23 January 2013
Mae arwerthiant sbectrwm symudol mwyaf erioed y DU bellach ar waith, gyda saith yn bidio i gystadlu i brynu tonnau awyr newydd sy'n addas ar gyfer gwasanaethau band eang symudol cyflym iawn.Mae arwerthiant sbectrwm symudol mwyaf erioed y DU bellach ar waith, gyda saith yn bidio i gystadlu i brynu tonnau awyr newydd sy'n addas ar gyfer gwasanaethau band eang symudol cyflym iawn.Dyma’r sefydliadau sy’n bidio yn yr arwerthiant:
Bydd y sbectrwm newydd bron yn dyblu faint o donnau awyr sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau band eang symudol ar ffonau deallus, cyfrifiaduron llechen a gliniaduron.
Dywedodd Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae arwerthiant heddiw yn garreg milltir arwyddocaol iawn i sector cyfathrebu’r DU. Bydd yn rhyddhau’r deunydd crai hanfodol ar gyfer y don nesaf o wasanaethau digidol symudol. Bydd hyn yn newid y ffordd rydym yn defnyddio cyfryngau digidol yn ein bywydau personol a’n bywydau gwaith a bydd yn golygu llawer o fanteision i filiynau o ddefnyddwyr a busnesau ar hyd y wlad.”
Diogelu cystadleuaeth
Y DU yw’r farchnad ffonau symudol sydd â’r prisiau mwyaf cystadleuol yn Ewrop1. Mae cystadleuaeth iach yn golygu bod defnyddwyr y DU yn elwa o wasanaethau gwell am brisiau is na'r rhan fwyaf o wledydd eraill yn y byd. Er mwyn cynnal cystadleuaeth, mae Ofcom wedi dynodi’r arwerthiant i sicrhau bod gan o leiaf pedwar o weithredwyr annibynnol ddigon o sbectrwm i fod yn gyfanwerthwyr 4G cenedlaethol credadwy. Bydd mantais net gwneud hyn i ddefnyddwyr ac i economi’r DU drwyddi draw yn fwy o lawer nag unrhyw fanteision ariannol a geir ar unwaith drwy'r refeniw a fydd yn cael ei godi drwy'r arwerthiant.
Y broses bidio
Mae bidiau’n cael eu rhoi ar-lein dros gysylltiadau diogel, drwy ddefnyddio meddalwedd sydd wedi cael ei ddatblygu’n benodol ar gyfer yr arwerthiant. Bydd y bidio yn parhau dros sawl rownd ac mae disgwyl iddi gymryd nifer o wythnosau nes i ni gael gwybod pwy fydd yn fuddugol.
Ni fydd dim diweddariadau’n cael eu rhoi am y gweithgarwch bidio nes i’r arwerthiant ddod i’w gasgliad (gweler: 'Sut bydd yr arwerthiant yn gweithio’ isod). Oherwydd natur yr arwerthiant, mae’n bwysig bod y wybodaeth am y bidiau yn aros yn gyfrinachol nes i’r arwerthiant ddod i ben er mwyn lleihau unrhyw risg bosibl o fidio strategol a allai ystumio canlyniad yr arwerthiant.
Ar ôl talu’r ffioedd, bydd y trwyddedau’n cael eu dyfarnu, gan alluogi’r gweithredwyr i ddechrau cyflwyno rhwydweithiau newydd. Disgwylir y bydd gwasanaethau’n cael eu lansio gan amrywiaeth o ddarparwyr o ddiwedd y gwanwyn / haf 2013.
Lotiau’r arwerthiant
Bydd y rheini sy’n bidio yn cystadlu am 28 lot o sbectrwm mewn dau fand ar wahân – 800 MHz a 2.6 GHz. Mae’r band amledd is 800 MHz yn rhan o’r ‘difidend digidol’ a gafodd ei ryddhau wrth ddiffodd teledu daearol analog, sy’n ddelfrydol ar gyfer darpariaeth symudol eang.
Mae’r band amledd uwch 2.6 GHz yn ddelfrydol ar gyfer darparu’r capasiti sydd ei angen ar gyfer cyflymder uwch. Mae’r ddau fand yn gwneud 250 MHz o sbectrwm symudol ychwanegol, o’i gymharu â’r 333 MHz sy’n cael ei ddefnyddio heddiw. Mae’r ddau fand yn cael eu pecynnu i lotiau llai o sbectrwm ar gyfer yr arwerthiant.
Mae’r cyfuniad hwn o sbectrwm amledd isel ac uchel yn creu’r potensial ar gyfer darparu gwasanaethau band eang symudol 4G yn eang ar draws y DU, ar yr un pryd â chynnig y capasiti i ymdopi â llawer o alw mewn canolfannau trefol.
Dyluniad yr arwerthiant
Mae fformat yr arwerthiant sy’n cael ei ddefnyddio yn yr arwerthiant 4G yn cael ei alw yn arwerthiant ‘cloc cyfuniadol’, sydd wedi cael ei ddefnyddio gan Ofcom mewn arwerthiannau blaenorol a gan reoleiddwyr eraill mewn arwerthiannau sbectrwm diweddar o amgylch y byd. Mae’r fformat hwn wedi cael ei ddylunio i gyflawni’r canlyniad mwyaf effeithlon – gan roi’r sbectrwm yn nwylo’r rheini sy’n bidio ac sy’n rhoi’r gwerth mwyaf arno, ar yr un pryd â sicrhau eu bod yn talu pris cystadleuol. Dyma ganllaw ar sut mae’r fformat yn gweithio.
Sut bydd yr arwerthiant yn gweithio? Mae fformat yr arwerthiant yn seiliedig ar egwyddorion galw a chyflenwi. Caiff ei gynnal dros sawl rownd fel y disgrifir isod. Cyfuno lotiau Y pwynt cyntaf i’w ddeall yw bod pawb sy’n bidio yn cystadlu i ennill cyfuniad o lotiau sbectrwm o’r bandiau 800 MHz a 2.6 GHz. Bydd faint maent yn fodlon ei dalu ar gyfer pob lot unigol yn amrywio yn ôl faint o’r lotiau eraill gallent eu cael ar yr un pryd. Mae’r arwerthiant yn caniatáu i bobl roi gwybod i Ofcom beth fyddent yn ei dalu am gyfuniadau penodol. Rownd optio i mewn Cam cyntaf yr arwerthiant yw’r cam optio i mewn – a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2013. Ar y cam hwn, gallai’r rheini a oedd yn gymwys i ennill sbectrwm wedi’i gadw (hy y rheini a oedd yn bidio ar wahân i Vodafone, Telefónica ac EE) ddewis a oeddent yn dymuno cyflwyno bid ar gyfer y sbectrwm hwnnw. Os oeddent yn dymuno gwneud hynny, roedd angen iddynt wneud bid ar brisiau cadw am gyfuniadau o lotiau a fyddai'n ddigonol iddynt gystadlu'n effeithiol fel cyfanwerthwyr cenedlaethol. Y Prif gam (cam cloc) Yn ystod cam nesaf yr arwerthiant (y cam cloc), a ddechreuodd heddiw, mae’r arwerthiant yn bwrw ymlaen drwy sawl rownd. Ar ddechrau pob rownd bydd Ofcom yn cyhoeddi pris ar gyfer pob lot a bydd pawb sy’n bidio wedyn yn pennu pa gyfuniad o lotiau y byddent yn hoffi eu hennill fwyaf ar y prisiau hynny. Ym mhob rownd ddilynol bydd Ofcom yn codi’r prisiau ar gyfer lotiau y mae llawer o alw amdanynt, nes i’r galw gyfateb i’r cyflenwad yn y pen draw. Daw’r cam cloc i ben ar y cam hwn. Rownd bidiau ychwanegol Petai hwn yn arwerthiant syml ar gyfer un lot yna dyma fyddai diwedd y broses, ond oherwydd bod y rheini sy’n bidio wedi bod yn bidio am gyfuniadau o lotiau, efallai ar yr adeg hon byddai rhai o’r lotiau sbectrwm heb eu gwerthu petai Ofcom yn stopio’r broses (er enghraifft oherwydd bod y cynnydd olaf mewn pris ar gyfer rhai lotiau wedi arwain at ostyngiad sydyn yn y galw). Bydd Ofcom felly yn cynnal un rownd arall o fidio, o’r enw y rownd ‘bidiau ychwanegol'. Dyma’r cyfle i’r rheini sy’n bidio ychwanegu at y bidiau maent eisoes wedi’u cyflwyno gyda’u ‘cynigion gorau a therfynol’ ar gyfer unrhyw un o’r pecynnau mae ganddynt hawl cyflwyno bid ar eu cyfer. Rhaid cyflwyno’r bidiau ychwanegol hyn gyda'i gilydd fel un swp o fidiau wedi'u selio. Bydd Ofcom wedyn yn gweithio allan pa gyfuniad o’r holl fidiau gan bawb sy’n bidio sydd â’r cyfanswm gwerth uchaf. Dyma fydd y cyfuniad buddugol o fidiau. Rheol ail bris Ar ôl canfod y cyfuniad buddugol o fidiau, bydd Ofcom wedyn yn gweithio allan faint y dylai pob un sy'n fuddugol ei dalu drwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn 'rheol ail bris'. Bydd pob un sydd wedi cyflwyno bid buddugol yn talu'r swm isaf y byddent wedi bod angen ei dalu er mwyn ennill - fel ar y wefan arwerthiant eBay. Heb ddefnyddio’r rheol ail bris, efallai y byddai’r sawl sy'n bidio sy'n rhoi'r gwerth mwyaf ar y sbectrwm yn colli allan drwy fwrw amcan a cham farnu'r hyn roedd eu cystadleuydd yn ei fidio - gan arwain at ganlyniad aneffeithlon lle caiff y sbectrwm ei ddyfarnu i rywun sy'n rhoi llai o werth arno. Cam neilltuo Cam olaf yr arwerthiant yw’r cam neilltuo. Gall y rheini sydd wedi cyflwyno bid buddugol fidio am yr union amleddau sbectrwm maent yn dymuno eu cael a bydd Ofcom yn pennu pwy sy’n cael pa amledd ar sail y bidiau. Mae’r broses hon yn pennu, er enghraifft, a fydd rhywun yn ennill sbectrwm ar frig neu ar waelod y band 2.6 GHz neu rywle yn y canol. |
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Ffynhonnell: Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Cyfathrebu Ryngwladol
2. Heddiw mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi dogfen yn gofyn am gyfraniad rhanddeiliaid at gynlluniau i fesur ansawdd profiad llais a data symudol. Ei amcan yw edrych a oes gwybodaeth am berfformiad technegol y gallai Ofcom ei chasglu ar ansawdd profiad defnyddwyr gyda gwasanaethau symudol, gyda golwg ar gyhoeddi.
3. Mae cyfanswm y pris cadw ar gyfer y sbectrwm yn £1.36bn.
4. Mae’r lotiau canlynol ar werth yn yr arwerthiant:
– 800 MHz mewn pâr – 5 lot
– 2.6 GHz ddim mewn pâr – hyd at 14 lot
– 2.6 GHz pŵer isel cydamserol – hyd at 10 lot
– 2.6 GHz ddim mewn pâr – 9 lot
5. Gwasanaethau 4G sydd eisoes ar waith: Ym mis Awst 2012, cymeradwyodd Ofcom gais gan y gweithredwr ffonau symudol Everything Everywhere (EE) i ddefnyddio sbectrwm 1800 MHz sydd eisoes yn bodoli i ddarparu gwasanaethau 4G. Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar ôl cynnal asesiad trwyadl o sut y gallai hyn effeithio ar gystadleuaeth. Daeth Ofcom i’r casgliad y byddai defnyddwyr yn elwa’n sylweddol o gael mynediad cynnar at wasanaethau 4G, ac nad oedd risg sylweddol y byddai’r manteision hynny’n amharu gormod ar gystadleuaeth. Lansiodd EE wasanaeth 4G masnachol yn rhai o ardaloedd y DU ar 30 Hydref 2012.
6. Yn gyffredinol caiff y term 4G ei ddefnyddio i gyfeirio at wasanaethau band eang symudol sy’n cael eu darparu drwy ddefnyddio technolegau band eang symudol y genhedlaeth nesaf, gan gynnwys Esblygiad Tymor Hir (LTE) a WiMAX.
7. Ofcom yw'r rheoleiddiwr annibynnol a’r awdurdod cystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebu’r DU, ac mae ganddo gyfrifoldebau dros deledu, radio, telegyfathrebu, cyfathrebu di-wifr a gwasanaethau post.
8. Prif ddyletswydd Ofcom o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 yw datblygu buddiannau dinasyddion a buddiannau defnyddwyr pan fo’n briodol drwy hybu cystadleuaeth. Rhaid i Ofcom hefyd sicrhau bod y sbectrwm electromagnetig yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau ar gyfer telegraffiaeth ddi-wifr.
9. Wrth gynnal yr arwerthiant a gweithredu mesurau i hybu cystadleuaeth, mae Ofcom yn diwallu gofynion penodol o dan Orchymyn Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 y Llywodraeth (Cyfarwyddiadau i Ofcom) 2010.
10. I gael rhagor o wybodaeth am Ofcom, ewch i media.ofcom.org.uk.