12 August 2014
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ymchwil ar ansawdd galwadau ffôn symudol a ddarperir gan gwmnïau rhwydwaith.
Mae gwella ansawdd gwasanaethau symudol i ddefnyddwyr yn un o feysydd blaenoriaeth Ofcom. Mae ymchwil heddiw yn rhan o gynllun i helpu i gefnogi cynlluniau a fydd yn gwella'r ddarpariaeth symudol yn y DU a rhoi gwybodaeth safonol i ddefnyddwyr am dderbyniad symudol.
Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i helpu defnyddwyr i ddewis gwasanaeth symudol a fydd yn ateb eu hanghenion hwy. Mae hefyd yn helpu i hybu cystadleuaeth rhwng y cwmnïau ac ysgogi rhagor o welliannau yn ansawdd y gwasanaeth. Byddwn yn parhau i fonitro’r datblygiadau a darparu adroddiadau arnynt.
Mae’r adroddiad yn cynnwys ymchwil ar ansawdd galwadau ffôn symudol o safbwynt defnyddwyr ar ffonau symudol; data a ddarparwyd gan EE, O2, Three a Vodafone ar berfformiad eu rhwydweithiau; ac ymchwil defnyddwyr am eu bodlonrwydd â rhwydweithiau symudol.
Canfu ymchwil Ofcom, er bod bodlonrwydd defnyddwyr â rhwydweithiau symudol yn uchel (76%) yn gyffredinol, yr oedd yn amrywio yn ôl lleoliad. Roedd oddeutu 78% o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon â’u rhwydwaith symudol, o’i gymharu â 67% o bobl yn ardaloedd gwledig y DU a 70% mewn ardaloedd anghysbell.
Canfyddiadau ymchwil annibynnol
Defnyddiodd Ofcom ddata gan RootMetrics, cwmni sy’n mesur perfformiad rhwydweithiau ar ffonau symudol, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiad defnyddwyr yn gwneud galwadau ffôn ar rwydweithiau EE, O2, Three a Vodafone.
Mae’r data'n dangos canran y galwadau ffôn symudol yn y DU sy'n cael eu cysylltu'n llwyddiannus. Yn ôl data RootMetrics, cafodd 97.0% o alwadau ar rwydwaith EE eu cysylltu'n llwyddiannus, 95.3% ar rwydwaith O2, 94.5% ar rwydwaith Three a 92.6% ar rwydwaith Vodafone yn ystod ail hanner 2013.
Mae’r data’n dangos bod canran y galwadau a gafodd eu cysylltu’n llwyddiannus yn amrywio yn ôl darparwr ar draws y DU, gyda gwahaniaethau sylweddol yn yr ardaloedd trefol a gwledig.
Data ar gyfer y DU ar ganran y galwadau 2G/3G a gafodd eu cwblhau'n llwyddiannus (RootMetrics)
Ffynhonnell: Data RootMetrics ar gyfer ail hanner 2013. Mae cromfachau ar y siart yn dangos ystod hyder y data.
Data cwmnïau rhwydwaith
Cafodd data cyfanredol ar alwadau sydd wedi’u ‘blocio’ neu eu ‘colli’ eu casglu hefyd oddi wrth y pedwar cwmni rhwydwaith symudol.
Mae galwadau wedi'u blocio yn digwydd pan mae defnyddiwr mewn ardal lle mae signal, ond lle nad yw'n gallu gwneud galwad; gall hyn ddigwydd oherwydd galw mawr ar y rhwydwaith symudol. Mae galwadau a gollir yn digwydd pan fydd galwad yn cael ei gysylltu ond wedyn yn cael ei derfynu'n annisgwyl. Gall hyn ddigwydd pan fydd defnyddiwr yn symud i ardal lle mae'r signal symudol yn wael neu lle nad oes dim signal.
Mae data’r cwmnïau’n mesur canran y galwadau sy’n cael eu cwblhau, ond nid yw'n cynnwys ymdrechion i wneud galwadau pan fydd cwsmeriaid y tu allan i signal y rhwydwaith, ac felly'n wahanol i ddata RootMetrics. Mae hyn, yn rhannol, yn debygol o esbonio pam mae'r cyfraddau 'methu gwneud galwadau' a roddir gan RootMetrics yn uwch na'r cyfraddau yn nata'r cwmnïau.
Er nad oes modd cymharu data pob cwmni’n uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau yn y dulliau mesur, mae'n dangos bod oddeutu dau ymgais ymhob 100 i wneud galwad yn aflwyddiannus (roedd ystod y galwadau llwyddiannus y mis rhwng 97.9% a 98.6%). Does dim newid arwyddocaol wedi bod dros amser yng nghyfran y galwadau a gafodd eu cysylltu'n llwyddiannus gyda rhai rhwydweithiau’n dangos gwelliant.
Ymchwil defnyddwyr
I ddeall problemau â derbyniad symudol yn well, gofynnodd Ofcom i ddefnyddwyr am eu profiadau o dderbyniad symudol.
Dywedodd dros hanner y bobl (55%) a gyfrannodd at yr arolwg nad oeddynt byth neu braidd byth yn cael problem gyda diffyg signal neu dderbyniad, tra dywedodd bron i draean (30%) eu bod yn wynebu problemau o'r fath bob wythnos o leiaf.
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl nad oeddynt byth neu braidd byth yn cael galwad wedi’i flocio (69%) neu'n colli galwad (65%). Ond, dywedodd un rhan o bump o’r bobl eu bod wedi cael galwadau wedi'u blocio (20%) ac yn colli galwadau (22%) o leiaf unwaith yr wythnos, ac mae'r ffigur yn codi mewn ardaloedd gwledig.
Y camau nesaf
Mae Ofcom yn gwneud cynnydd gyda’i gynllun i helpu i wella'r ddarpariaeth signal symudol yn y DU a rhoi gwybodaeth ddibynadwy i ddefnyddwyr ar dderbyniad symudol.
Mae EE, O2, Three a Vodafone wedi cytuno i weithio gydag Ofcom i ddatblygu dull cyffredin ar gyfer mesur canran y galwadau sy'n cael eu cwblhau'n llwyddiannus ar eu rhwydweithiau.
Mae’r pedwar cwmni sy’n darparu gwasanaeth symudol bellach yn cyflawni eu dyletswyddau i sicrhau darpariaeth o 90% ar gyfer gwasanaeth symudol 3G, tra mae cwmnïau symudol wedi dweud eu bod hwythau’n bwriadu ymgyrraedd at y gofyniad sydd ar 02 i sicrhau darpariaeth o 98% ar gyfer gwasanaeth symudol 4G. Bydd hyn yn ymestyn y ddarpariaeth band eang symudol i sawl ardal lle nad yw 3G ar gael ar hyn o bryd.
Yn ddiweddarach eleni, bydd Ofcom yn cyhoeddi ymchwil a fydd yn cymharu cyflymderau band eang symudol 3G a 4G, yn dilyn gwaith profi manwl ar draws pump o ddinasoedd y DU. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i ddewis gwasanaeth sy’n addas iddynt hwy ac yn annog darparwyr i wella'u perfformiad.
Mae Ofcom yn gweithio gyda'r Llywodraeth ar ei phrosiect seilwaith symudol £150m, sy'n ariannu mastiau ffonau symudol mewn ardaloedd lle nad oes darpariaeth. Mae Ofcom hefyd yn cefnogi’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail i wella gwasanaethau symudol ar y rheilffordd ac mae'n croesawu cynigion diweddar i fuddsoddi £53m i wella Wi-Fi ar drenau.
Mae adroddiad Ofcom, Consumer experiences of mobile phone calls, wedi’i gyhoeddi yma.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION:
1.Mae Ofcom yn bwriadu defnyddio data ar gyfer pob awdurdod lleol, yn debyg i ymchwil heddiw, yn ei adroddiad seilwaith ar gyfer 2014 ar gyflwr seilwaith cyfathrebiadau’r DU. Mae Ofcom hefyd yn cynnig canllaw i ddefnyddwyr ar sicrhau'r derbyniad gorau posibl
2. Cynlluniwyd arwerthiant 4G Ofcom mewn ffordd sy'n golygu bod un drwydded - a enillwyd gan O2 - yn gorfod cyflwyno 4G ar gyfer o leiaf 98% o boblogaeth y DU (pan fyddant o dan do) erbyn 2017 fan bellaf. Mae hyn yn arwain at dros 99% o ddarpariaeth ar gyfer 4G yn yr awyr agored. Mae’r cwmnïau symudol eraill yn y DU wedi dweud eu bod hwythau hefyd yn bwriadu cyrraedd 98%.
3. Mae Map Gwasanaethau Symudol y DU 2013 gan Ofcom yn darparu gwybodaeth am lefel y ddarpariaeth symudol yn yr awyr agored yn y DU fesul awdurdod gweinyddol.
4. Ofcom yw'r rheoleiddiwr annibynnol a’r awdurdod cystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebu’r DU, gyda chyfrifoldebau sy’n ymestyn i deledu, radio, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau diwifr a gwasanaethau post.
5. I gael rhagor o wybodaeth am Ofcom, ewch i:www.ofcom.org.uk. Mae modd gweld datganiadau i’r wasg Ofcom yn:http://media.ofcom.org.uk/
CYSWLLT
Rhodri Williams
Rhodri.Williams@ofcom.org.uk
Ofcom, Cymru
029 2046 7201