Mae Ofcom yn cyhoeddi treialon i helpu gorsafoedd bach ymuno â radio digidol

24 February 2015

24 February 2015

Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn treialu technoleg newydd a allai roi dull fforddiadwy i orsafoedd radio bach ar draws y DU ddarlledu ar radio digidol DAB.

Os bydd y treialon yn llwyddo, gallai gwrandawyr radio'r DU elwa o fwy o orsafoedd radio lleol a chymunedol ar DAB.
Ar hyn o bryd mae cost darlledu ar radio DAB yn rhy ddrud i nifer o orsafoedd radio bach.

Ond mae dull gweithredu newydd, sydd wedi cael ei arloesi gan beiriannydd Ofcom, Rashid Mustapha, yn golygu y gallai gorsafoedd radio bach ddechrau darlledu ar radio DAB am ffracsiwn o'r gost ar hyn o bryd.

Mae'r dull gweithredu newydd yn rhatach na'r systemau cyfredol oherwydd ei fod yn defnyddio meddalwedd sydd ar gael am ddim o opendigitalradio.org yn hytrach na dibynnu ar galedwedd sydd yn aml yn ddrud. Mae hyn yn cael ei alw yn 'DAB graddfa fach', ac mae'n fwyaf addas i ddarlledu i ardaloedd daearyddol bach, sy'n ddelfrydol ar gyfer gorsafoedd radio lleol a chymunedol.

Arbrawf DAB graddfa fach cyntaf y DU

Cafodd amlblecs DAB graddfa fach arbrofol cyntaf y DU - gan ddefnyddio nifer bach o donnau awyr i ddarlledu - ei sefydlu yn 2012.

Cafodd peiriannydd Ofcom Rashid Mustapha drwydded brawf a gosododd drawsyrrydd radio digidol pwer isel ar do yn Brighton. Roedd y prawf yn defnyddio trawsyrrydd bach a chod meddalwedd am ddim o opendigitalradio.org a chyfrifiadur 'Linux', a llwyddodd i ddarlledu radio digidol a oedd yn ddibynadwy ac o ansawdd uchel. Trac sain o wylanod y m r yn crawcian oedd y prawf a gafodd ei drawsyrru.

Dywedodd Rashid, uwch arbenigwr darlledu yn Ofcom: "Roedd y prawf cyntaf o'r cysyniad DAB graddfa fach wedi cael ei gynnal o do'r adeilad talaf yn Nwyrain Sussex. Er gwaethaf yr oedi annisgwyl cyn dechrau'r arbrawf wrth i ni ddisgwyl i hebogiaid tramor ifanc adael eu nyth, roedd y dechnoleg yn rhoi canlyniadau calonogol dros ben."

"Y treialon sy'n cael eu cyhoeddi heddiw ydy'r cam nesaf at bosibilrwydd helpu cannoedd o orsafoedd bach i ddechrau darlledu ar radio digidol."

Treialon ar gyfer dwsinau o orsafoedd radio digidol

Mae Ofcom wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw ar gyfer hyd at ddeg treial o DAB graddfa fach ar draws y DU.

Bydd pob treial yn caniat u i wasanaethau radio digidol newydd ddarlledu i'r ardal leol a bydd yn edrych ar sut gall grwpiau o orsafoedd radio weithio gyda'i gilydd.

Bydd y treialon hefyd yn cyfrannu at waith Ofcom i ddod o hyd i amleddau addas ar gyfer darlledu gorsafoedd digidol llai a helpu i ddeall sut byddai modd trwyddedu'r gwasanaethau hyn.

Heddiw mae Ofcom yn gofyn am geisiadau i gymryd rhan yn y treialon, ac mae disgwyl i'r treialon hyn bara naw mis. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ar 2 Ebrill 2015.

Dywedodd Claudio Pollack, Cyfarwyddwr Grwp Defnyddwyr a Chynnwys Ofcom: "Rydyn ni'n chwilio am orsafoedd radio lleol a chymunedol i gymryd rhan mewn treialon i brofi'r dechnoleg newydd arloesol hon."

"Os bydd yn llwyddo gallai fod yn fantais fawr i wrandawyr radio digidol ar hyd a lled y wlad."�

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ariannu gwaith Ofcom ar sut gallai gorsafoedd bach gael mynediad at radio digidol DAB.

Radio digidol yn y DU

Mae bron i hanner oedolion y DU (48.9%) yn dweud eu bod nawr yn berchen ar radio DAB digidol ac mae 37.9% o'r holl wrando ar radio yn ddigidol.

Mae'r amlblecs DAB masnachol cenedlaethol cyntaf, sy'n cael ei redeg gan Digital One, nawr yn cario 14 gorsaf radio digidol, ac mae disgwyl lansio ail amlblecs DAB masnachol cenedlaethol flwyddyn nesaf.

Yn ogystal chynyddu'r capasiti ar gyfer radio digidol cenedlaethol, mae Ofcom yn cefnogi'r  Cynllun Ymestyn DAB Lleol, a fydd yn dod gwasanaethau radio DAB lleol gan ddarlledwyr masnachol a'r BBC i hyd yn oed rhagor o gartrefi.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Bydd Ofcom yn dyfarnu trwyddedau amlblecs tymor byr o dan Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006
  2. Mae Ofcom yn disgwyl darparu'r amlblecsau treial ymysg amlblecsau DAB sydd eisoes yn bodoli ac mewn cyfran o sbectrwm cyfagos nad yw'n cael ei defnyddio gan wasanaethau radio eraill.
  3. Mae Ofcom yn bwriadu darparu'r rhan fwyaf o'r offer sydd ei angen i sefydlu'r amlblecsau DAB graddfa fach os bydd yr ymgeisydd yn gofyn am hynny.
  4. Mae Ofcom yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu darparu eu safleoedd trawsyrrydd eu hunain ac o leiaf ddau wasanaeth rhaglenni gan ddarparwyr gwahanol. Mae'r meini prawf cymhwysedd ac asesu llawn yn y Gwahoddiad i Ymgeisio.