Gallai cannoedd o orsafoedd radio digidol lleol ddechrau darlledu ledled y DU yn y dyfodol, ar ôl i Ofcom lwyddo i dreialu technoleg arloesol.
Mae'r dechneg newydd, a elwir yn 'DAB graddfa fach' yn galluogi gorsafoedd lleol a chymunedol i ddechrau darlledu gan ddefnyddio meddalwedd sydd ar gael am ddim ac offer sy'n costio £9,000
Yn y gorffennol, mae'r gorsafoedd hyn wedi darlledu ar AM ac FM analog, ond mae cost uwch darlledu ar lwyfan radio Darlledu Sain Digidol (DAB) y DU wedi'u rhwystro.
Mae Ofcom wedi bod yn treialu DAB graddfa fach ers mis Mehefin 2015, gyda 70 o orsafoedd lleol yn darlledu ar drwyddedau treial ledled y DU. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad i’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a wnaeth ariannu’r prosiect, sy’n cadarnhau bod y treialon wedi bod yn llwyddiannus.
Rydym wedi canfod gofod yn y tonnau awyr hefyd a allai gefnogi'r broses o gyflwyno'r dechnoleg ledled y DU, gan ddefnyddio bandiau sbectrwm a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan radio busnes. Gallai ailddefnyddio'r bandiau hyn dorri tir newydd i gannoedd o orsafoedd eraill ymuno â'r chwyldro radio digidol.
Cafodd DAB graddfa fach yn y DU ei arloesi gan un o beirianyddion Ofcom, Rashid Mustapha, a roddodd y cysyniad ar waith i gychwyn drwy osod trosglwyddydd radio digidol ar ben to yn Brighton. Yn sgil y treial hwn, gofynnodd y Llywodraeth i Ofcom ddatblygu'r cysyniad ymhellach a chynnal profion yn y 'byd go iawn'.
Mae adroddiad terfynol Ofcom heddiw yn dangos y bu'r treialon hyn yn llwyddiannus iawn. Gweithiodd y dechnoleg yn dda, a chydlynodd y gorsafoedd yn effeithiol â'r trwyddedeion amlblecs.
Mae'r treialon yn awgrymu hefyd bod cryn alw gan orsafoedd radio llai o faint i ddefnyddio DAB.
Dywedodd Neil Stock, Cyfarwyddwr Trwyddedu Darlledu Ofcom: "Gallai'r dechnoleg hon gynnig dimensiwn lleol, newydd o ran radio digidol. Rydyn ni'n hyderus y byddai cyflwyno'r gorsafoedd hyn ledled y DU yn bosib o safbwynt technegol ac yn fasnachol hyfyw.
"Mae ein treialon wedi galluogi grwpiau o orsafoedd radio masnachol lleol a chymunedol i gydweithio, gan alluogi gorsafoedd newydd i wasanaethu cymunedau lleol ledled y DU gyfan".
Bydd y Llywodraeth yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad, ac mae Ofcom yn barod i weithio gyda hi ar unrhyw gamau angenrheidiol i alluogi gorsafoedd DAB graddfa fach i gael eu trwyddedu'n barhaol.
Dramor, mae gorsafoedd sy'n defnyddio'r dechnoleg bellach yn darlledu yn Ffrainc a'r Swistir. Mae rheoleiddwyr eraill yn Ewrop wedi cysylltu ag Ofcom i fynegi eu diddordeb mewn defnyddio'r un dull, sy'n awgrymu y gellid defnyddio DAB graddfa fach mewn llawer o wledydd eraill.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd Ofcom i ba ddeg amlblecs y byddai'n dyfarnu trwyddedau'r treialon, y mae pob un yn cynnal o leiaf chwe gorsaf:
Ofcom yw rheoleiddiwr annibynnol ac awdurdod cystadleuaeth diwydiannau cyfathrebu'r DU. Mae gennym gyfrifoldebau ar draws teledu, radio, fideo ar-alwad, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau di-wifr a gwasanaethau post. Mae datganiadau newyddion ac adnoddau eraill i newyddiadurwyr ar gael yma