Newid darparwr symudol gyda neges destun am ddim

19 December 2017

  • Bydd defnyddwyr symudol yn gallu gadael heb siarad â'u darparwr presennol
  • Bydd gwaharddiad ar godi tâl am gyfnodau hysbysu ar ôl y diwrnod newid darparwr

Bydd cwsmeriaid symudol yn gallu newid darparwr drwy anfon neges destun am ddim, fel rhan o ddiwygiadau mawr a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Mae tua dau o bob pump sy'n newid darparwr symudol (38%) - 2.5 miliwn o bobl - yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un broblem fawr wrth newid, tra bod saith o bob deg wedi wynebu o leiaf anhawster.1

Un o'r rhwystrau mwyaf wrth newid darparwr yw gorfod siarad â'ch darparwr presennol, ac wynebu ymdrechion diangen i'ch perswadio i chi i aros. Bydd newidiadau Ofcom, a ddaw i rym o fewn 18 mis, yn rhoi rheolaeth i gwsmeriaid dros gysylltiadau â'u darparwr presennol.

Bydd y rheolau newydd yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i bobl a busnesau adael eu cwmni symudol. Dyma sut bydd proses anfon ‘neges i newid’ newydd Ofcom yn gweithio2:

O dan reolau newydd Ofcom, bydd darparwyr symudol hefyd yn cael eu gwahardd rhag codi tâl am gyfnodau rhybudd sy'n rhedeg ar ôl y dyddiad newid. Bydd hyn yn rhoi terfyn ar yr arfer o orfod talu am wasanaethau hen a newydd ar yr un pryd - gan arbed cyfanswm o tua £10 miliwn y flwyddyn i gwsmeriaid symudol y Deyrnas Unedig.

Mae cyflwyno diwygiadau yn golygu y bydd angen i weithredwyr symudol wneud nifer o newidiadau i'w systemau, a bydd angen cydlyniad rhwng cwmnïau symudol. Er enghraifft, bydd angen i'r diwydiant sefydlu'r codau byr newydd er mwyn i bobl allu anfon y negeseuon testun, a'r modd i anfon ymatebion awtomataidd ar unwaith i geisiadau newid darparwr, yn ogystal â threfniadau bilio newydd i roi terfyn ar daliadau dwbl yn y cyfnod hysbysu.

Gan hynny, bydd cyfnod gweithredu o 18 mis cyn i hyn ddod i rym, sy'n golygu bod yn rhaid i ddarparwyr gydymffurfio erbyn 1 Gorffennaf 2019 fan bellaf.

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: "Mae gormod o bobl yn digalonni wrth feddwl am y drafferth o newid darparwr symudol. Bydd ein newidiadau yn ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i ddefnyddwyr ffonau symudol gael gwell bargen.

"Bydd cwsmeriaid yn rheoli faint o gysylltiad sydd ganddyn nhw gyda'u darparwr symudol presennol, gan atal cwmnïau rhag oedi’r broses newid darparwr ac achosi rhwystredigaeth.”

Sut bydd hyn yn gweithio

Yn y dyfodol, bydd cwsmeriaid symudol yn gofyn am god newid unigryw, naill ai drwy neges destun neu ar-lein, i'w drosglwyddo i'w darparwr newydd - sydd wedyn yn gorfod trefnu i'r newid gael ei gwblhau o fewn un diwrnod gwaith.

Bydd pobl yn anfon un o ddau god byr cofiadwy ar ffurf neges destun, gan ddibynnu a ydyn nhw am gadw eu rhif ffôn symudol presennol ai peidio. Bydd yn rhaid i bob darparwr symudol ddefnyddio'r un codau byr.

Rhaid i ddarparwr presennol cwsmer ymateb yn syth drwy neges destun - naill ai gyda 'chod awdurdodi cludo' (PAC) ar gyfer y sawl sy'n dymuno cadw eu rhif ffôn, neu god canslo ar gyfer y sawl sydd eisiau rhif newydd. Yn achos busnesau, fe fyddan nhw’n cael y cod hwn o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Gan y bydd hyn yn gyflym ac yn hawdd, gallai cwsmeriaid ofyn am eu cod wrth chwilio am fargen newydd - er enghraifft, tra byddan nhw ar y ffôn gyda darparwr newydd, neu mewn siop.

Rhaid i ateb y darparwr hefyd gynnwys gwybodaeth bwysig am unrhyw daliad terfynu cynnar, costau heb eu talu am setiau llaw, neu falansau credyd talu-wrth-fynd.

Bydd y cod newid darparwr unigryw yn ddilys am 30 diwrnod. Bydd cwsmer yn gallu trosglwyddo'r cod i'w ddarparwr newydd pan fydd yn archebu ei wasanaeth newydd, heb yr angen am unrhyw sgwrs bellach.

Yn ogystal, bydd yn rhaid i ddarparwyr gyhoeddi a hyrwyddo canllawiau clir i helpu cwsmeriaid i ddilyn y broses newydd a gwneud penderfyniadau gwybodus am newid darparwr.

Helpu defnyddwyr i ymgysylltu

Mae diwygio’r broses o newid darparwr symudol yn rhan o raglen waith ehangach Ofcom i helpu cwsmeriaid i gael y gorau o'u ffôn a'u band eang.

Rydyn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd o helpu defnyddwyr i fanteisio'n llawn ar y dewis sydd ar gael; bwrw goleuni ar sut mae darparwyr gwahanol yn perfformio o ran ansawdd eu gwasanaethau; a sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth well am gyflymderau band eang cyn dechrau ar gontract.

Nodiadau I Olygyddion

  1. Mae anawsterau mawr yn cynnwys cysylltu â'u darparwr presennol (11%), canslo eu gwasanaeth (10%), neu gael yr wybodaeth angenrheidiol gan eu darparwr presennol (9%). Ffynhonnell: Ymchwil Ofcom.
  2. Sut mae'r broses newid darparwr yn gweithio ar hyn o bryd: O dan y broses bresennol, pan fo'r cwsmer yn dymuno trosglwyddo ei rif i'w ddarparwr newydd, fel arfer mae'n rhaid iddo ffonio ei ddarparwr presennol i ofyn am 'god awdurdodi cludo' (PAC), a rhoi hwn i'r darparwr y mae’n bwriadu ymuno ag ef. Os nad yw'r cwsmer yn bwriadu cadw ei rif, ac os yw ar gontract misol, mae'n rhaid iddo ganslo ei wasanaeth gyda’i ddarparwr presennol, ac yna mynd ati i drefnu gwasanaeth newydd gyda'r darparwr newydd ei hun.