Ofcom yn cyhoeddi ei flaenoriaethau am y flwyddyn nesaf
31 March 2014
31 March 2014
Cyhoeddodd Ofcom ei
Gynllun Blynyddol ar gyfer 2014/15 heddiw, sy'n cadarnhau ei strategaeth a'i raglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bwriad y gwaith hwn yw adeiladu ar ddatblygiadau pwysig yn seilwaith cyfathrebu'r DU.
Cyflwyno rhwydwaith
Bydd Ofcom yn parhau i fonitro a hyrwyddo'r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau newydd. Mae band eang cyflym iawn bellach ar gael i oddeutu dri chwarter cartrefi'r DU, a disgwylir iddo gyrraedd 95% o eiddo erbyn 2017. Mae pedwar gweithredwr symudol cenedlaethol yn cyflwyno gwasanaethau 4G cyflym iawn sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac mae'r mwyafrif yn disgwyl cyrraedd 98% o'r boblogaeth erbyn y flwyddyn nesaf.
Cynnal gwerth
Wrth i'r ddarpariaeth barhau i gynyddu, un o'r themâu pwysig yng ngwaith Ofcom ar gyfer y flwyddyn nesaf yw cost a gwerth gwasanaethau cyfathrebu. Bydd Ofcom yn targedu meysydd gan gynnwys fforddiadwyedd gwasanaethau craidd, fel ffonau llinell sefydlog i ddefnyddwyr bregus, a gwasanaethau i ddefnyddwyr anabl. Cyhoeddodd Ofcom ei waith diweddaraf ar gost a gwerth yn yr adroddiad Profiad y Defnyddiwr ym mis Ionawr.
Gwella ansawdd
Thema arall a fydd yn cael sylw yw ansawdd gwasanaethau, sy'n dod yn fwyfwy pwysig i ddefnyddwyr. Mae Ofcom yn datblygu targedau newydd ar gyfer Openreach, a fyddai'n golygu y bydd cwsmeriaid ffôn a band eang yn gweld gosodiadau a gwaith atgyweirio llinellau yn digwydd yn gynt. Mae Ofcom hefyd yn gweithio gyda gweithredwyr symudol i wella'r wybodaeth y mae'n ei darparu i ddefnyddwyr ar ansawdd gwasanaethau, a bydd yn cyhoeddi gwaith ymchwil ar gyflymder cyfartalog band eang symudol a dderbynnir gan gwsmeriaid 3G a 4G.
Y gwaith sydd o'n blaenau
Mae Ofcom wedi rhoi ei flaenoriaethau blynyddol yn y categorïau canlynol:
- Hybu cystadleuaeth effeithiol a dewis gwybodus. Bydd Ofcom yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau cystadleuaeth a buddsoddiad yn y band eang cyfredol ac mewn band eang cyflym iawn, ac yn hyrwyddo dewis ar gyfer defnyddwyr drwy ddarparu gwybodaeth glir a phrosesau effeithlon i newid rhwng darparwyr.
- 2. Sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o sbectrwm. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys hybu rhannu sbectrwm drwy dechnoleg newydd fel ‘gofod gwyn', a darparu sbectrwm ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2014.
- Hyrwyddo cyfleoedd i gyfranogi. Bydd Ofcom yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau cyfathrebu ar gael yn eang, ac yn ceisio lleihau'r rhwystrau sy'n atal defnyddwyr rhag eu mabwysiadu a'u defnyddio'n effeithiol. Fel rhan o hyn, bydd Ofcom yn canolbwyntio ar ei ddyletswydd barhaus i sicrhau gwasanaeth post cyffredinol. Bydd gwaith yn cael ei wneud hefyd i hyrwyddo gwell darpariaeth symudol a gwybodaeth am wasanaethau.
- Amddiffyn defnyddwyr rhag niwed. Bydd Ofcom yn parhau i reoli'r gwaith o ddiwygio rhifau ffôn nad ydynt yn rhai daearyddol, a fydd yn arwain at ffioedd cliriach ar gyfer defnyddwyr a galwadau am ddim i rifau 080 o ffonau symudol o haf 2015 ymlaen. Bydd Ofcom hefyd yn gweithio i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed mewn meysydd fel galwadau niwsans a biliau symudol annisgwyl o uchel.
- Cynnal hyder cynulleidfaoedd mewn cynnwys a ddarlledir. Bydd Ofcom yn gweithio gyda'r diwydiant a rheoleiddwyr eraill i ddatblygu dull gweithredu cyson ar gyfer rheoleiddio safonau'r cyfryngau. Bydd Ofcom hefyd yn cefnogi gwaith i helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys adroddiadau i'r Llywodraeth ar reolaethau ar gyfer rhieni ac asesu mesurau diogelu a roddir ar waith gan ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd.
- Cyfrannu at bolisi cyhoeddus a ddiffinnir gan y Senedd, a'i roi ar waith. Fel rhan o hyn, bydd Ofcom yn gweithio i sicrhau bod cynigion ‘Connected Continent' y Comisiwn Ewropeaidd yn cefnogi buddiannau defnyddwyr a dinasyddion y DU.
Mae'r Senedd yn mynnu bod Ofcom yn cynnal adolygiadau o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Yn 2014/15, bydd Ofcom yn cychwyn ei drydydd adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, a fydd yn ystyried yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant ac yn asesu beth yw'r ffordd orau o ddiwallu anghenion dinasyddion a defnyddwyr. Mae Ofcom yn disgwyl y bydd wedi cyhoeddi ei gasgliadau erbyn haf 2015.
Sicrhau gwerth am arian
Bydd y gwaith a amlinellir uchod yn cael ei ariannu gan gymysgedd o gymorth grant a ffioedd a gesglir gan y rhanddeiliaid y mae Ofcom yn eu rheoleiddio.
£117m fydd cyllideb Ofcom ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15. O un flwyddyn i'r llall, mae hyn yn gyson mewn termau nominal, ac yn ostyngiad o 32.6% mewn termau real. Bydd y gyllideb yn caniatáu i Ofcom sicrhau gostyngiad cyllidebol mewn termau real o 28.96% yn gyffredinol, o'i gymharu â 2010/11. Mae hyn yn rhagori ar ymrwymiad ar ôl Adolygiad o Wariant y Trysorlys 2010 i sicrhau 28.2% o arbedion erbyn 2014/15.
Gallwch weld
‘cipolwg' o Gynllun Blynyddol Ofcomar-lein.
NODIADAU I OLYGYDDION
- Dyma saith thema Cynllun Blynyddol Ofcom eleni: hybu cystadleuaeth effeithiol a dewis gwybodus; sicrhau'r defnydd gorau posibl o sbectrwm; cynnal hyder cynulleidfaoedd mewn cynnwys a ddarlledir; argaeledd; ansawdd gwasanaethau; cost a gwerth; a mabwysiadu. Bu Ofcom yn ymgynghori ar ei waith ar gyfer y flwyddyn nesaf ym mis Rhagfyr 2013.
- Amlinellir y polisi newid ‘sy'n cael ei arwain gan y darparwr sy'n ennill' yn y datganiad newyddion hwn a gyhoeddwyd gan Ofcom ym mis Awst. Mae'n berthnasol i deleffoni sefydlog a band eang safonol a chyflym iawn a ddarperir dros rwydwaith copr Openreach.
- I gael rhagor o wybodaeth am ryddhau sbectrwm y Weinyddiaeth Amddiffyn, gweler datganiad newyddion Ofcom a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2013.
- I gael gwybod rhagor am ddiwygio ffioedd galwadau nad ydynt yn rhai daearyddol, gweler y datganiad newyddion hwn a gyhoeddwyd gan Ofcom ym mis Rhagfyr 2013.
- Dan adran 3 (1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, prif ddyletswydd Ofcom yw hybu buddiannau dinasyddion mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â chyfathrebu a hybu buddiannau defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol, drwy hyrwyddo cystadleuaeth pan mae hynny'n briodol.