Galw ar ddefnyddwyr Android… ymunwch â'n prosiect ymchwil i ffonau symudol

27 September 2016

Mae Ofcom yn galw ar yr 20 miliwn o bobl yn y DU sy'n defnyddio ffonau clyfar Android i ymuno â'i brosiect ymchwil cyntaf sy'n gofyn am gymorth torfol (crowdsourced), gyda'r bwriad o sicrhau gwell gwasanaethau ffôn symudol.

  • Mae Ofcom yn lansio prosiect sy'n gofyn am gymorth torfol i sicrhau gwell gwasanaethau ffôn symudol
  • Bydd y canlyniadau'n rhoi mwy o wybodaeth am ansawdd gwasanaethau ac am y ddarpariaeth

Ofcom mobile research appDrwy lwytho ap Ymchwil Ofcom i Ffonau Symudol i lawr, gall defnyddwyr ffonau symudol ymuno â phanel o wirfoddolwyr ledled y wlad a fydd yn helpu i gasglu gwybodaeth werthfawr am ddarpariaeth symudol, dibynadwyedd galwadau llais, perfformiad band eang symudol ac arferion a phrofiadau defnyddwyr.

Mae'r ap yn mesur perfformiad rhwydweithiau symudol a Wi-Fi yn awtomatig; does dim angen i ddefnyddwyr gynnal unrhyw brofion eu hunain. Bydd y prif ganfyddiadau'n ymddangos ar dudalen hafan yr ap. O bryd i'w gilydd, gofynnir i'r defnyddiwr ddweud yn gryno beth yw ei farn am berfformiad ei wasanaeth.

Nod gwaith ymchwil Ofcom yw creu meincnod annibynnol ar gyfer defnyddwyr a'r diwydiant. Bydd yn helpu cwsmeriaid ffonau symudol i wneud penderfyniadau ynglŷn â phrynu a newid darparwr, a bydd yn cael ei ddefnyddio i wella ymchwil defnyddwyr a mapiau darpariaeth symudol Ofcom.

Bydd yr holl ddata a gesglir gan yr ap newydd – fel defnydd o apiau, dibynadwyedd galwadau llais, cryfder y signal, lleoliad a chyflymder data – yn aros yn ddienw, a gyda'i gilydd yn creu set ddata sy'n gynrychioladol o'r wlad i gyd. Yna bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiol brosiectau ymchwil Ofcom, gan gynnwys astudiaeth newydd sy'n cymharu ansawdd gwasanaethau cwmnïau telegyfathrebu yn ystod gwanwyn 2017.

Yr Ap

Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio'u ffonau clyfar at amrywiol ddibenion ac yn gofyn llawer ohonynt y dyddiau hyn. Gall gweithgareddau fel ffrydio cerddoriaeth neu alwadau fideo roi straen ar rwydweithiau symudol, ac mae Ofcom yn awyddus i ddeall yn well sut mae tueddiadau presennol yn debygol o effeithio ar yr hyn y bydd defnyddwyr yn ei ddisgwyl yn y dyfodol.

Pan fydd defnyddiwr yn llwytho ap Ymchwil Ofcom i Ffonau Symudol i lawr ac yn ei osod ar ei ffôn, bydd angen iddo ateb cwestiynau syml, er enghraifft cwestiynau ynglŷn â grŵp oed, rhyw, gwaith, cod post a band eang yn y cartref. Bydd yr ap yn cadw cofnod pan fydd apiau eraill yn cael eu defnyddio i helpu Ofcom i ddeall tueddiadau defnyddio'r gwirfoddolwyr. Ond nid yw'n cofnodi'n fanwl ar gyfer beth mae apiau eraill yn cael eu defnyddio – er enghraifft, byddai'n cofnodi bod yr ap YouTube wedi cael ei agor, ond ddim beth gafodd ei wylio.

Diogelu data a defnydd

Mae diogelu data yn fater sy'n cael ei ystyried o ddifri gan Ofcom. Felly bydd data pob defnyddiwr yn aros yn gwbl ddienw. Mae Ofcom yn gweithio gyda phartner technegol ar y prosiect – P3 communications.

Mae gan P3 brofiad o gasglu data dienw i gwmnïau cyhoeddus – fel rhwydwaith trenau'r Almaen, Deutsche Bahn, a gafodd help ganddo i ddatblygu ap darpariaeth symudol. Bydd data yn aros yn ddienw, a bydd P3 ac Ofcom yn gwneud yn siŵr nad oes modd adnabod unrhyw unigolion o'r data a gesglir. Mae modd rhoi'r gorau i fod yn rhan o'r ymchwil unrhyw bryd drwy ddadosod yr ap.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION:

  1. I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaethau'r ap, defnydd a diogelu data, darllenwch y dudalen cwestiynau cyffredin ar wefan Ofcom.
  2. Bydd y data a gesglir gan yr ap yn cael ei rannu'n ddwy set. Data craidd, fel gwybodaeth am berfformiad y rhwydwaith, a data a gesglir gan banel defnyddwyr o drefi a dinasoedd ledled y DU sy'n gynrychioladol o'r wlad i gyd. Bydd P3 yn defnyddio'r data craidd ar gyfer ei waith ymchwil ei hun ac yn gwneud yn siŵr ei fod ar gael i drydydd partïon hefyd, fel y cwmnïau symudol.
  3. Bydd Ofcom yn defnyddio'r data a gesglir gan y panel cenedlaethol o ddefnyddwyr i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr ar ffurf adroddiadau ansawdd a mapiau rhyngweithiol. Bydd y data hefyd ar gael fel data agored at ddibenion penodol fel gwaith ymchwil academaidd, ffordd o gymharu ar gyfer trydydd partïon a helpu cwmnïau symudol i wella rhwydweithiau.