Mae’r rhyngrwyd wedi mynd ar y blaen i’r sgrin deledu fel prif gyfrwng adloniant plant y DU.
Mae adroddiad Ofcom Plant a Rhieni: Defnydd ac Agweddau o’r Cyfryngau PDF, 2.9 MB , a gyhoeddwyd heddiw, yn datgelu bod defnydd plant o’r rhyngrwyd wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda phobl ifanc 5-15 oed yn treulio tua 15 awr yr wythnos ar-lein1 – sydd am y tro cyntaf, yn fwy na’r amser sy’n cael ei dreulio yn gwylio’r teledu.
Mae hyd yn oed plant cyn oed ysgol, rhwng 3-4 oed, yn treulio wyth awr ac 18 munud yr wythnos ar-lein, i fyny awr a hanner, o chwech awr 48 munud yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl data Ofcom, gwelir cynnydd o un awr 18 munud yn yr amser y mae plant 5-15 oed yn treulio ar-lein yn y flwyddyn ddiwethaf, i 15 awr.
Yn cyferbynnu â hynny, mae plant yn treulio llai o amser yn gwylio set deledu, gyda’u gwylio wythnosol yn gostwng o 14 awr 48 munud yn 2015 i 13 awr 36 munud yn y flwyddyn ddiwethaf2.
YouTube yw un o’r mannau ar-lein mwyaf poblogaidd i blant wylio cynnwys, gyda thua tri chwarter (73%) o’r rheini rhwng 5-15 oed yn defnyddio’r safle fideo. Mae hefyd yn boblogaidd gyda’r rhai cyn oed ysgol, gyda 37% yn gwylio fideos YouTube yn rheolaidd, gan ddewis ‘cynnwys teledu’ fel cartwnau a ffilmiau byr.
Ac mae plant hŷn yn dechrau ffafrio YouTube gyda phedwar ymhob deg 8-11 oed a 12-15 oed yn dweud bod yn well ganddyn nhw wylio YouTube na’r set deledu.
Er gwaethaf hynny, mae ymchwil Ofcom yn dangos bod y teledu yn parhau i chwarae rhan bwysig ym mywydau plant, gyda naw ymhob deg yn dal i wylio, bob dydd fwy neu lai, a’r nifer fwyaf o blant yn gwylio yn ystod oriau brig y teulu, 6-9pm.
Mae dyfeisiau digidol yn fwy cyffredin ymhlith plant nag erioed o’r blaen, gan gynnwys yr ifanc iawn. Mae’r ymchwil heddiw yn dangos bod traean (34%) o blant cyn oed ysgol (3-4 oed) yn berchen ar eu dyfeisiau cyfryngau eu hunain – fel tabled neu gonsol gemau.
Mae’r plant cyn oed ysgol, gan amlaf, yn mwynhau adloniant digidol ar dabled, gyda dros hanner (55%) yn defnyddio un, ac 16% yn berchen ar eu tabled eu hunain – i fyny o 3% yn unig yn 2013.
Wrth i blant gyrraedd yr arddegau cynnar a’r blynyddoedd cyn yr arddegau, mae’n well ganddyn nhw ffonau clyfar na thabledi – gyda’r gyfran o blant sy’n berchen ar un yn cynyddu o 35% i 41% yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny’n golygu bod un ymhob tri plentyn 8-11 oed, ac wyth ymhob 10 plentyn 12-15 oed, bellach yn berchen ar eu ffôn clyfar eu hunain.
Wrth i blant dreulio mwy o’u hamser ar-lein, mae eu hymwybyddiaeth o gefnogaeth hysbysebion a ‘vlogger’ hefyd wedi cynyddu gyda dros hanner defnyddwyr y rhyngrwyd rhwng 12-15 oed (55%) bellach yn ymwybodol y gellir personoli hysbysebu ar-lein – i fyny 10 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Ac ymhlith plant 12-15 oed, mae ymwybyddiaeth o gefnogi cynnyrch gan vloggers hefyd wedi cynyddu 10 y cant i 57% yn 2016.
Ond, mae dal angen help ar blant i adnabod hysbysebion ar beiriant pori Google, gyda lleiafrif yn unig o blant 8-11 oed (24%) a 12-15 oed (38%) yn adnabod dolenni a noddwyd yn gywir3.
Er gwaethaf pwysigrwydd dyfeisiau digidol ym mywydau plant, mae ymchwil Diwrnod Digidol Ofcom PDF, 1.2 MB , a gyhoeddwyd heddiw, hefyd yn dangos mai darllen yw’r trydydd gweithgaredd mwyaf poblogaidd gyda phlant oed cynradd (62%), yn uwch na gweithgareddau mwy newydd fel gwylio clipiau fideo ar-lein (47%), negeseua cyflym (10%) a gwylio fideos cerddoriaeth (11%)4.
Ac mae nifer o deuluoedd yn parhau i fwynhau’r arfer traddodiadol o ddarllen cyn cysgu, gydag un ymhob pump (21%) o blant 6-11 oed yn darllen am 7.45pm - yr adeg darllen fwyaf poblogaidd yn ystod y dydd.
Mae dros naw ymhob deg plentyn 8-15 oed wedi cael sgyrsiau gyda rhieni neu athrawon ynglŷn â bod yn ddiogel ar-lein, ac y byddent yn dweud wrth rywun os byddent yn gweld unrhyw beth pryderus neu annymunol5. Mae rhieni plant hŷn yn fwy tebygol o fod yn cael y mathau yma o sgyrsiau gyda’u plant, gyda 92% o rieni plant 12-15 oed yn dweud eu bod wedi siarad â’u plant ynglŷn â diogelwch ar-lein, cynnydd o chwech y cant ers 2015.
Mae bron i bob rhiant (96%) plant 5-15 oed yn rheoli defnydd eu plant o’r rhyngrwyd mewn rhyw ffordd - nall ai drwy offer technegol, siarad neu oruchwylio eu plant, neu osod rheolau ynglŷn â mynediad i’r rhyngrwyd ac ymddygiad ar-lein. Mae dau ym mhob pum rhiant yn defnyddio’r pedwar dull.
Ac mae rhieni plant 5-15 oed yn fwy tebygol o ddefnyddio hidlwyr lefel rhwydwaith yn 2016 - i fyny pump y cant i 31%6.
Gan fwyaf, mae teuluoedd yn gytûn bod gan eu plant gydbwysedd da rhwng amser o flaen y sgrin a gwneud gweithgareddau eraill. Mae’r rhan fwyaf o blant 12-15 oed (64%), a rhieni plant o’r un oedran (65%) o’r farn bod y cydbwysedd hwn yn iawn.
Dywedodd Jane Rumble, Cyfarwyddwr Gwybodaeth am y Farchnad gydag Ofcom: “Mae bywydau plant yn fwyfwy digidol, gyda thabledi a ffonau clyfar yn denu mwy o sylw nag erioed o’r blaen. Er hynny, mae teuluoedd yn dod o hyd i amser ar gyfer gweithgareddau mwy traddodiadol, fel gwylio’r teledu gyda’i gilydd neu ddarllen stori cyn cysgu.”
GORFFEN
NODIADAU I OLYGYDDION