Ofcom yn archwilio gwasanaethau cyfathrebu ledled y DU

16 May 2013

16 May 2013

Mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n amlinellu argaeledd y gwasanaethau cyfathrebu amrywiol ledled y DU, gan edrych ar sut mae’r ddarpariaeth yn amrywio o ardal i ardal a sut gellir ei gwella.

Mae’r adroddiad yn edrych ar fynediad at saith gwasanaeth: ffonau llais sefydlog, band eang sefydlog, ffonau llais symudol, band eang symudol, teledu digidol, radio a phost.

Mae argaeledd gwasanaethau cyfathrebu’n bwysig oherwydd bod cyfathrebu digidol yn rhan fwyfwy annatod o fywyd bob dydd. Mae’r rhwydweithiau hyn yn darparu adnoddau gwleidyddol, addysgol, diwylliannol ac economaidd pwysig i ddefnyddwyr.

Maent hefyd yn cynnig cyfle i fusnesau wella effeithlonrwydd, datblygu gwasanaethau newydd a chyrraedd marchnadoedd newydd. Ac maent yn gwneud dulliau newydd a mwy effeithiol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion yn bosibl.

Darganfyddiadau’r ymchwil

Mae’r adroddiad yn darganfod y canlynol:

  • Mae sawl un o’r gwasanaethau ar gael ledled y DU gyfan bron. Mae rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol yn rheoli gwasanaethau ffonau sefydlog a phost ac mae teledu daearol digidol ar gael i’r rhan fwyaf o gartrefi hefyd ar ôl y newid i’r digidol;
  • Mae'r gwahaniaeth rhwng y gwasanaethau eraill yn ehangach. Er enghraifft, mae argaeledd a chyflymder y mynediad at ryngrwyd band eang sefydlog yn amrywio yn ôl y dechnoleg sydd ar gael ac agosrwydd cyfnewidfeydd ffôn, ac mae band llydan cyflym iawn yn dal i gael ei ehangu i ardaloedd newydd, yn enwedig yr ardaloedd mwy gwledig;
  • O ran gwasanaethau symudol, hyd yn oed lle mae’r ddarpariaeth awyr agored a gynigir i gartrefi’n dda, mae heriau penodol yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth y tu mewn i adeiladau, ar ffyrdd ac ar y rheilffordd.
  • Er bod y ddarpariaeth radio analog ar gael ymhobman bron, nid felly radio digidol DAB.

Yr hyn sy’n bennaf gyfrifol am yr amrywiaethau mewn argaeledd rhwng gwledydd a rhanbarthau yw am fod rhannau o’r DU yn fwy gwledig nag eraill. Unwaith i ffactorau megis dwysedd y boblogaeth a natur y tirlun - bryniau, dyffrynnoedd ac adeiladau - gael eu hystyried, mae'r tebygolrwydd o gael darpariaeth dda yn gymharol debyg rhwng gwahanol rannau o'r DU.

Os nad yw marchnadoedd yn gallu cynnig darpariaeth i’r rhai sydd ei hangen, mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu yn aml. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sawl astudiaeth achos, er mwyn ystyried effeithiolrwydd y mathau hyn o ymyriadau.

Mae Argaeledd Gwasanaethau Cyfathrebu yn y DU ar gael ar-lein.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

1.   Mae’r Llywodraeth yn mynd ar ôl sawl menter er mwyn gwella’r gwasanaethau band eang a symudol sydd ar gael ledled y DU, gan gynnwys y canlynol:

  • ymrwymiad i ddarparu band eang cyflym iawn i o leiaf 90% o adeiladau yn y DU a mynediad cyffredinol at fand eang safonol gyda chyflymder o 2Mbit/s o leiaf;
  • cyllid o hyd at £150m ar gyfer y 0.3% o adeiladau yn y DU nad oes ganddynt dderbyniad symudol ar hyn o bryd, a hynny o dan Brosiect Seilwaith Symudol yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon; a
  • diwygiadau i ddeddfau cynllunio, fel mesurau i leihau’r baich gweinyddol ar gwmnïau wrth iddynt osod cabinetau stryd band eang neu osod ceblau yn eu lle.
  1. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd wedi gosod targedau i wella darpariaeth ar draws ystod o blatfformau, gyda rhai ffrydiau ariannu cysylltiedig.