Postgraduate Loans available to Welsh students for the first time

19 June 2017

Cymraeg isod/Welsh below

Welsh students starting a postgraduate Master’s course from this August can, for the first time, apply for funding to help them meet the costs associated with their studies.

Up to £10,280 of funding will be available to students through new Postgraduate Loans administered by the Student Loans Company on behalf of the Welsh Government.

Students planning to start their course from 1 August 2017 can apply now at www.studentfinancewales.co.uk even if they don’t have a confirmed place at University.

SLC Executive Director, Operations, Derek Ross said: “We are delighted to be able to administer Postgraduate Loans for Welsh students and would urge anyone interested to apply as early as possible to ensure their funding is in place before they begin their studies. Like undergraduate student loans, the first payment is made after the course start date and only when the university or college confirms that the student has registered.”

Postgraduate Loans are paid in instalments three times throughout the academic year with £10,280 being the maximum amount awarded for the whole course. Students only have to apply for the loan once, unlike undergraduate courses where they need to apply every year. The maximum amount students can get each year depends on the length of the course.

A whole range of resources, including films and detailed guides with information about Postgraduate Loans can be found on the Student Finance Wales website at www.studentfinancewales.co.uk. Students can also follow SFW at facebook.com/SFWales or twitter.com/SF_Wales to keep up with all the latest news alerts.

Benthyciadau ôl-raddedig ar gael i fyfyrwyr Cymru am y tro cyntaf

Gall myfyrwyr o Gymru sy’n dechrau ar radd meistr o fis Awst eleni ymlaen wneud cais, am y tro cyntaf, am gyllid i’w helpu i dalu am y costau sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau.

Bydd hyd at £10,280 o gyllid ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng Benthyciadau Ol-raddedig newydd a weinyddir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) ar ran Llywodraeth Cymru.

Gall myfyrwyr sy’n bwriadu dechrau ar eu cwrs o 1 Awst 2017 ymlaen wneud cais nawr ar
www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk hyd yn oed os nad yw eu lle mewn prifysgol wedi’i gadarnhau eto.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol SLC, Derek Ross: ‘Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu gweinyddu benthyciadau gradd uwch meistr ar gyfer myfyrwyr Cymru, a byddem ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb ynddyn nhw i wneud cais ar y cyfle cyntaf, er mwyn sicrhau fod eu cyllid wedi’i drefnu cyn iddyn nhw ddechrau ar eu hastudiaethau. Fel benthyciadau i fyfyrwyr israddedig, mae’r taliad cyntaf yn digwydd ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs, a dim ond ar ôl i’r brifysgol neu’r coleg gadarnhau fod y myfyriwr wedi cofrestru.’

Telir benthyciadau ôl-raddedig mewn cyfrannau dair gwaith drwy gydol y flwyddyn academaidd, a’r uchafswm y gellir ei ddyfarnu yn erbyn cwrs cyfan yw £10,280. Dim ond unwaith y mae angen i fyfyrwyr wneud cais am y benthyciad, yn wahanol i gyrsiau i israddedigion, ble bydd angen gwneud cais bob blwyddyn. Mae’r uchafswm y gellir ei roi i fyfyrwyr bob blwyddyn yn dibynnu ar hyd y cwrs.

Gellir dod o hyd i bob math o adnoddau, gan gynnwys ffilmiau a chanllawiau manwl gyda gwybodaeth am fenthyciadau i ôl-raddedigion ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Gall myfyrwyr ddilyn CMC ar facebook.com/SFWales neu twitter.com/SF_Wales hefyd, i gadw llygad ar yr holl newyddion diweddaraf.