Mae tua miliwn o gartrefi a swyddfeydd yn methu â chael cysylltiad band eang digonol, er bod darpariaeth yn gwella’n gyson.
Mae’r canfyddiadau’n rhan o adroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2017 Ofcom, sy'n edrych yn fanwl ar rwydweithiau di-wifr a thelegyfathrebu yn y Deyrnas Unedig a’r gwledydd sy'n rhan ohoni. Yn yr adroddiad eleni, gwelir cynnydd da o hyd yn y gwasanaethau cyfathrebu sydd ar gael a’r defnydd ohonynt, sy’n rhan mor allweddol o fywyd gwaith a phersonol pobl.
Ond mae Ofcom yn poeni bod tua 1.1 miliwn o gartrefi a swyddfeydd, neu 4% o adeiladau, yn methu â chael y cyflymderau and eang i gyflawni eu hanghenion tebygol. Caiff hyn ei ddiffinio fel band eang sy’n cynnig cyflymder o o leiaf 10Mbit yr eiliad, gyda chyflymder llwytho i fyny sydd o leiaf 1 Mbit yr eiliad -er ein bod yn disgwyl i’r anghenion hyn gynyddu dros amser. Mae’r ffigwr wedi disgyn o 1.6 miliwn o adeiladau y llynedd.
Mae adroddiad heddiw, sydd hefyd yn dangos bod band eang yn dal yn waeth mewn ardaloedd gwledig, lle mae adeiladau’n aml iawn wedi'u lleoli gryn bellter o’r gyfnewidfa ffôn neu’r cabinet stryd lleol. Nid yw oddeutu 17% o adeiladau yng nghefn gwlad y DU yn gyffredinol yn cael cyflymder o 10Mbit yr eiliad neu fwy, o’i gymharu â dim ond 2% mewn ardaloedd trefol.
Mae Ofcom yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer band eang cyffredinol, fel bod gan gartrefi a busnesau ar draws y wlad – gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell – hawl i ofyn am gysylltiad band eang 10Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny sydd o leiaf 1 Mbit yr eiliad.
Mae mynediad i fand eang cyflym iawn -sydd wedi ei ddiffinio gan Ofcom fel cyflymder llwytho i lawr o 30 Mbit yr eiliad neu ragor -yn parhau i wella. Cynigwyd y dewis o gael band eang cyflym iawn i 91% o gartrefi a busnesau bach yn y DU (27 miliwn), erbyn Mai 2017, i fyny o 89% (25.5 miliwn) y flwyddyn flaenorol.
Mae mwy o bobl yn cymryd mantais o hyn, sy’n dangos bod mwy o alw yn gynyddol am gyflymderau cyflymach. Mae pedwar ymhob deg adeilad wedi prynu cysylltiadau sy’n caniatáu band eang cyfym iawn o gymharu â llai na thraean y flwyddyn flaenorol.
Gwnaeth cyfartaledd cyflymder llwytho i lawr gwasanaeth band eang cysylltiedig yn y DU godi o 19% mewn blwyddyn, o 37 Mbit yr eiliad i 44 Mbit yr eiliad.
Mae darpariaeth band eang ‘gwibgyswllt’, y mae Ofcom yn ei ddiffinio fel cyflymderau o 300 Mbit yr eiliad ac uwch, wedi codi i 36% o adeiladau o dim ond 2% y llynedd. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i Virgin Media yn gwella capasiti ei rwydwaith band eang cebl.
Fodd bynnag, mae band eang ‘ffibr llawn’ -lle mae ceblau ffibr optig yn cael eu defnyddio yr holl ffordd i’r adeilad -ar gael ar gyfer 3% o gartrefi a swyddfeydd yn unig, i fyny o 2% y flwyddyn flaenorol. Rydym yn disgwyl i’r ffigur hwn godi yn y blynyddoedd nesaf wrth i nifer o weithredwyr rhwydwaith gyhoeddi eu cynlluniau i rhwydweithiau newydd.
Am ragor o wybodaeth am beth mae darganfyddiadau’r adroddiad yn eu golygu i chi, darllenwch ein canllaw ar gyfer defnyddwyr.
Dywedodd Steve Unger, Cyfarwyddwr Strategaeth Grŵp Ofcom: “Mae darpariaeth Band eang yn gwella, ond mae ein canfyddiadau’n dangos bod angen gwaith brys cyn bod pobl a busnesau yn cael y gwasnaethau sydd eu hangen arnynt.
“Dylai fod pawb yn gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd, lle bynnag mae nhw’n byw neu’n gweithio. Felly rydym yn cefnogi cynlluniau ar gyfer band eang cyffredinol ac yn hyrwyddo buddsoddiad mewn technoleg ffibr llawn sy’n gallu darparu cysylltiadau gwibgyswllt, dibynadwy.
Gall pobl wirio os yw eu derbyniad band eang symudol a’r cysylltiad band eang yn eu cartref yn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl iddynt, drwy ddefnyddio fersiwn ddiwygiedig o ap Ofcom ar gyfer dyfeisiau tabled a ffonau clyfar, sy’n cael ei lansio heddiw.
Mae Gwiriwr Symudol a Band Eang Ofcom yn gwirio derbyniad symudol defnyddwyr, yn ogystal â’u band eang yn y cartref, er mwyn edrych ar eu perfformiad. Os daw’r ap o hyd i broblem gyda’r naill neu’r llall, bydd yn egluro’r rhesymau posib dros hynny ac yn darparu cyngor ymarferol i ddatrys pethau. Mae hefyd yn galluog pobl i ddarganfod cryfder y signal gwahanol ddarparwyr mewn ardaloedd penodol -yn eu helpu nhw i ddewis darparwr symudol sy’n cyflawni eu hanghenion. Mae'r ap ar gael i’w lwytho i lawr yn Gymraeg.
Rhagor o wybodaeth am ein ap gwirio
Mae ein data darpariaeth diweddaraf yn dangos bod yn agos i chwech ymhob deg adeilad yn gallu defnyddio signal symudol 4G dan do o’r pedwar rhwydwaith, i fyny o 40% y llynedd. Ond mae gormod o bobl yn dal i frwydro i gael signal digonol-yn arbennig mewn ardaloedd gwledig ac ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd.
Dim ond 43% o’r DU sy’n derbyn darpariaeth ddaearyddol 4G ‘gyflawn’, lle mae signal ar gael o’r pedwar gweithredwr symudol. Ar gyfer galwadau a negeseuon testun, nid yw 30% o ddaearyddiaeth y DU yn derbyn signal o’r pedwar gweithredwr -i lawr o 37% y llynedd.
Er bod y ffigurau hyn yn dangos gwelliannau, rydym yn gofyn am fuddsoddiad pellach wrth ddarparwyr symudol i wella’r ddarpariaeth.
Ychwanegodd Steve Unger: “O ystyried yr holl ddatblygiadau technolegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ni ddylai pobl orfod dyfalu lle gallan nhw gael derbyniad symudol neu beidio. Mae’r cyhoedd a’r economi yn dibynnu ar ddarpariaeth symudol sy’n galluogi pobl i ffonio, anfon neges destun neu fynd ar-lein lle bynnag y mae nhw. Felly mae angen i gwmnïau symudol i weithredu ac i flaenoriaethu gwella’r ddarpariaeth ar draws y DU.”