11 March 2016
Mae Ofcom wedi cadarnhau'r nifer sylfaenol o ddarllediadau etholiadol i'w dyrannu i'r pleidiau cyn yr etholiadau sydd i’w cynnal ar 5 Mai eleni, yn dilyn ymgynghoriad ar 7 Ionawr.
Mae’r etholiadau ar 5 Mai yn cynnwys etholiadau lleol a Maerol yn Lloegr, etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, etholiadau Senedd yr Alban, ac etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Nid Ofcom sy’n penderfynu pa sefydliadau y bydd darllediadau’n cael eu dyrannu iddynt cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin.
Mae gan Ofcom ddyletswydd statudol i bennu rheolau ynghylch isafswm y darllediadau etholiadol byr i'w dyrannu i’r pleidiau - hyd at bedwar munud a 40 eiliad o hyd - sy’n rhoi cyfle i bleidiau gyfathrebu’n uniongyrchol â’r etholwyr.
Ar gyfer etholiadau mis Mai 2016, bydd darllediadau etholiadol gan bleidiau’n ymddangos ar ITV, ITV Cymru Wales, STV, UTV a darparwyr teledu lleol perthnasol.
Mae rheolau Ofcom yn delio ag isafswm y darllediadau hyn a ddyrennir i bleidiau.
Caiff darlledwyr rwydd hynt i gynnig darllediadau etholiadol ychwanegol, y tu hwnt i'r isafswm a fynnir gan Ofcom. Mewn etholiadau blaenorol, mae darlledwyr wedi cynnig mwy o ddarllediadau etholiadol na’r isafswm hwn2.
I ddangos hyn, mae’r tabl isod yn dangos nifer y darllediadau gwleidyddol gan bleidiau a ddangoswyd ar ITV, STV ac UTV cyn Etholiad Cyffredinol 2015, ynghyd ag isafswm y darllediadau gwleidyddol a oedd yn ofynnol dan reolau Ofcom (a ddangosir mewn cromfachau).
Darllediadau Etholiadol y Pleidiau a ddangoswyd cyn Etholiad Cyffredinol mis Mai 20153
|
Lloegr
|
Cymru
|
Yr Alban
|
Gogledd Iwerddon |
Y Blaid Geidwadol |
5 (2) |
4 (2) |
4 (2) |
1 (1) |
Y Blaid Lafur |
5 (2) |
4 (2) |
4 (2) |
- |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
4 (2) |
4 (2) |
4 (2) |
- |
Plaid Cymru |
- |
4 (2) |
- |
- |
Yr SNP |
- |
- |
4 (2) |
- |
Plaid Annibyniaeth y DU |
3 (2) |
3 (2) |
2 (1) |
1 (1) |
Y Blaid Werdd (gan gynnwys Plaid Werdd yr Alban) |
2 (1) |
1 (1) |
2 (1) |
1 (1) |
Y Blaid Lafur Sosialaidd |
- |
1 (1) |
- |
- |
Cynghrair y Sosialwyr a’r Undebwyr Llafur |
1 (1) |
1 (1) |
1 (1) |
- |
DUP |
- |
- |
- |
4 (2) |
Sinn Fein |
- |
- |
- |
4 (2) |
SDLP |
- |
- |
- |
4 (2) |
UUP |
- |
- |
- |
4 (2) |
Plaid y Gynghrair |
- |
- |
- |
3 (2) |
Llais yr Unoliaethwyr Traddodiadol |
- |
- |
- |
2 (1) |
CISTA (Cannabis Is Safer Than Alcohol) |
- |
- |
- |
1 (1) |
Plaid y Gweithwyr |
- |
- |
- |
1 (1) |
Dan God Darlledu Ofcom, rhaid i ddarlledwyr sicrhau y rhoddir sylw teg yn ystod y cyfnod cyn yr etholiadau. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys sicrhau bod ymgeiswyr perthnasol yn cael y cyfle i gyfrannu at drafodaethau am eu hetholaethau neu eu hardaloedd etholiadol.
Mae'r sylw mae’r BBC yn ei roi i etholiadau a’r modd y mae’n dyrannu darllediadau etholiadol y pleidiau yn cael ei reoleiddio gan Ymddiriedolaeth y BBC. Yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi diwygio ei meini prawf ar gyfer darllediadau gwleidyddol y pleidiau - darllediadau gwleidyddol a gynhelir y tu allan i gyfnodau etholiadau – ac mae’r BBC wedi cadarnhau pa bleidiau fydd yn cael cynnig y darllediadau hyn yn 20164.
Bydd yr etholiadau canlynol yn cael eu cynnal ar 5 Mai eleni:
Mae Ofcom wedi asesu tystiolaeth o gefnogaeth y cyhoedd mewn etholiadau blaenorol a data polau piniwn5, i bennu'r rhestr arfaethedig o bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael o leiaf dau ddarllediad etholiadol.
Ar sail y dystiolaeth hon, mae’r Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Annibyniaeth y DU - y pleidiau a oedd ar y rhestr ar gyfer etholiadau mis Mai 2015 - yn aros ar y rhestr o bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael dau ddarllediad etholiadol o leiaf ar bob un o'r sianeli cymwys yn Lloegr. At ddibenion etholiadau Cynulliad Llundain a Maer Llundain, mae'r Blaid Werdd wedi’i hychwanegu at y rhestr, sy’n golygu y bydd y Blaid Werdd yn cael dau ddarllediad etholiadol o leiaf ar ITV London.
Yng Nghymru, mae'r Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a Phlaid Annibyniaeth y DU - y pleidiau a oedd ar y rhestr ar gyfer etholiadau mis Mai 2015 - yn aros ar y rhestr o bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael dau ddarllediad etholiadol o leiaf ar ITV Cymru Wales.
Yn yr Alban, mae’r Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Genedlaethol yr Alban - y pleidiau a oedd ar y rhestr ar gyfer etholiadau mis Mai 2015 - yn aros ar y rhestr o bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael dau ddarllediad gwleidyddol o leiaf ar STV ac ITV Border.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, Sinn Féin, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Cymdeithasol, Plaid Unoliaethwyr Ulster a Phlaid y Gynghrair - y pleidiau a oedd ar y rhestr ar gyfer etholiadau mis Mai 2015 - yn aros ar y rhestr o bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael dau ddarllediad etholiadol o leiaf ar UTV.
n dilyn etholiadau mis Mai 2016, bydd Ofcom yn adolygu pa mor briodol yw rhestr ‘pleidiau mwy’ ar gyfer pennu isafswm y darllediadau etholiadol a ddyrennir i bleidiau. Bydd Ofcom yn ymgysylltu â darlledwyr, pleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill cyn unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni.
Mae datganiad llawn ar benderfyniadau heddiw ar gael.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Y Comisiwn Etholiadol sy’n dynodi prif sefydliadau’r ymgyrch cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin Wedyn, dyrennir yr un nifer o ddarllediadau ar gyfer ymgyrch y refferendwm i'r sefydliadau hyn.
2.O dan reolau Ofcom, mae gan rai pleidiau hawl i gael o leiaf un darllediad etholiadol. Ar sail tystiolaeth o gefnogaeth mewn etholiadau blaenorol a data sydd ar gael o bolau piniwn, mae gan y pleidiau sydd ar restr ‘pleidiau mwy’ Ofcom hawl i o leiaf ddau ddarllediad etholiadol ar gyfer eu pleidiau.
3.Mae’r tabl yn cynrychioli dealltwriaeth Ofcom o’r ffordd y dyrannwyd darllediadau etholiadol gan wasanaethau Channel 3, ITV, STV ac UTV, yn Etholiad Cyffredinol 2015
4.Ar ôl i Ymddiriedolaeth y BBC benderfynu newid y meini prawf y mae’r gorfforaeth yn eu defnyddio i benderfynu pwy sy’n gymwys i gael Darllediadau Gwleidyddol, mae'r BBC yn awr wedi penderfynu y bydd y pleidiau canlynol yn cael cynnig darllediadau:
Yn Lloegr
Y Blaid Geidwadol
Y Blaid Lafur
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Annibyniaeth y DU
Yng Nghymru
Y pedair plaid uchod ynghyd â:
Plaid Cymru
Yn yr Alban
Plaid Genedlaethol yr Alban
Y Blaid Lafur
Y Blaid Geidwadol
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Yng Ngogledd Iwerddon
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
Sinn Fein
Plaid Unoliaethwyr Ulster
Yr SDLP
Plaid y Gynghrair
5.Mae Ofcom yn rhoi mwy o bwys ar berfformiad mewn etholiadau blaenorol, sy’n adlewyrchu sut y bu i bleidleiswyr arfer eu dewis democrataidd, nag ar bolau piniwn. Hefyd, mae data o bolau piniwn ers Etholiad Cyffredinol 2015 yn gymharol brin, yn arbennig yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, o’i gymharu â'r dystiolaeth sylweddol sydd ar gael o gefnogaeth mewn etholiadau blaenorol.
6.Mae Rheol 6.2 o’r Cod Darlledu yn datgan bod angen rhoi pwys priodol i'r sylw a gaiff pleidiau gwleidyddol mewn darllediadau yn ystod cyfnod yr etholiad. O dan Reolau Ofcom ar Ddarllediadau Gwleidyddol a Refferenda (“the PPRB Rules”) rhaid i bleidiau sydd ar y rhestr gael cynnig dau ddarllediad etholiadol o leiaf ar y gwasanaethau cymwys, a’r rhain, ar gyfer etholiadau mis Mai 2016, fydd gwasanaethau Channel 3 (ITV, STV ac UTV) a’r gwasanaethau teledu lleol perthnasol. Mae'r Cod a'r Rheolau ar Ddarllediadau Pleidiau Gwleidyddol a Refferenda hefyd yn rhoi'r rheolau ar gyfer trin pleidiau cofrestredig eraill.
7.O dan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Ofcom ac Ymddiriedolaeth y BBC, mae'n rhaid i wasanaethau'r BBC sy'n derbyn ffi'r drwydded gydymffurfio â'r Cod Darlledu: "i'r graddau nad yw safonau o'r fath yn ymwneud â chywirdeb na natur ddiduedd cynnwys unrhyw raglen sy'n cael ei chynnwys yng Ngwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y BBC yn y DU. Ymddiriedolaeth y BBC sy'n gyfrifol am gywirdeb a natur ddiduedd rhaglenni yng Ngwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y BBC". Mewn perthynas â Darllediadau Etholiadol y Pleidiau, o dan Siarter a Chytundeb 2006 y BBC, mae Ymddiriedolaeth y BBC yn rheoleiddio'r meini prawf ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau ar wasanaethau'r BBC.
CYSYLLTU
Elinor Williams
07881987188