi nodi ein anghenion ynglŷn â beth mae darpariaeth yn ei olygu[1], gan ddefnyddio gwybodaeth dorfol newydd o filoedd o ffonau symudol i gofnodi profiadau go iawn defnyddwyr.

Mae hyn yn golygu bod pobl yn cael y darlun mwyaf eglur a chywir erioed o ddarpariaeth symudol, gan ddefnyddio mapiau rhyngweithiol ac ap Ofcom ar gyfer ffonau clyfar, a gafodd ei ddiweddaru heddiw. Mae’r offer hyn yn darparu gwybodaeth glir a manwl ynglŷn ag os oes modd gwneud galwadau symudol, anfon negeseuon testun a’r gwasanaethau data mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Mae darpariaeth llais yn yr awyr agored gan y pedwar cwmni wedi cyrraedd 93% yng Nghymru (98% DU), o 89% yn 2016 (96% yn y DU). Mae darpariaeth llais daearyddol gan y pedwar cwmni wedi codi i 62% (88% DU). Mae’r ddarpariaeth data daearyddol gan bob cwmni wedi cynyddu 25 pwynt canran i 52% (63% DU).

Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn dal yn ei chael yn anodd cael signal cryf, a Chymru sydd â’r rhaniad mwyaf rhwng ardaloedd trefol a gwledig o ran darpariaeth llais daearyddol yn yr awyr agored yn y DU.  Mae darpariaeth ar gael ar draws 93% o’r arwynebedd tir trefol, ond dim ond ar draws 58% o Gymru wledig. Mae’r rhaniad yn cynyddu ar gyfer darpariaeth 4G, lle mae 62% yng Nghymru drefol yn cael y ddarpariaeth – cynnydd o 35 pwynt canran ers 2016 – ond dim ond 19% mewn ardaloedd gwledig.

Mae adroddiad heddiw'n cynnwys data ynghylch y gwasanaeth symudol sydd ar gael ar rai o brif ffyrdd Cymru. Mae’r ddarpariaeth llais ar yr A470 yn 49%, sy'n dipyn is na chyfartaledd y DU ar gyfer ffyrdd A a B (68%). Mae’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau data symudol yn 29% ac felly’n is na chyfartaledd y DU, sef 58%. Ar yr A483, mae’r ddarpariaeth llais yn well na'r cyfartaledd (65%) ond mae'r ddarpariaeth data (38%) gryn dipyn yn is na’r cyfartaledd.

Ceir ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes darpariaeth symudol o gwbl. Yn ddaearyddol, dydy 9% o Gymru ddim yn derbyn gwasanaeth data gan unrhyw gwmni a dydy 8% ddim yn derbyn gwasanaeth llais gan unrhyw gwmni.

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, “Mae ein canfyddiadau’n dangos bod angen i gynlluniau i wella’r ddarpariaeth symudol yng Nghymru fynd rhagddynt yn gynt. Mae’n bwysig bod pawb sy’n rhan o’r broses o wella’r ddarpariaeth symudol yn cydweithio er mwyn i ddefnyddwyr yng Nghymru gael y gwasanaethau symudol maen nhw’n eu disgwyl, a’u bod yn debyg i'r hyn sydd ar gael yng ngweddill y DU.

“O ystyried topograffeg a dosbarthiad poblogaeth Cymru, mae yna anghenion unigryw am isadeiledd rhwydwaith sydd angen ei gyrraedd yng Nghymru i gadw i fyny gyda gweddill y DU.”

Er bod ffigurau heddiw yn dangos rhai gwelliannau, mae Ofcom yn galw ar weithrediad pellach gan y darparwyr3 symudol.

Mae gan Ofcom ei raglen waith ei hun i wella darpariaeth symudol sy’n cynnwys:

  1. Gosod anghenion newydd yn nhrwyddedau darparwyr. Yn gynnar y flwyddyn nesaf, byddwn yn ymgynghori ar gynlluniau manwl i wella’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, gan osod rhwymedigaethau bod tonnau awyr yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol. Bydd yr anghenion hyn yn cael eu cynnwys yn nhrwyddedau’r darparwyr fydd yn ennill yr amleddau ‘700 MHz’ sy’n gallu cyflwyno darpariaeth gryf ar draws ardaloedd eang iawn.
  2. Gorfodi rhwymedigaethau presennol. Mae’n ofynnol bod darparwyr symudol yn gorfod cynnig darpariaeth galwadau-a-thestun i 90% o eangdiroedd y DU erbyn diwedd y flwyddyn hon, tra bod O2 yn gorfod darparu signal 4G o dan do ar gyfer o leiaf 98% o eiddo erbyn yr un amser. Byddwn yn adrodd ar gydymffurfiaeth y cwmnïau symudol i gyflawni’r rhwymedigaethau hyn yn gynnar y flwyddyn nesaf, -yn cynnwys unrhyw gamau gorfodi posibl os nad ydynt yn cyrraedd y nod.
  3. Cynyddu capasiti’r rhwydwaith. Yng Ngorffennaf, fe wnaethon ni gyhoeddi cynlluniau i arwerthu mwy o donnau awyr i wella’r capasiti presennol yn ogystal ag amleddau ar gyfer gwasanethau 5G y dyfodol. Mae’r arwerthiant yn destun apêl cyfreithiol gan BT/EE a Three, yr ydym yn gobeithio y bydd yn cael ei ddatrys yn gyflym er budd defnyddwyr symudol.
  4. Helpu i wella’r ddarpariaeth ar y trenau. Fe wnaeth Ofcom osod offer ar drenau peiriannol y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol yn ddiweddar. Bydd hyn yn helpu i adeiladu darlun mwy cyfoethog o’r derbyniad symudol sydd ar gael ar draws rhwydwaith rheilffyrdd y DU, gan gyfrannu at ein gwaith gyda’r Llywodraeth i wella’r ddarpariaeth.
  5. Cefnogi mentrau’r Llywodraeth. Rydym hefyd yn helpu i weithredu cyfreithiau cynllunio newydd fydd yn ei gwneud hi’n haws i weithredwyr symudol i wella’r ddarpariaeth drwy rannu a gosod offer fel mastiau symudol.
  6. Ymestyn defnydd dyfeisiau mwyhau symudol. Ym mis Hydref, fe wnaethon ni benderfynu caniatáu’r defnydd didrwydded o ‘ddyfeisiau mwyhau’ ffonau symudol (‘repeaters’), fydd yn chwyddo’r signalau rhwng ffonau symudol a thrawsyryddion y darparwyr. Bydd y newidiadau hyn yn weithredol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae band eang cyflym iawn ar gael yn 89% o eiddo yng Nghymru

Tair blynedd yn ôl, dim ond i 55% o eiddo yng Nghymru yr oedd band eang cyflym iawn ar gael – a ddiffinnir gan Ofcom fel cyflymder llwytho i lawr o 30 Mbit yr eiliad neu ragor- sef yr isaf o holl wledydd y DU, ac 20 pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU ar yr adeg honno.

Ers 2013, mae’r ffigur yn 89% o eiddo yng Nghymru, o'i gymharu ag 85% yn 2016 a ffigur y DU, sef 91%. Rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau'r gwelliannau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau i fuddsoddi mwy er mwyn sicrhau bod band eang ar gael i’r eiddo hynny sydd heb eu cynnwys yn y gwaith cyflwyno masnachol a chyhoeddus hyd yma.

Sicrhau band eang cyffredinol, digonol

Mae adroddiad heddiw’n dangos bod band eang yn dal yn waeth mewn ardaloedd gwledig, lle mae adeiladau’n aml iawn wedi'u lleoli gryn bellter o’r gyfnewidfa ffôn neu’r cabinet stryd lleol. Nid yw oddeutu 19% o eiddo yng nghefn gwlad Cymru (DU 17%) yn cael cyflymder o 10Mbit yr eiliad neu fwy, o’i gymharu â dim ond 1% mewn ardaloedd trefol.

Ym mis Mehefin 2017, doedd gan 5% o eiddo yng Nghymru ddim mynediad i fand eang o leiaf 10Mbit yr eiliad (71,000 o eiddo). Yng Ngheredigion ac ym Mhowys, mae argaeledd band eang o 10Mbit yr eiliad neu fwy ar ei waethaf, gyda 19% o eiddo yng Ngheredigion ac 18% ym Mhowys ddim yn gallu cael y gwasanaethau hyn.

Serch hynny, Cymru wledig welodd y gwelliant mwyaf o ran darpariaeth band eang cyflym iawn, gyda chynnydd o ddeg pwynt canran i 66% ers y flwyddyn ddiwethaf. Mae darpariaeth cysylltiad ffibr i’r adeilad i adeiladau preswyl yng Nghymru (3%) gyda’r uchaf o blith gwledydd eraill y DU. Mae darpariaeth wledig yn arbennig o uchel, gyda 9% o eiddo â mynediad i'r dechnoleg hon.

Mae Ofcom hefyd yn cymryd amrywiaeth o gamau i helpu i wella darpariaeth band eang a chyflymderau yn cynnwys:

  1. Hyrwyddo buddsoddiad ar draws y diwydiant mewn rhwydweithiau ffibr-llawn Mae’r cysylltiadau hyn yn gallu darparu band eang sy’n llawer cyflymach a mwy dibynadwy. Mae Ofcom yn ei gwneud hi’n haws ac yn rhatach ar gyfer cystadleuwyr i osod eu rhwydweithiau gwibgyswllt eu hunain gan ddefnyddio rhwydwaith BT o bolion a phibellau tanddaearol.
  2. Cefnogi cynlluniau ar gyfer band eang cyffredinol. Mae Ofcom wedi darparu cyngor technegol i Lywodraeth y DU am ei gynlluniau ar gyfer cartrefi a busnesau ar draws y wlad -yn cynnwys mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell -i gael yr hawl i ofyn am gysylltiad band eang gyda chyflymder llwytho i lawr sydd o leiaf 10 Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny sydd o leiaf 1 Mbit yr eiliad.
  3. Sicrhau gwybodaeth well i gwsmeriaid. Mae’n rhaid i siopwyr band eang dderbyn gwybodaeth well am gyflymderau cyn iddynt ymrwymo i gontract a gallan nhw adael eu contract os ydy’r cyflymderau’n disgyn yn is na’r isafswm gwarantedig. Cafodd dulliau diogelu newydd eu gosod gan Ofcom ym mis Hydref.

Mae adroddiad Cysylltu’r Gwledydd heddiw yn cynnwys astudiaeth achos ar bentref Tregroes yn Nyffryn Teifi, Ceredigion. Mae’r astudiaeth achos yn cymharu’r gwasanaethau cyfathrebu sydd ar gael yng Nghymru wledig ac yn Nhregroes. Mae’n tynnu sylw at y ffaith mai 2% o eiddo yng Nghymru wledig ar hyn o bryd sy’n cael eu hystyried yn fannau digyswllt ar gyfer llais dan do a darpariaeth data, ond mae’r ffigur ar gyfer Tregroes yn 44%.

Ap gwirio band eang a symudol gwell byth

Gan ddefnyddio fersiwn fwy diweddar o ap Ofcom ar gyfer dyfeisiau tabled a ffonau clyfar, sy’n cael ei lansio heddiw, gall pobl weld a yw eu derbyniad symudol a’r cysylltiad band eang yn eu cartref yn rhoi’r gwasanaeth gorau posib iddynt.

Mae Gwiriwr Symudol a Band Eang Ofcom yn gwirio derbyniad symudol defnyddwyr, yn ogystal â’u band eang yn y cartref, er mwyn edrych ar eu perfformiad. Os daw’r ap o hyd i broblem gyda’r naill neu’r llall, bydd yn egluro’r rhesymau posib dros hynny ac yn darparu cyngor ymarferol i ddatrys pethau. Mae'r ap ar gael i’w lwytho i lawr yn Gymraeg.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae ein mesurau yn diffinio darpariaeth os ydy’r derbyniad symudol lleol yn ddigon cryf i ganiatáu:
    1. Fod bron pob galwad llais 90 eiliad yn gallu cael ei gwblhau heb ymyriad; a
    2. Bod cyflymderau’r holl gysylltiadau data yn ddigon cyflym i ddefnyddwyr allu bori’r rhyngrwyd a gwylio fideo symudol yn effeithiol.
  2. Mae’r adroddiad Cysylltu’r Gwledydd yn defnyddio data o Mai/Mehefin 2017.