Ofcom yn cadarnhau ei gynllun gwaith ar gyfer 2016/17

30 March 2016

30 March 2016

Heddiw, cyhoeddodd Ofcom ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2016/17, sy'n amlinellu ei raglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Nod Ofcom yw sicrhau bod marchnadoedd cyfathrebiadau'n gweithio i bawb. I helpu i gyflawni hyn, mae gennym dri phrif amcan: hyrwyddo cystadleuaeth a sicrhau bod y marchnadoedd yn gweithio'n effeithiol i ddefnyddwyr; sicrhau safonau a gwella ansawdd; a diogelu defnyddwyr rhag niwed.

Daw'r Cynllun Blynyddol ar ôl ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid a defnyddwyr, ac mae'n adeiladu ar gynlluniau a sefydlwyd drwy Adolygiad Strategol Ofcom o Gyfathrebiadau Digidol.

Defnyddio cystadleuaeth i hyrwyddo buddion i ddefnyddwyr

Bydd Ofcom yn rhoi casgliadau'r adolygiad o gyfathrebiadau digidol ar waith er mwyn gwneud yn siwr bod defnyddwyr a busnesau'n elwa o gystadleuaeth a dewis, a bod ganddynt wybodaeth gywir y mae modd ei chymharu i lywio drwy'r farchnad.

Un rhan hanfodol o hyn yw creu cyfle i gyflwyno mwy o rwydweithiau ffibr optig tra chyflym ar raddfa fawr. Bydd agor a gwella mynediad at bibellau a pholion telegraff Openreach, yr is-adran o BT sy'n cynnal a chadw'r rhwydwaith ffôn a band eang mwyaf yn y DU, yn helpu yn hyn o beth.

Bydd Ofcom yn ymgynghori ar gynigion manwl i wneud hyn fel rhan o'i adolygiad o'r farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol eleni. Bydd Ofcom hefyd yn cyhoeddi cynigion i gryfhau annibyniaeth Openreach drwy newid y ffordd mae'n cael ei lywodraethu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Yn 2016/17, byddwn yn helpu i wella gallu defnyddwyr a busnesau i wneud dewisiadau deallus drwy roi gwell gwybodaeth am wasanaethau teledu drwy dalu, symudol, llinell sefydlog a band eang. Bydd hyn yn cynnwys rhoi mwy o fanylion am ddarpariaeth band eang symudol, cyflymderau band eang sefydlog ac ansawdd gwasanaethau.

Bydd Ofcom hefyd yn parhau â'i waith i wella'r broses newid darparwr i ddefnyddwyr, a bydd yn archwilio prisiau yn y farchnad er mwyn helpu i wneud yn siwr bod pob defnyddiwr yn cael gwerth gan ddarparwyr cyfathrebiadau. Byddwn hefyd yn gwella gallu busnesau bach a chanolig i ymgysylltu â'r farchnad, gan weithio gyda'r diwydiant i roi cod ymarfer band eang busnesau bach a chanolig ar waith a gwneud yn siwr bod anghenion penodol busnesau bach a chanolig yn cael eu hystyried ym mhob rhan o'n gwaith.

Sicrhau safonau a gwella ansawdd

Mae hyrwyddo cystadleuaeth wrth galon ffordd Ofcom o weithio. Ond, os na all cystadleuaeth ar ei phen ei hun sicrhau'r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr a busnesau, byddwn yn cyflwyno ymyriadau penodol.

Yn 2016/17, bydd Ofcom yn dal ati i gefnogi cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer 'rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol', a fydd yn sicrhau bod pawb yn cael hawl i fand eang digonol.

Mae Ofcom yn bwriadu sicrhau newid sylweddol yn ansawdd gwasanaethau telegyfathrebu drwy osod targedau gwasanaeth mwy llym ar Openreach eleni; gorfodi cadarn a dirwyon am dangyflawni. Bydd hyn oll yn cael ei ategu gan dablau perfformiad newydd i bob darparwr; ac iawndal awtomatig i ddefnyddwyr a busnesau pan fydd pethau'n mynd o chwith.

Bydd Ofcom hefyd yn parhau â'i waith i sicrhau bod gwylwyr a gwrandawyr yn elwa o safonau da ar wasanaethau ar-alwad, radio a theledu.

Diogelu defnyddwyr rhag niwed

Mae Ofcom yn diogelu defnyddwyr rhag arferion niweidiol a chynnwys tramgwyddus ar y teledu ac ar y radio.

Mae galwadau niwsans yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU, a bydd Ofcom yn parhau i weithio i fynd i'r afael â’r broblem - gan weithio gyda darparwyr cyfathrebiadau, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a chyrff eraill i leihau niferoedd galwadau o'r fath. Bydd Ofcom hefyd yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y cwmnïau hynny sy'n gwneud galwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael.

Hefyd yn 2016/17 mae Ofcom yn bwriadu gweithredu cytundeb rhwng darparwyr cyfathrebiadau'r DU i gyflwyno mesurau technegol a all helpu i leihau galwadau niwsans, fel monitro a blocio traffig galwadau problemus.

Mae Ofcom yn monitro ac yn gorfodi yn erbyn problemau sy'n ymddangos yn y farchnad. Mae'r ymchwiliadau presennol yn cynnwys gwaith ar brosesau canslo a delio â chwynion.

Gwneud i gyfathrebiadau weithio ledled rhanbarthau a gwledydd y DU

Mae gwasanaethau cyfathrebiadau o ansawdd da yn hanfodol i brofiadau defnyddwyr, cyfranogiad dinasyddion a llwyddiant busnesau bach a chanolig. Mae sawl her yn gallu bod yn gysylltiedig â’r gwaith o sicrhau bod gwasanaethau post, symudol a band eang ar gael mewn cymunedau gwledig.

Mae Ofcom yn rhoi sylw i'r rhain drwy gyfrwng nifer o feysydd gwaith. Rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer ymestyn darpariaeth symudol, drwy geisio cynnwys rhwymedigaethau darpariaeth newydd ar sbectrwm, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Byddwn hefyd yn parhau i adolygu'r Post Brenhinol, gan gynnwys y farchnad parseli a chodi taliadau ychwanegol ar barseli yn Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Dan adran 3 (1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, prif ddyletswydd Ofcom yw hybu buddiannau dinasyddion mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â chyfathrebiadau a hybu buddiannau defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol, drwy hyrwyddo cystadleuaeth pan mae hynny'n briodol.

2. Ofcom yw'r rheoleiddiwr annibynnol a'r awdurdod cystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebiadau'r DU, gyda chyfrifoldebau sy'n ymestyn i deledu, radio, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau di-wifr a gwasanaethau post.

3. I gael rhagor o wybodaeth am Ofcom, ewch i: www.ofcom.org.uk. Mae modd gweld datganiadau i'r wasg Ofcom yn: media.ofcom.org.uk