Ofcom yn cloi adolygiad o’r broses o reoleiddio’r Post Brenhinol

01 Mawrth 2017

  • Mae perfformiad y Post Brenhinol wedi gwella ers i Ofcom gyflwyno rheolau
  • Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon â gwasanaethau post ar y cyfan
  • Bydd Ofcom yn gadael y rheolau post presennol yn eu lle am bum mlynedd

Heddiw mae Ofcom wedi cloi'r adolygiad cynhwysfawr o’r Post Brenhinol a'r ffordd mae’n darparu’r gwasanaeth post cyffredinol.

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau post, mae Ofcom yn diogelu’r gwasanaeth post cyffredinol. Mae’n mynnu bod y Post Brenhinol yn danfon eitemau post i bob cyfeiriad yn y DU, chwe diwrnod yr wythnos, am bris safonol. Felly mae miliynau o bobl a busnesau yn dibynnu ar y Post Brenhinol.(1)

Mae’r gwasanaeth cyffredinol wedi bod o dan bwysau sylweddol, gan wneud colled o dros £100m yn 2011 wrth i bobl barhau i anfon llai o lythyrau.

Yn sgil y pryderon hyn, cyflwynodd Ofcom fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau post yn 2012 er mwyn diogelu’r gwasanaeth post cyffredinol. Roedd hynny’n cynnwys rhoi mwy o ryddid masnachol i’r Post Brenhinol, ynghyd â rhoi cap diogelu ar brisiau stamp Ail Ddosbarth er mwyn gwarchod defnyddwyr bregus.(2)

Mae adolygiad Ofcom, a gwblhawyd heddiw, wedi dod i’r casgliad bod y rheolau a’r mesurau diogelu hyn yn gweithio’n dda ar y cyfan i bobl a busnesau sy’n defnyddio gwasanaethau post.

Felly, rydym wedi penderfynu cadw’r fframwaith presennol ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau post tan 2022 – roedd i fod i ddod i ben yn 2019.

Mae adolygiad Ofcom wedi dod i’r casgliadau canlynol hefyd:

  • Roedd maint elw’r Post Brenhinol yn 2015/16 o fewn yr ystod 5-10%, ond ar ben is yr ystod. Ym marn Ofcom, mae hynny’n debygol o fod yn gydnaws â gwasanaeth cyffredinol cynaliadwy.
  • Mae’r Post Brenhinol wedi gwneud gwelliannau effeithlonrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond gallai fynd ymhellach na’r gwelliannau hynny sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  • Mae perfformiad danfon y cwmni wedi gwella ers i fframwaith Ofcom gael ei sefydlu yn 2012, ond mae’n dal i fethu rhai targedau. Os bydd hynny’n parhau, gallai’r Post Brenhinol wynebu dirwyon sylweddol.(3)
  • Mae defnyddwyr yn fodlon ar y cyfan â'r gwasanaethau post, a’r elfen gwerth am arian.(4)
  • Mae perfformiad danfon y cwmni wedi gwella ers i fframwaith Ofcom gael ei sefydlu yn 2012, ond mae’n dal i fethu rhai targedau. Os bydd hynny’n parhau, gallai’r Post Brenhinol wynebu dirwyon sylweddol.
  • Mae gan ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig un o’r marchnadoedd parseli mwyaf cystadleuol yn y byd. Fodd bynnag, mae’r Post Brenhinol yn dal mewn sefyllfa dda o ran danfon parseli bychan, unigol.

Mae Ofcom wedi penderfynu peidio â gosod rheolaethau newydd ar brisiau cyfanwerthu neu adwerthu’r Post Brenhinol, gan fod gan y cwmni gymhellion masnachol cryf yn barod i fod yn fwy effeithlon.

Dywedodd Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr Cystadleuaeth Ofcom:“Gwyddom fod pobl yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth post cyffredinol, a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr ei fod yn dal yn effeithiol. Yn ôl ein hadolygiad, mae’r rheolau presennol yn gweithio’n dda ar y cyfan i gwmnïau a chartrefi.

“Mae gan y Post Brenhinol le i wella o hyd. Felly byddwn yn cadw llygad barcud ar bob agwedd ar berfformiad y cwmni, ac yn camu i mewn os bydd angen i ni warchod defnyddwyr rhag prisiau uchel.”

Cystadleuaeth mewn marchnadoedd mynediad a pharseli

Mae’r gystadleuaeth yn y sector parseli wedi dwysau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i amryw o gwmnïau post eraill ddod i’r amlwg, yn enwedig o ran parseli trwm (dros 2kg) a’r rheini mae angen eu danfon yn gyflym. Mae hyn wedi arwain at fanteision sylweddol i ddefnyddwyr o ran arloesi, dewis a gwerth am arian.

Ond er bod mwy o gystadleuaeth, mae gan y Post Brenhinol fantais o hyd o ran danfon parseli bychan, unigol. Felly mae Ofcom wedi penderfynu cadw’r cap diogelu ar brisiau parseli Ail Ddosbarth, er mwyn gwarchod defnyddwyr rhag prisiau uchel.

Mae ein hadolygiad hefyd wedi gweld bod cystadleuaeth gref yn y farchnad ‘mynediad’ o ran y rheini sy’n anfon llawer o lythyrau – lle mae cwmnïau sy’n cystadlu yn casglu ac yn didoli post cyn ei drosglwyddo i'r Post Brenhinol i’w ddanfon. Mae tua 58% o’r holl lythyrau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu danfon fel hyn.

Rydym wedi penderfynu tynhau rhai o’r rheolau yn hyn o beth. Bydd hyn yn rhwystro’r Post Brenhinol rhag gallu rhoi llai o rybudd wrth wneud newidiadau i’w drefniadau contract gyda chwmnïau mynediad.

Targedau danfon y Post Brenhinol

O ran ei dargedau danfon, mae perfformiad y Post Brenhinol wedi gwella’n gyffredinol ers i’r rheolau presennol gael eu cyflwyno yn 2012, ond mae wedi methu rhai targedau. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2015/16, ni lwyddodd y Post Brenhinol i gyrraedd ei darged i ddanfon 93% o eitemau post Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith.

Penderfynodd Ofcom beidio â rhoi dirwy y tro hwn, gan nodi bod rhai amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Post Brenhinol – gan gynnwys y cynnydd mewn eitemau siopa ar-lein sydd angen eu danfon o amgylch ‘Dydd Gwener Du’, sy’n ddiwrnod o fargeinion cyn y Nadolig yn y DU.

Mae’r Post Brenhinol wedi’i eithrio o dargedau perfformiad yn ystod mis Rhagfyr, er mwyn adlewyrchu lefel yr eitemau post mae angen eu danfon cyn y Nadolig. Ond mae diwrnodau hyrwyddo fel Dydd Gwener Du a ‘Dydd Llun Prynu Ar-lein’ yn digwydd ym mis Tachwedd fel arfer.

Felly, rydym nawr yn ystyried a oes angen newid y rheolau o gwbl er mwyn adlewyrchu’r arferion newydd hyn o ran siopa ar-lein. Fodd bynnag, mae Ofcom yn disgwyl i’r Post Brenhinol gyrraedd y targedau danfon a osodir iddo.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwasanaeth post cyffredinol yn bwysig dros ben i ddefnyddwyr. Gweler Adolygiad blaenorol Ofcom o Anghenion Defnyddwyr Gwasanaethau Post (PDF, 1.9 MB). Mae’n debygol y bydd Ofcom yn cynnal adolygiad arall o anghenion defnyddwyr gwasanaethau post yn ystod y pum mlynedd nesaf wrth i’r galw am rai gwasanaethau post newid, yn enwedig parseli.
  2. Cafodd y cap diogelu ar stampiau Ail Ddosbarth ei osod ar 55c yn 2012. Wrth godi prisiau yn ystod cyfnod y fframwaith rheoleiddio o saith mlynedd, bydd rhaid i’r Post Brenhinol ddilyn y sylfaen hon. Mae hyn yn golygu mai 58c yw'r cap ar hyn o bryd. Mae stamp Ail Ddosbarth yn costio 56c ar hyn o bryd.
  3. Gweler ymchwiliad Ofcom i ansawdd gwasanaeth y Post Brenhinol o ran gwasanaeth post Dosbarth Cyntaf yn 2015/16.
  4. Dywedodd mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr preswyl eu bod yn fodlon â’r gwasanaethau post (85%), y Post Brenhinol (82%), a’r elfen gwerth am arian (75%) ar y cyfan.
  5. Cyhoeddwyd adolygiad Ofcom yn 2015 ar ôl i Whistl, un o gystadleuwyr y Post Brenhinol, gyhoeddi ei fod yn tynnu'n ôl o’r farchnad ar gyfer danfon yn uniongyrchol – lle mae cwmni’n casglu, yn didoli ac yn danfon post swmp gan ddefnyddio ei rwydwaith ei hun yn unig. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan y Post Brenhinol unrhyw gystadleuaeth genedlaethol ar gyfer danfon llythyrau yn uniongyrchol.
  6. Ar wahân i'r Adolygiad o’r broses o Reoleiddio’r Post Brenhinol, mae Ofcom yn ymchwilio i weld a yw’r Post Brenhinol wedi camfanteisio ar safle cryf yn groes i Ddeddf Cystadleuaeth 1998, yn rhinwedd y prisiau mynediad a gyhoeddwyd ganddo ym mis Tachwedd 2013 ac ym mis Ionawr 2014. Daeth yr ymchwiliad hwn yn dilyn cwyn gan TNT Post UK (sef Whistl erbyn hyn). Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Ofcom Ddatganiad Gwrthwynebiad i’r Post Brenhinol, yn cyflwyno barn dros dro Ofcom fod y Post Brenhinol wedi torri’r gyfraith cystadleuaeth drwy ymddwyn mewn ffordd a arweiniodd at wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn cwmnïau post a oedd yn cystadlu yn erbyn y Post Brenhinol o ran danfon.

CYSYLLTIADAU

Elinor Williams
elinor.williams@ofcom.org.uk
07881987188