Mae ymchwil gan Ofcom wedi canfod bod gwylwyr a gwrandawyr presennol yn llai goddefgar nag erioed o'r blaen o iaith hiliol neu wahaniaethol.
Mae pobl hefyd yn dweud eu bod yn fwy tebygol o oddef rhegi ar y teledu a'r radio ar yr amod ei fod yn adlewyrchu sefyllfaoedd 'byd go-iawn' a'i fod yn codi yn y cyd-destun cywir.
Daw'r canfyddiadau o waith ymchwil newydd ar agweddau pobl at iaith ac ystumiau y tybir eu bod yn anweddus. Hon yw'r astudiaeth fwyaf erioed o'i math gan Ofcom.
Mae'r canlyniadau'n hanfodol wrth ategu ein gwaith ar safonau darlledu er mwyn gwarchod gwylwyr a gwrandawyr, yn enwedig plant.
Roedd pobl ledled y DU wedi cyfrannu at yr ymchwil drwy gymysgedd o grwpiau ffocws, cyfweliadau manwl, trafodaethau ac arolygon ar-lein. Edrychwyd ar 144 o eiriau, gan archwilio beth oedd pobl yn debygol o'i ystyried yn annerbyniol, a'r rhesymau pam eu bod yn credu bod rhai geiriau penodol yn peri tramgwydd.
Am y tro cyntaf, roedd yr ymchwil hefyd wedi cynnwys chwe ystum corfforol anweddus a rhai ymadroddion mwy dyrys sydd wedi codi ers y tro diwethaf i Ofcom roi sylw i'r maes hwn yn 2010.11
Canfu'r gwaith ymchwil fod gwylwyr a gwrandawyr yn ystyried bod y cyd-destun, megis y tôn, y ffordd y caiff ei gyflwyno a'r amser darlledu, yn bwysig wrth asesu a yw iaith anweddus yn dderbyniol. Mae pobl yn dweud eu bod yn fwy tebygol o oddef rhywfaint o regi os yw'n adlewyrchu beth fyddent yn disgwyl ei weld mewn sefyllfaoedd yn y 'byd go-iawn'.
Yn gyffredinol, iaith hiliol a gwahaniaethol amlwg oedd fwyaf annerbyniol. Tybiwyd bod geiriau o'r fath yn ddifrïol, yn wahaniaethol ac yn sarhaus. Roedd llawer yn poeni am y defnydd o'r rhain ar unrhyw adeg, oni bai fod cyfiawnhad penodol dros eu defnyddio oherwydd y cyd-destun. Dywedodd sawl un fod geiriau gwahaniaethol a hiliol yn taro rhywun yn galetach, gan fod mwy o effaith emosiynol y tu cefn iddynt na rhegfeydd 'arferol'.
O ran termau rhywiol, roedd pobl yn eu hystyried yn debyg i regfeydd cryfach cyffredinol. Tybiwyd eu bod yn ddi-chwaeth ac yn aml yn ddiangen, ond dywedodd pobl eu bod yn fwy derbyniol ar ôl y Trothwy oherwydd byddent yn fwy parod amdanynt.
Roedd rhan fwyaf y cyfranwyr wedi cydnabod pwysigrwydd y Trothwy teledu am 9pm - sef yr adeg mae darlledwyr yn gallu dechrau dangos cynnwys sydd wedi'i anelu fwy at oedolion - a'i rôl yn gwarchod gwylwyr iau. Roedd pobl yn cytuno fod rheolau Ofcom ar gynnwys anweddus yn helpu rhieni a gofalwyr i asesu pa gynnwys oedd yn addas i blant.2
Roedd pobl o'r farn mai'r amser darlledu oedd y ffactor pwysicaf wrth benderfynu a oedd iaith anweddus yn dderbyniol ai peidio. Byddai gwylwyr yn fodlon goddef rhywfaint o gynnwys anweddus cymedrol cyn y Trothwy; serch hynny, roedd pawb yn cytuno fod ystumiau anweddus yn annerbyniol ar y cyfan cyn y Trothwy.
Roedd clywed iaith gref yn ddamweiniol o bryd i'w gilydd cyn 9pm yn fwy derbyniol ar deledu a radio byw nag mewn deunydd wedi'i recordio ymlaen llaw. Roedd pobl yn cytuno ei bod hi'n anodd weithiau i ddarlledwyr reoli rhaglenni byw, ond roeddent yn llai goddefgar os oeddent yn teimlo bod darlledwyr wedi ymddwyn yn ddiofal neu'n fwriadol.
Tybiwyd bod disodli'r rhegfeydd, a'r sŵn blîp dros iaith anweddus, yn llai derbyniol os oedd hynny'n digwydd yn aml. Canfu'r ymchwil y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn aml yn gwybod pa air oedd yn cael ei ddisodli, felly roedd yr effaith yr un fath bron â defnyddio'r gair go-iawn, yn enwedig os oedd yn cael ei ddweud dro ar ôl tro.
Am y tro cyntaf erioed, dangosodd yr astudiaeth fod iaith anweddus yn cael ei ystyried yn fwy problematig ar y cyfan ar y radio nag ar y teledu. Dywedodd pobl eu bod yn ystyried radio fel cyfrwng mwy agos-atoch, yn aml byddai'n chwarae yn y cefndir gartref neu lle gallai plant fod yn gwrando heb rieni'n bresennol.
Meddai Tony Close, Cyfarwyddwr Safonau Cynnwys, Trwyddedu a Gorfodi Ofcom: “Rydyn ni'n gosod ac yn gorfodi rheolau er mwyn gwarchod gwylwyr a gwrandawyr rhag cynnwys y tybir ei fod yn anweddus a niweidiol ar y teledu a'r radio. I wneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn gwybod yn union beth sy'n peri tramgwydd i bobl, a beth maen nhw'n ei ddisgwyl gan ddarlledwyr.
"Bydd y canfyddiadau hyn yn ein helpu i gael cydbwysedd rhwng gwarchod cynulleidfaoedd rhag cael eu tramgwyddo heb gyfiawnhad, yn enwedig cyn y Trothwy, a galluogi darlledwyr i adlewyrchu'r byd go-iawn."
Mae Ofcom wedi cyhoeddi canllaw cyflym o eiriau ac ystumiau anweddus ar gyfer darlledwyr, er mwyn eu helpu i bwyso a mesur beth sy'n debygol o beri tramgwydd.
Mae dyletswydd ar Ofcom i roi safonau ar waith sy'n rhoi gwarchodaeth ddigonol i gynulleidfaoedd rhag cynnwys anweddus a niweidiol ar y teledu a'r radio. Os bydd darlledwyr yn darlledu rhaglenni sy'n torri'r rheolau, ac os byddant yn torri'r rheolau hynny yn ddifrifol neu dro ar ôl tro, gallwn osod sancsiynau arnynt, gan gynnwys dirwyon.
Er gwaethaf y twf ym mhoblogrwydd gwylio ar-alw, teledu byw yw'r cyfrwng sy'n cyrraedd y mwyaf o bobl yn y DU o hyd, gyda 92% o bobl yn gwylio bob wythnos yn 2016. At hynny, mae naw ym mhob deg oedolyn yn gwrando ar y radio, gan wrando am dair awr ar gyfartaledd bob dydd.3
Mae'r ymchwil presennol yn diweddaru astudiaethau blaenorol Ofcom - yn 2005 a 2010 - ar agweddau'r cyhoedd at iaith anweddus. Bydd hefyd yn ein helpu i ddod i benderfyniadau wrth ymchwilio i raglenni teledu a radio sydd wedi cynnwys iaith anweddus o bosib.
Caiff y canfyddiadau eu rhannu â darlledwyr er mwyn eu helpu i ddeall yn well beth yw'r safonau derbyniol cyffredinol ar y teledu ac ar y radio. Flwyddyn nesaf, mae Ofcom hefyd yn bwriadu cyhoeddi ymchwil debyg ar agweddau cynulleidfaoedd at gynnwys rhywiol ar wasanaethau darlledu.
Mae'r gwaith ymchwil ar gael ar-lein.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION:
1. Roedd y samplau meintiol ac ansoddol yn amrywio o arolwg ar-lein gydag 127 o bobl, i grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl gyda 72 o gyfranwyr. Cynhaliwyd rhagor o grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl gyda 53 o bobl o grwpiau lleiafrifol - yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig, cymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, Sipsiwn a Theithwyr, a phobl anabl.
2. Mae'r Trothwy yn berthnasol i ddarllediadau ar y teledu yn unig. Felly, bydd unrhyw gynnydd sylweddol mewn gwylio rhaglenni ar-alw yn debygol o godi heriau i rieni, i reoleiddwyr ac i wneuthurwyr polisi. Bydd y Trothwy yn dal i chwarae rôl allweddol wrth helpu rhieni i wneud dewisiadau doeth am yr hyn byddan nhw a'u plant yn ei wylio. Mae Ofcom yn gweithio'n barhaus gyda grwpiau eraill i helpu cynulleidfaoedd i fod yn fwy diogel ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) i warchod plant a chefnogi'r Llywodraeth i lunio fframwaith cyffredin ar gyfer safonau yn y cyfryngau. Mae Ofcom hefyd yn ystyried a ddylid diweddaru rheolau yn y Cod Darlledu sy'n ymwneud â diogelu plant. Yn benodol, a ddylai darlledwyr allu dangos amrywiaeth ehangach o gynnwys sy'n fwy addas i oedolion cyn y Trothwy, ar yr amod bod system warchod PIN gorfodol ar waith.
3. Roedd Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu 2016 PDF, 1.2 MB yn dangos mai gwylio teledu'n fyw oedd y ffordd fwyaf poblogaidd o wylio yn 2016, gyda chyrhaeddiad wythnosol uchaf o 92% o boblogaeth y DU sy'n bedair oed a hŷn, o'i gymharu â chyfryngau eraill megis teledu ar-alw oedd â chyrhaeddiad wythnosol uchaf o 29%. Ar gyfartaledd, roedd pobl yn y DU wedi gwylio 3 awr 36 munud y dydd o deledu a ddarlledwyd yn 2015, sy'n 4 munud yn llai nag yn 2014. Roedd naw ym mhob 10 oedolyn (89.6%) yn gwrando ar y radio yn 2015, tra bod yr amseroedd gwrando dyddiol wedi aros yn weddol gyson o un flwyddyn i'r llall ymysg pobl o bob oed, sef 3 awr 3 munud.
4. Mae Ofcom yn gweithio gyda gwasanaethau ar-alw a sefydliadau yn y diwydiant yn y DU ac yn Ewrop, yn cynnwys y Gymdeithas Darlledwyr Masnachol (CoBA) a drwy'r Grŵp Rheoleiddwyr Ewropeaidd ar gyfer Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol (ERGA), i annog defnyddio gwybodaeth ac offer gwahanol i warchod cynulleidfaoedd. Fel rhan o Dasglu ERGA ar ddiogelu plant, mae Ofcom yn helpu'r grŵp i gynnal ymchwil i'r mesurau a gymerwyd gan randdeiliaid i gryfhau diogelwch gwasanaethau clyweledol yn yr UE. Yn ddiweddar, rhoddodd Ofcom gyngor ar ddatblygu holiadur gyda'r bwriad o gasglu'r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol am y datblygiadau presennol yn y maes hwn ledled Ewrop.
5. Ceir rhestrau a chategorïau o iaith anweddus ar wefan Ofcom PDF, 279.1 KB .
6. Mae'r ymchwil bresennol hefyd yn adeiladu ar waith blaenorol drwy gynnwys fwy o eiriau ac ystumiau, a chynnwys amrediad ehangach o grwpiau lleiafrifol. Mae hefyd yn rhoi sylw i ystumiau anweddus posib am y tro cyntaf.