Band eang cyflym iawn ar gael i dri o bob pedwar cartref

24 October 2013

24 October 2013

Mae Ofcom wedi datgelu bod band eang cyflym iawn ar gael erbyn hyn i bron dri chwarter o gartrefi'r DU, ac mae nifer y bobl sy'n defnyddio technoleg wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

● Mae seilwaith cyfathrebu’r DU yn newid, yn ôl adroddiad Ofcom

● Tair gwaith yn fwy o gynnydd yn nefnydd Prydeinwyr o fannau cyswllt Wi-Fi cyhoeddus

● Darpariaeth gwasanaethau symudol ar ffyrdd y DU yn cael ei datgelu am y tro cyntaf

Mae Ofcom wedi datgelu bod band eang cyflym iawn ar gael erbyn hyn i bron dri chwarter o gartrefi'r DU, ac mae nifer y bobl sy'n defnyddio technoleg wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r tueddiadau’n adlewyrchu’r newidiadau ehangach yn seilwaith cyfathrebiadau'r DU, sy'n datblygu i ateb y galw cynyddol gan ddefnyddwyr am ddata, gartref ac ar y ffordd.

Mae’r diweddariad blynyddol i Adroddiad Seilwaith Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos y gallai 73% o safleoedd y DU ym mis Mehefin eleni dderbyn band eang cyflym iawn, i fyny o 65% yn 2012. Mae tua 22% o gysylltiadau band eang yn gyflym iawn, i fyny o 10% y llynedd. Mae oddeutu 4.8 miliwn o gwsmeriaid y DU wedi manteisio ar y dechnoleg, i fyny o 2.1m y llynedd.

Anfonwyd neu derbyniwyd cyfanswm o 610m gigabeit o ddata gan ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU dros linellau sefydlog ym mis Mehefin – cynnydd o 26% o’i gymharu â’r un mis y llynedd, a maint data sy’n cyfateb i fwy nag un biliwn copi o’r Encyclopaedia Brittanica.

Bydd y twf yn y defnydd o ddata yn siŵr o barhau, wrth i rwydweithiau cyflym iawn gael eu hymestyn, ac wrth i ddefnyddwyr fynnu cyflymderau uwch i gefnogi gwasanaethau teledu rhyngrwyd o safon uchel a dyfeisiau lluosog ar eu cysylltiad band eang.

Dwywaith yn fwy o fannau cyswllt

Fwyfwy, mae pobl hefyd yn disgwyl cyflymderau cysylltu gwell ar ôl gadael y tŷ. Mae rhwydweithiau 4G yn helpu i ateb y galw hwn. Mae sawl cwmni – Everything Everywhere, O2 a Vodafone – wedi lansio gwasanaethau 4G erbyn hyn, ac mae disgwyl i Three ymuno â nhw yn ystod y misoedd nesaf.

Mae adroddiad heddiw yn dangos bod defnyddwyr hefyd yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o fannau cyswllt Wi-Fi cyhoeddus – sy’n gadael iddynt gael mynediad i’r rhyngrwyd llinell sefydlog drwy eu dyfeisiau symudol mewn mannau fel bwytai, gwestai, banciau, archfarchnadoedd a chaffis.

Mae nifer y mannau cyswllt Wi-Fi cyhoeddus yn y DU wedi dyblu yn ystod y flwyddyn i 34,000 (o 16,000). Ac mae maint y data sy’n cael ei anfon neu ei dderbyn gan ddefnyddwyr yn y mannau cyswllt hyn wedi treblu bron, i 2m gigabeit bron mewn mis – i fyny o 0.75m gigabeit yn ystod yr un mis yn 2012.

Darpariaeth symudol ar y ffyrdd yn cael ei datgelu

Am y tro cyntaf yn yr adroddiad, mae Ofcom wedi dadansoddi’r gwasanaethau llais symudol (2G) a llais-a-data (3G) sydd ar gael ar ffyrdd y DU. Tra mae’r ddarpariaeth ar gyfer galwadau llais ar draffyrdd yn dda, mae bylchau yn y ddarpariaeth ar ffyrdd ‘A’ a ‘B’, yn arbennig mewn perthynas â gwasanaethau data 3G.

Mae Ofcom yn amcangyfrif mai dim ond 35% o gyfanswm ffyrdd A a B y DU sy’n cael eu gwasanaethu gan y pedwar rhwydwaith 3G, a does dim darpariaeth o gwbl ar 9% ohonynt. Dylai’r diffyg hwn gael ei unioni’n rhannol wrth i wasanaethau 4G gael eu cyflwyno. Ond bydd Ofcom yn gwneud rhagor o waith dadansoddi yn y flwyddyn nesaf i weld a fydd hefyd angen ymyrraeth gan y Llywodraeth neu ymyrraeth reoleiddio er mwyn cael gwell darpariaeth symudol ar ffyrdd.1

Bydd Ofcom hefyd yn edrych ar y ddarpariaeth symudol ar lwybrau rheilffordd pwysig yn ystod y flwyddyn nesaf. Unwaith y bydd y data hwn wedi'i gasglu, bydd Ofcom yn cynnig cyngor technegol i’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail ar sut y gellid gwella’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau symudol ar y rheilffyrdd.2

Bodloni’r galw am ddata

Mae’r twf sydyn mewn band eang cyflym iawn, gwasanaethau symudol 4G a dwywaith yn fwy o fannau cyswllt Wi-Fi cyhoeddus i gyd yn rhan o ddarlun sy'n dod i’r wyneb o alw mawr gan ddefnyddwyr am wasanaethau sy’n defnyddio llawer iawn o ddata.3

Wrth inni arfer â chyflymderau gwell, cred Ofcom mai’r her yw canolbwyntio ar ddarpariaeth ehangach i ddefnyddwyr, gan gynnwys yn yr ardaloedd anodd eu cyrraedd. Bydd Ofcom hefyd yn gwneud gwaith wedi’i anelu at sicrhau nad yw darpariaeth ehangach yn digwydd ar draul ansawdd y gwasanaeth.

Dywedodd Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae band eang cyflym yn cael ei gyflwyno’n gyflym ledled y wlad, a bydd gwasanaethau symudol 4G yn cyrraedd o leiaf 98% o’r boblogaeth. Dyma newyddion da iawn. Ond mae rhai heriau sylweddol i'w hwynebu o hyd, yn arbennig mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau rhyngrwyd yn y cartref a symudol.

“Rydym yn gwybod bod defnyddwyr fwyfwy yn disgwyl cael cyflymderau cyflym iawn. Ond mae'n bwysig hefyd gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cysylltu dros ardal eang iawn. Dyna pam yr ydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r gwaith o wella darpariaeth mewn ardaloedd anodd megis ar ffyrdd ac ar y rheilffyrdd.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae Ofcom yn parhau i gefnogi Prosiect Seilwaith Symudol y Llywodraeth. Nod y prosiect yw gwella’r ddarpariaeth symudol yn y DU ac ansawdd y ddarpariaeth honno. Mae'r Llywodraeth wedi dyrannu £150m i sicrhau gwasanaethau llais symudol i hyd at 60,000 o safleoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaeth symudol gan unrhyw gwmni, ac i wella'r ddarpariaeth ar o leiaf deg o ffyrdd A prysuraf y DU.

2. Fis diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth gynllun i gyflwyno band eang symudol cyflym iawn ar rannau prysuraf y rhwydwaith trenau. Disgwylir y bydd teithwyr yn dechrau sylwi ar welliannau i'w siwrnai yn ystod 2015.

3. Y llynedd, datgelwyd cynlluniau gan Ofcom i ryddhau tonnau awyr newydd ar gyfer y cenedlaethau newydd o ddyfeisiau symudol, a fydd yn helpu i fodloni’r cynnydd yn y galw gan ddefnyddwyr ac i osgoi ‘gwasgfa capasiti’ yn y dyfodol.

4. O dan adran134A o Ddeddf Cyfathrebu 2003, mae gan Ofcom ddyletswydd i baratoi adroddiadau bob tair blynedd ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol ar rai rhwydweithiau a gwasanaethau sydd ar gael yn y DU.