Ofcom yn gofyn am safbwyntiau ar drwyddedau ITV, STV, UTV a Sianel 5

21 February 2013

21 February 2013

Heddiw mae Ofcom yn gwahodd safbwyntiau am gynigion ynghylch trwyddedau darlledu teledu ITV, STV, UTV a Sianel 5.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniad gan Maria Miller, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, sy’n galluogi adnewyddu’r trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus presennol ar gyfer gwasanaethau Sianel 3 (ITV, STV ac UTV) a Sianel 5.

Mae ITV yn darparu’r gwasanaeth Sianel 3 yng Nghymru, Lloegr a rhannau o’r Alban, mae STV yn gwasanaethu gogledd a chanol yr Alban ac mae UTV yn gwasanaethu gwylwyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae trwydded Sianel 5 yn berthnasol i’r DU i gyd.

Mae Ofcom nawr yn gweithio i gyflwyno trwyddedau 10 mlynedd newydd cyn i'r trwyddedau cyfredol ddod i ben ddiwedd 2014.

Cyn y cyfnod ail-drwyddedu nesaf, mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi tri ymgynghoriad ar wahân. Mae’r rhain yn edrych ar ddyletswyddau rhaglennu’r trwyddedau; y cynnig i greu trwydded ar wahân i Gymru oddi wrth y drwydded ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr sydd gan ITV ar hyn o bryd; a’r fethodoleg bydd Ofcom yn ei defnyddio i benderfynu ar y telerau ariannol ar gyfer adnewyddu'r trwyddedau.

Dyletswyddau Rhaglennu

Rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ddiwallu dyletswyddau rhaglennu penodol, fel darparu rhaglenni newyddion a materion cyfoes a faint o gynyrchiadau gwreiddiol ac annibynnol sydd ganddynt.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar y dyletswyddau rhaglennu hyn yn nhrwyddedau Sianel 3 a Sianel 5.

Y cynigion yw cynnal y set bresennol o ddyletswyddau ar gyfer y rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3, yn amodol ar y newidiadau canlynol:

  • ar gyfer trwyddedau rhanbarthol Lloegr sydd gan ITV ar hyn o bryd, cynnydd yn nifer y rhanbarthau yn Lloegr sydd â darllediadau newyddion penodol o saith i 14, gyda’r gost yn cael ei gwrthbwyso drwy leihau faint o gynnwys rhanbarthol sydd ei angen ym mhob trwydded;
  • ar gyfer y drwydded Border sydd gan ITV ar hyn o bryd, dau gynnig amgen i gynyddu faint o raglenni materion cyfoes a newyddion rhanbarthol sydd yn ardal y Border, a anelir at wella’r sylw a roddir i faterion o’r Alban ar gyfer gwylwyr i’r gogledd o’r ffin;
  • ar gyfer trwydded Gogledd Iwerddon sydd gan UTV, ar gais UTV i leihau ei dyletswydd rhaglenni rhanbarthol heb fod yn newyddion hanner awr yr wythnos er mwyn i’r dyletswyddau rhaglenni rhanbarthol fod yr un fath â’r rheini yng Nghymru a chanol a gogledd yr Alban;
  • nid oes dim newid ar y gweill i’r dyletswyddau i’r rheini sy’n dal y trwyddedau ar gyfer yr Alban (ac eithrio’r Border) a Chymru.

Mae Ofcom yn cynnig cynnal y dyletswyddau rhaglennu presennol yn y drwydded ar gyfer Sianel 5.

Ardaloedd trwyddedig

Mae Ofcom yn cynnig creu trwydded Sianel 3 ar wahân i Gymru drwy ail-lunio ffiniau trwydded Cymru a Gorllewin Lloegr ITV. O dan y cynnig hwn, bydd gweddill yr ardal a ddaw o dan y drwydded honno – Bryste, Gwlad yr Haf, rhannau o Wiltshire a Swydd Gaerloyw – wedyn yn cael eu gwasanaethu gan drwydded De Orllewin Lloegr, sy’n cael ei dal gan ITV ar hyn o bryd.

Mae gan y ddau ranbarth a ddaw o dan drwydded Cymru a Gorllewin Lloegr gynnwys rhaglenni rhanbarthol ar wahân yn barod ac mae gan bob un ddyletswyddau trwydded ar wahân.  Mae Ofcom yn cynnig cynnal y lefel bresennol o raglenni rhanbarthol sydd ei hangen ar gyfer Cymru yn y drwydded newydd Cymru yn unig.

Methodoleg ariannol

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn mynnu ei bod yn rhaid i Ofcom benderfynu ar y telerau ariannol y caiff y trwyddedau eu hadnewyddu. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig methodoleg i gyfrifo’r telerau ariannol hynny.

Daw’r tri ymgynghoriad i ben ar 2 o Fai 2013 ac maent ar gael yma.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Ar 21 Tachwedd 2012, cyhoeddodd Maria Miller, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, nad oedd yn bwriadu rhwystro adnewyddu'r trwyddedau cyfredol ar gyfer Sianel 3 a Sianel 5. Ym mis Mai 2012, cyflwynodd Ofcom ei adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 229 o’r Ddeddf Cyfathrebiadau (2003) ar effaith amodau’r trwyddedau a threfniadau eraill ar gapasiti’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 ar hyn o bryd i “gyfrannu, yn ystod cyfnod y drwydded nesaf, at gyflawni dibenion darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig am gost i ddeiliaid y trwyddedau sy’n fasnachol gynaliadwy”.
  2. Mae’r broses a’r amserlen ar gyfer adnewyddu trwydded Sianel 4 yn wahanol i drwyddedau Sianel 3 a Sianel 5. Daw trwydded bresennol Sianel 4 i ben ar 31ain Rhagfyr 2014.
  3. Ofcom yw'r rheoleiddiwr annibynnol a’r awdurdod cystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebu’r DU, ac mae ganddo gyfrifoldebau dros deledu, radio, telegyfathrebu, cyfathrebu di-wifr a gwasanaethau post.

CYSYLLTU

Elinor Williams

Rheolwr Materion Rheoleiddiol,Cymru, Ofcom

elinor.williams@ofcom.org.uk

02920 467 217