Ofcom yn cwblhau cam cyntaf adolygiad o gyfathrebu digidol

16 July 2015

16 July 2015

Heddiw, amlinellodd Ofcom y sialensiau y mae'r DU yn eu hwynebu o ran sicrhau bod defnyddwyr a busnesau yn derbyn gwasanaethau cyfathrebu digidol o ansawdd uchel dros y degawd nesaf a thu hwnt.

Mae Adolygiad Strategol Ofcom o Gyfathrebu Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015, yn edrych ar gystadleuaeth, buddsoddiad, arloesedd ac argaeledd yr holl wasanaethau cyfathrebu digidol. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau band eang, symudol, sefydlog ac wedi'u bwndelu.

Mae cyfathrebu'n hanfodol i weithrediad yr economi, ac i'r ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn byw. Mae'r adolygiad yn rhan sylfaenol o waith ehangach Ofcom i wella'r gwasanaethau hyn i ddefnyddwyr a busnesau ar hyd a lled y DU.

Mae Ofcom yn gofyn am safbwyntiau ynghylch ei adolygiad, sy'n canolbwyntio ar bedwar prif faes, a cheir manylion am y rhain mewn dogfen drafod a gyhoeddwyd heddiw:

  • buddsoddi ac arloesi yn y farchnad, a all helpu i sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn eang;
  • cystadleuaeth i sicrhau gwasanaethau o ansawdd a phrisiau fforddiadwy;
  • grymuso defnyddwyr a busnesau, gan sicrhau'n arbennig fod ganddynt y wybodaeth a'r modd i ddewis a newid darparwyr;
  • parhau i dargedu rheoleiddio ar gyfer meysydd sy'n peri pryder, a dadreoleiddio pan fo hynny'n bosib er mwyn i farchnadoedd weithredu'n dda.

Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: "Mae'r adolygiad hwn yn ymwneud â bodloni anghenion newidiol pobl drwy eu gwasanaethau cyfathrebu, lle bynnag y maent yn byw ac yn gweithio.

"Mae ein blaenoriaethau'n glir. Rydyn ni am hyrwyddo cystadleuaeth, buddsoddiad ac arloesedd er mwyn i bawb elwa o ddarpariaeth, dewis, pris ac ansawdd gwasanaeth hyd yn oed gwell yn y blynyddoedd sydd i ddod."

Buddsoddi ac arloesi

Mae defnyddwyr a busnesau yn y DU wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau cyfathrebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae band eang symudol 4G nawr ar gael i 42% o safleoedd, gan y pedwar gweithredwr, ac i 90% gan o leiaf un. Mae band eang cyflym iawn ar gael i 83% o safleoedd bellach, ac mae ystod o ddarparwyr yn cystadlu o ran gwasanaeth a phris.

Mae Ofcom am weld band eang cyflym ar gael yn yr ystod ehangaf bosib o gartrefi, gweithleoedd ac ar y ffordd. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod gofyn cael cyflymder band eang o 10Mbit yr eiliad er mwyn gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein poblogaidd y dyddiau hyn, fel fideo ar alwad. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dydy 8% o eiddo’r DU ddim yn gallu cael y cyflymderau hynny.

Mae argaeledd yn bryder yn yr ardaloedd mwy gwledig, yn arbennig yn y gwledydd a'r rhanbarthau1 ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol, lle mae costau cyflwyno neu incymau isel yn rhwystrau penodol. Bydd adolygiad Ofcom yn ceisio dod o hyd i atebion posib i'r problemau hyn.

Mae'n edrych ar sut gall rheoleiddio alluogi datblygu band eang tra chyflym yn fasnachol yn y dyfodol, gan sicrhau ei fod ar gael mor eang â phosib2 .

Mae Ofcom hefyd yn ystyried pa opsiynau eraill allai fod ar gael yn y dyfodol i wella gwasanaethau symudol. Bydd band eang 4G symudol yn cyrraedd 98% o safleoedd yn y DU, yn sgil rheolau Ofcom a buddsoddiad y diwydiant. Ond bydd angen i fuddsoddiad mewn rhwydweithiau gyfateb â disgwyliadau cynyddol defnyddwyr a busnesau am wasanaethau data dibynadwy, cyffredinol, sydd bob amser ar waith.

Sicrhau bod cystadleuaeth yn darparu

Un o'r prif bwyntiau y mae'r adolygiad presennol yn canolbwyntio arno yw i ba raddau y mae cystadleuaeth yn arwain at fanteision i ddefnyddwyr a busnesau. Dechreuodd adolygiad strategol diwethaf Ofcom ym mis Rhagfyr 2003, a daeth i ben ym mis Medi 2005.

Arweiniodd at greu Openreach, ac mae'n rhaid i BT roi mynediad cyfartal i ddarparwyr sy'n cystadlu, er mwyn iddynt hwy gynnig gwasanaethau telegyfathrebu i ddefnyddwyr3.

Mae'r dull gweithredu hwn wedi arwain at ddewis, ansawdd a gwerth gwirioneddol i ddefnyddwyr ffôn a band eang dros sawl blwyddyn. Serch hynny, mae yna rai sialensiau o hyd. Er enghraifft, mae modd i reoliadau gyfyngu ar y cymhelliant i BT wahaniaethu yn erbyn darparwyr sy'n cystadlu, ond nid ydynt yn cael gwared â'r cymhelliant hwnnw'n gyfan gwbl.

Mae rhwydwaith BT wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda llinellau ffeibr yn rhedeg yn nes at eiddo. Mae'n bosib y bydd angen modelau gwahanol o gystadleuaeth ar gyfer hyn, yn hytrach na'r rhai a oedd yn gweithio orau ar gyfer y rhwydwaith telegyfathrebu copr traddodiadol.

Hefyd, mae Ofcom wedi bod yn poeni bod perfformiad Openreach ar ran darparwyr wedi bod yn wael yn rhy aml, a bod gofyn cyflwyno rheolau er mwyn gosod llinellau ac atgyweirio namau'n gynt.

Bydd yr adolygiad hwn yn rhoi sylw i'r materion hyn. Heddiw, mae Ofcom yn gofyn am safbwyntiau a thystiolaeth ynghylch dulliau gweithredu rheoleiddio yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Cadw'r model cyfredol, lle mae Openreach yn 'gweithredu ar wahân' i BT, a defnyddio adolygiadau rheolaidd o'r farchnad i roi sylw i unrhyw bryderon ynghylch cystadleuaeth;
  • Cryfhau'r model cyfredol, drwy roi rheolau newydd i BT � fel rheolaeth ar ei ffioedd cyfanwerthu gyda chymhellion cryfach i wella ansawdd gwasanaeth, neu gosbau sy'n fwy llym os nad yw BT yn cyrraedd y nod;
  • Gwahanu Openreach oddi wrth BT, a allai arwain at gystadleuaeth neu fanteision ehangach i ddefnyddwyr. Byddai'n cael gwared â chymhelliant gwaelodol BT i wahaniaethu yn erbyn cystadleuwyr. Gallai gwahanu hefyd gynnig ffyrdd o symleiddio'r rheoliadau presennol. Fodd bynnag, byddai'r broses yn un heriol, ac efallai na fyddai'n mynd i'r afael â rhai pryderon sy'n ymwneud ag Openreach - fel ansawdd y gwasanaeth, neu amseriad a lefel y penderfyniadau ynghylch buddsoddi;
  • Dadreoleiddio a hyrwyddo cystadleuaeth rhwng rhwydweithiau. Mae Virgin Media ac amrywiaeth o weithredwyr llai, yn berchen ar rwydweithiau, sy'n caniat�u iddynt ddarparu gwasanaethau ffôn a band eang heb ddefnyddio rhwydwaith BT o gwbl. Gall y math hwn o gystadleuaeth 'o un pen i'r llall', sydd weithiau'n golygu rhedeg llinellau ffeibr yn uniongyrchol i safleoedd, helpu i gymell Openreach i wella ei seilwaith. Fodd bynnag, gallai hefyd arwain at ddyblygu rhwydweithiau a chystadleuaeth wan.

Bydd hefyd yn edrych ar gyfuno gwasanaethau cyfryngau - a gynigir dros wahanol lwyfannau, neu fel 'bwndel' gan yr un gweithredwr. Er enghraifft, mae gwasanaethau telegyfathrebu'n cael eu gwerthu fwy a mwy i ddefnyddwyr ar ffurf bwndeli, ac weithiau gyda chynnwys darlledu; gall hyn arwain at fanteision i ddefnyddwyr, ond gall hefyd arwain at risgiau i gystadleuaeth.

Grymuso defnyddwyr a busnesau

Mae pobl yn teilwra gwasanaethau cyfathrebu yn unol â'u hanghenion, ac yn dewis o amrywiaeth o ddarparwyr a phris sy'n addas iddynt hwy. Er mwyn i hyn weithio'n iawn, rhaid iddynt ddeall yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt, a gallu newid rhyngddynt yn effeithiol.

Mae adolygiad Ofcom yn ystyried a oes gan ddefnyddwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud y dewis sy'n iawn iddynt hwy, wrth ymchwilio i'r farchnad ac adeg prynu. Mae hefyd yn edrych ar sut byddai modd hwyluso'r broses o newid darparwyr.

Ar 20 Mehefin, cyflwynodd Ofcom  reolau newydd sy'n golygu y gall pobl newid darparwr dros rwydwaith BT, drwy ddelio â'r cyflenwr newydd yn unig. Ar hyn o bryd, mae Ofcom yn ystyried a fyddai prosesau tebyg yn briodol ar gyfer gwasanaethau symudol a gwasanaethau sydd wedi'u bwndelu â theledu drwy dalu, gan fod mwy a mwy o ddefnyddwyr yn prynu gwasanaethau fel hyn.

Y tu hwnt i hyn, mae Ofcom yn awyddus i edrych ar ffyrdd newydd y gall defnyddwyr gysylltu â'r farchnad er mwn elwa o gystadleuaeth. Gallai enghreifftiau gynnwys gwneud gwasanaethau'n haws eu cymharu, a gwella mynediad at gyngor annibynnol neu adborth gan ddefnyddwyr.

Rheoleiddio wedi'i dargedu a dadreoleiddio

Mae'n rhaid i reolau'r sector cyfathrebu ddatblygu er mwyn cadw i fyny â datblygiadau ym maes technoleg, anghenion a disgwyliadau defnyddwyr. Bydd adolygiad Ofcom yn nodi lle byddai modd symleiddio, dileu neu ddisodli rheoliadau sydd eisoes yn bodoli.

Er enghraifft, efallai y byddai'r cynnydd mewn gwasanaethau cyfathrebu drwy fand eang dros y rhyngrwyd, fel negeseuon gwib, yn creu achos dros reoleiddio llai ar weithredwyr symudol, neu dros ymestyn y rheolau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gwasanaethau dros y rhyngrwyd.

Y camau nesaf

Mae'r ddogfen drafod heddiw yn nodi casgliad cam cyntaf Adolygiad Strategol Ofcom o Gyfathrebu Digidol.

Ers cyhoeddi'r adolygiad, mae Ofcom wedi bod yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid - gan gynnwys y diwydiant, grwpiau defnyddwyr, Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig - mewn cyfarfodydd a gweithdai.

Bydd Ofcom nawr yn bwrw ymlaen ag ail gam yr adolygiad, ac mae'n gofyn am dystiolaeth ac ymatebion i'r ddogfen drafod. Bydd hyn yn sail i ddatganiad ddiwedd y flwyddyn ar flaenoriaethau a chamau gweithredu, a fydd yn llunio dull gweithredu rheoleiddio Ofcom ar gyfer y degawd nesaf.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION:

1. Darpariaeth llais gan y prif weithredwyr rhwydwaith symudol yng Ngwledydd y DU

 dcr release 1

Mae Ofcom wedi gosod rhwymedigaeth ar un o'r trwyddedau a roddwyd drwy'r arwerthiant sbectrwm 4G, sy'n golygu bod yn rhaid i'r ddarpariaeth band eang symudol 4G o dan do gyrraedd o leiaf 98% o safleoedd yn y DU erbyn 2017, ac o leiaf 95% ym mhob un o'r Gwledydd.

2. Mae BT wedi cyhoeddi treialon technoleg i ddarparu cyflymderau o hyd at 500Mbit yr eiliad i'r rhan fwyaf o'r DU o fewn degawd, ac mae Virgin Media a chwmnïau fel CityFibre a Gigaclear hefyd yn bwriadu cyflwyno rhwydweithiau tra chyflym.

3. Daeth Adolygiad Strategol Ofcom o Delegyfathrebu i'r casgliad fod gan BT, sef y prif gwmni sydd wedi'i integreiddio'n fertigol, y gallu a'r cymhelliant i wahaniaethu yn erbyn darparwyr sy'n cystadlu.

4. Prif ddyletswydd Ofcom dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, yw hyrwyddo buddiannau dinasyddion yng nghyswllt materion cyfathrebu a hyrwyddo buddiannau defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol, lle bo hynny'n briodol, drwy hybu cystadleuaeth.

Nodyn – mae’r datganiad i’r newyddion hwn yn cynnwys cywiriad: ar hyn o bryd dydy 8% o eiddo’r DU – hynny yw, cartrefi a swyddi gyda’i gilydd – ddim yn gallu cael band eang 10Mbit yr eiliad. Roedd y fersiwn blaenorol yn datgan yn anghywir “8% o gartrefi’r DU”.