Datgelu barn y defnyddwyr ar y gwasanaeth post

16 October 2012

16 October 2012

Mae Ofcom heddiw’n cyhoeddi canlyniadau’r ymchwil mwyaf cynhwysfawr a wnaethpwyd erioed gan y rheoleiddiwr i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth post yn y DU.Mae Ofcom heddiw’n cyhoeddi canlyniadau’r ymchwil mwyaf cynhwysfawr a wnaethpwyd erioed gan y rheoleiddiwr i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth post yn y DU.

Holwyd dros 4,000 o gwsmeriaid preswyl a 1,100 o fusnesau, a chynhaliwyd wyth grŵp trafod mewn canolfannau ledled y DU, i roi cyfle i gwsmeriaid leisio’u barn am wasanaeth post y DU.1

Mae defnyddwyr a busnesau’r DU yn elwa o’r gwasanaeth post cyffredinol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Post Brenhinol ddanfon i bob cyfeiriad yn y DU chwe diwrnod yr wythnos a hynny am bris fforddiadwy a chyson. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod Ofcom yn cynnal asesiad i ganfod a yw’r gwasanaeth post yn diwallu anghenion defnyddwyr.2

Gofynnwyd i ddefnyddwyr a busnesau ddatgan eu barn am y gwasanaeth post presennol; sut maent yn ei ddefnyddio a beth yw eu hanghenion.

Mae’r ymchwil yn elfen allweddol o’r dystiolaeth y mae Ofcom yn ei chasglu i benderfynu a yw anghenion rhesymol defnyddwyr yn cael eu diwallu gan y gwasanaeth post presennol. O dan y Ddeddf Gwasanaethau Post, rhaid cwblhau’r adolygiad hwn erbyn 31 Mawrth 2013. Mae Ofcom yn gwahodd sylwadau ar ganfyddiadau ei ymchwil.

Newid mewn arferion postio

Dywed defnyddwyr eu bod yn llai dibynnol ar y gwasanaeth post ac yn defnyddio mwy ar ddulliau electronig o gyfathrebu fel y rhyngrwyd, e-bost, ffôn a negeseuon testun ar draul y post.3

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod nifer cyfartalog yr eitemau a anfonir gan ddefnyddwyr preswyl bob wythnos wedi mwy na haneru ers 2006 (o 3.5 i 1.5 o eitemau), gyda mwy nag un o bob pump defnyddwyr (22%) yn rhagweld y bydd yn anfon llai fyth drwy’r post mewn tair blynedd.

Fodd bynnag, mae 82% o ddefnyddwyr preswyl ac 87% o fusnesau yn cytuno bod rhai pethau y byddant am eu hanfon drwy’r post bob tro, gan gynnwys gohebiaeth bersonol fel cardiau cyfarch a pharseli a phacedi.

Anghenion defnyddwyr

Nododd yr ymchwil anghenion craidd defnyddwyr o’r gwasanaeth post. Mae’r rhain yn cynnwys: symlrwydd, ymddiriedaeth, cyflymder, fforddiadwyedd a gwasanaeth sy’n gweddu i fywyd modern.

Mae ymchwil Ofcom yn dangos bod y gwasanaeth post, ar y cyfan, yn diwallu’r anghenion craidd hyn. Hefyd, dywed naw o bob 10 defnyddiwr preswyl a busnes bod lefel presennol y gwasanaeth yn dderbyniol.4

Er mwyn deall anghenion defnyddwyr a busnesau a chanfod pa rannau o’r gwasanaeth post maent yn eu gwerthfawrogi, gofynnwyd i’r ymatebwyr roi eu barn ar amryw o newidiadau posibl i’r gwasanaeth. Mae prif ganfyddiadau’r ymchwil yn cynnwys:

Gwasanaethau pacedi a pharseli mwy cyfleus a gwasanaeth ail-ddanfon hyblyg

Mae siopa ar y rhyngrwyd yn arwain at gynnydd yn nifer y pacedi a pharseli sy’n cael eu hanfon at ddefnyddwyr. Mae tua thraean (35%) y cwsmeriaid preswyl yn cael pacedi a pharseli o leiaf unwaith y mis. Mae’r ffigur hwn wedi codi o 27% yn 2010. Mae eu hanner (51%) hefyd yn rhagweld y byddant yn archebu mwy o nwyddau a fydd yn cyrraedd drwy’r post mewn tair blynedd.

Mae defnyddwyr am gael ffyrdd haws a mwy hyblyg o dderbyn eu pacedi a’u parseli. Mae gwelliannau a awgrymwyd i wasanaeth danfon parseli sylfaenol y Post Brenhinol wedi cynnwys newidiadau i oriau agor canolfannau dosbarthu, gwell gwasanaethau olrhain, a’r gallu i ddewis amser danfon mwy penodol.

Barn defnyddwyr am gyflymder danfon

Mae mwyafrif y defnyddwyr yn defnyddio’r gwasanaeth Dosbarth Cyntaf (y gwasanaeth diwrnod canlynol presennol) yn hytrach nag Ail Ddosbarth. Mae pum deg naw y cant o ddefnyddwyr preswyl yn defnyddio Dosbarth Cyntaf bob tro neu’r rhan fwyaf o’r amser, gyda 66% o’r post a anfonir gan fusnesau’n cael ei bostio drwy’r gwasanaeth Dosbarth Cyntaf.

Fodd bynnag, dim ond ychydig (9% o ddefnyddwyr preswyl), sy’n dweud bod angen iddynt ddelio â’u holl bost neu’r rhan fwyaf ohono ar yr un diwrnod ag y mae’n cyrraedd. Mae’r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd i ryw raddau ymhlith defnyddwyr busnes, gyda 15% yn unig yn dweud bod angen iddynt ddelio â’u holl bost neu’r rhan fwyaf ohono ar yr un diwrnod ag y mae’n cyrraedd.

Pan roddir y dewis iddynt, roedd yn well gan 59% o ddefnyddwyr preswyl a 58% o fusnesau wasanaeth un dosbarth (llai costus na Dosbarth Cyntaf ond yn cael ei ddanfon mewn dau ddiwrnod), yn hytrach na’r gwasanaeth dwy haen presennol.5 Mae Dosbarth Cyntaf fel arfer yn cael ei ddanfon o fewn un diwrnod gydag Ail Ddosbarth fel arfer yn cael ei ddanfon o fewn tri.

Yn gymharol, mae gwell gan 36% o ddefnyddwyr preswyl a 41% o fusnesau y gwasanaeth cyfredol lle mae Dosbarth Cyntaf yn cael ei ddosbarthu o fewn un diwrnod tra bod Ail Ddosbarth fel arfer yn cael ei ddosbarthu o fewn tri.

Barn defnyddwyr am gasglu a danfon

Ar hyn o bryd, rhaid i’r Post Brenhinol gasglu a danfon llythyrau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a phacedi eraill o ddydd Llun i ddydd Gwener. Er mwyn canfod yr angen am wasanaeth chwe diwrnod, gofynnwyd i gyfranogwyr ystyried ei werth yn erbyn opsiynau eraill: danfon a chasglu ar ddydd Sadwrn a phedwar diwrnod yn yr wythnos; a phum niwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae busnesau a defnyddwyr preswyl o’r farn bod danfon a chasglu yn yr wythnos yn werthfawr. Mae defnyddwyr preswyl yn rhoi mwy o bwyslais ar gasglu a danfon ar Sadyrnau na busnesau.

Mae’r dyddiau casglu a danfon presennol wedi’u pennu yn y Ddeddf Gwasanaethau Post. Mae’r Llywodraeth wedi dweud nad oes ganddi fwriad i newid y gofynion sylfaenol ar y gwasanaeth post cyffredinol yn ystod y tymor Seneddol hwn.

Y camau nesaf

Gwahoddir rhanddeiliaid i ymateb i’r ymgynghoriad ar yr Adolygiad o anghenion defnyddwyr y gwasanaeth post erbyn 18 Rhagfyr 2012.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Roedd ymchwil marchnata Ofcom yn cynnwys 1) astudiaeth ansoddol a gynhaliwyd gan Ipsos MORI a oedd yn cynnwys wyth gweithdy gydag oddeutu 20 defnyddiwr preswyl ym mhob un, a chyfarfodydd a chyfweliadau manwl â busnesau canolig a mawr. Cynhaliwyd yr ymchwil mewn canolfannau ar draws 4 gwlad y DU, gan gynnwys lleoliadau gwledig iawn ac oddi ar y tir mawr. Roedd y prif weithdai’n para 3.5 awr; 2) astudiaeth feintiol a gynhaliwyd gan TNS-BMRB a oedd yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb â 4,085 o ymatebwyr preswyl dros 16 oed a chyfweliadau dros y ffôn â 1,126 o fusnesau.  Rhoddwyd sylw arbennig i is-grwpiau penodol fel ein bod yn gallu adrodd ar y rhain (e.e. ardaloedd gwledig anghysbell). Nid oedd busnesau nad ydynt yn gwario ar anfon llythyrau neu bacedi wedi’u cynnwys yn yr ymchwil)
  2. Mae Deddf Gwasanaethau Postio 2011 yn ei gwneud yn ofynnol bod Ofcom yn cynnal asesiad i weld i ba raddau y mae’r farchnad bostio’n diwallu anghenion rhesymol defnyddwyr, a hynny o fewn deunaw mis ar ôl ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros reoleiddio’r gwasanaeth post, h.y. erbyn 31 Mawrth 2013.
  3. Dywedodd 17% yn fwy o ddefnyddwyr eu bod yn defnyddio mwy ar e-bost a negeseuon testun nag oeddent ddwy flynedd yn ôl. Mae 64% o ddefnyddwyr yn cytuno bod technoleg newydd wedi newid sut maent yn cyfathrebu. Ofcom, Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu, 18 Gorffennaf 2012, Ffigurau 1. 21 a 1.24, http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/research/cmr/cmr12/CMR_UK_2012.pdf
  4. Mae 92.8% o ddefnyddwyr preswyl a 93.9% o fusnesau o’r farn bod y gwasanaeth post presennol yn dderbyniol.
  5. Roedd yr arolwg wedi cynnig tri dewis i ddefnyddwyr: y gwasanaeth presennol, un gwasanaeth dau ddiwrnod am 53c gydag ansawdd gwasanaeth o 95%, ac un gwasanaeth dau ddiwrnod am 55c gydag ansawdd gwasanaeth o 98%. Mewn ymateb, roedd yn well gan 36% o ddefnyddwyr preswyl a 41% o fusnesau’r gwasanaeth Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth presennol. Ar y llaw arall, roedd yn well gan 59% o ddefnyddwyr preswyl y naill neu’r llall o’r opsiynau gwasanaeth sengl dau ddiwrnod, ac roedd yn well gan 58% o fusnesau y naill neu’r llall o’r opsiynau gwasanaeth sengl dau ddiwrnod.