15 December 2014
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ei drydydd adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Mae adolygiad heddiw yn edrych ar sut mae'r BBC, ITV, STV, UTV, Channel 4, Channel 5 ac S4C wedi cyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus ers adolygiad Ofcom yn 2008.
Barn gychwynnol Ofcom yw bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn perfformio'n dda er gwaethaf gostyngiadau yn y gwylio a'r gwario ar raglenni.
Mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd cynulleidfaoedd wrth Ofcom fod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn bodloni eu hanghenion gyda 77% o'r gwylwyr yn fodlon gyda'r sianelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus, i fyny o 69% yn 2008.
Mae gwylwyr yn gwerthfawrogi dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn fawr, ac maent yn manteisio fwyfwy ar raglenni ar alwad a manylder uwch ac yn gwylio'r teledu ar amrywiaeth o ddyfeisiau.
Mae canran gwylio'r prif sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal i gyfrif am dros hanner (51.1%) y gwylio yn y DU yn 2013, er bod y ffigur hwn wedi gostwng o 60.8% yn 2008. Os yw sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus '+1' yn cael eu hystyried, roedd cyfran gwylio gyfun darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn 58.7% yn 2013.
Gwelwyd gostyngiad o 17.5% mewn buddsoddiad cyffredinol mewn rhaglenni gwreiddiol sy'n cael eu dangos am y tro cyntaf gan sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus rhwng 2008 a 2013, i £2.41bn.Fodd bynnag, nid yw'r effaith ar amrywiaeth ac ansawdd rhaglenni'n glir, gan fod bodlonrwydd cyffredinol y gynulleidfa yn dal i fod yn uchel ac roedd nifer y rhaglenni newydd yn ystod y cyfnod gwylio brig wedi cynyddu 1.1%.
Mae diwydiant cyfathrebu a chyfryngau'r DU wedi newid yn sylweddol er 2008, o ganlyniad i gwblhau'r newid i'r digidol, y cynnydd yn y gwylio teledu ar-lein a'r nifer sy'n defnyddio dyfeisiau sydd wedi'u cysylltu a dyfeisiau symudol.
Mae darparwyr heblaw am y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi gwario mwy ar raglenni, gan gynnwys darlledwyr aml-sianel a sianeli portffolio masnachol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae gwariant sianeli nad ydynt yn rhai darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar raglenni gwreiddiol, nad ydynt yn rhai chwaraeon, wedi cynyddu 43% i £345 miliwn yn 2013, ac mae bellach yn cyfrif am 15% o'r buddsoddiad mewn rhaglenni gwreiddiol nad ydynt yn rhai chwaraeon.
Os bydd y tueddiadau cyfredol yn parhau, barn Ofcom yw y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus allu cynnal y lefelau presennol o ran y cyflenwi a'r allbwn. Ond gallai newidiadau parhaus yn y sector arwain at gyfleoedd a heriau i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus:
Gallai symud yn gynt o wylio ar deledu byw i wylio ar alwad leihau cyrhaeddiad darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Neu, gallai helpu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i fodloni anghenion y gynulleidfa yn well drwy fod yn fwy cyfleus a darparu mynediad at raglenni archif.
Mae cwmnïau newydd, gan gynnwys gwasanaethau fideo ar-lein drwy fand eang, fel Netflix ac Amazon, yn cystadlu â darlledwyr traddodiadol. Gallai mwy o gystadleuaeth ostwng cyfran y gynulleidfa a'r refeniw i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Gallai hefyd ysgogi mwy o arloesi a rhaglenni o well ansawdd.
Gallai newidiadau demograffig yn y DU, yn enwedig y gwahaniaeth rhwng cynulleidfaoedd iau a hŷn fod yn heriol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Er y gallai methu ag ymateb arwain at ostyngiad yng nghyfran y gwylio, mae'n bosib y bydd arloesi a mwy a mwy o ddefnydd o'r gwasanaeth ar alwad yn arwain at dargedu grwpiau cynulleidfa arbennig yn well.
Ffi'r drwydded y BBC a hysbysebu ar y teledu yw'r prif ffynonellau cyllido ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Byddai gofyn cael mesurau effeithlonrwydd eraill i wneud iawn am ostyngiad sylweddol yn y naill neu'r llall, neu byddai gofyn creu ffynonellau refeniw newydd.
Gallai cynnydd sylweddol mewn costau cynhyrchu teledu arwain at ostyngiad yn amrywiaeth, swmp neu ansawdd rhaglenni darlledu gwasanaeth cyhoeddus, os na fydd y cyllid yn aros yr un fath.
Mae Ofcom hefyd wedi ystyried beth ellid ei wneud petai heriau yn dod i'r fei i'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r ymgynghoriad heddiw yn dynodi pedwar prif faes i'w hystyried ymhellach:
Mae Ofcom wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol darlledu gwasanaeth cyhoeddus 2014, ac mae'n gofyn am sylwadau ar ei ganfyddiadau cychwynnol. Bydd datganiad terfynol ar yr adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dilyn yn ystod haf 2015.
Dywedodd Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom: "Mae'r ffordd mae pobl yn gwylio teledu'n newid, ond mae'n amlwg bod gwylwyr yn gwerthfawrogi rhaglenni gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus."Rhaid i'r diwydiant teledu cyfan fodloni heriau newydd mewn tirwedd cyfryngau sy'n newid, ac sy'n cyflwyno risgiau ac ansicrwydd. Ond ein barn ni yw bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mewn sefyllfa gadarn i ddal ati i gyfrannu at sector llwyddiannus ac arloesol."
Heddiw, mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi adolygiad o'r modd y mae Corfforaeth Channel 4 yn cyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â chynnwys cyfryngau ar draws ei ystod lawn o wasanaethau rhwng 2010 a 2013. Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys gwneud ystod eang o gynnwys cyfryngau perthnasol sy'n apelio i gymdeithas sy'n amrywiol yn ddiwylliannol, gwneud cynnwys sy'n apelio i blant hŷn ac oedolion ifanc, gwneud ffilmiau o ansawdd uchel a darlledu a dosbarthu cynnwys a ffilmiau o'r fath.
Mae adolygiad Ofcom yn canfod mai ychydig iawn o gynnwys a wnaeth Corfforaeth Channel 4 ar gyfer plant hŷn, ac roedd cyrhaeddiad a chyfran Channel 4 News a'r brif sianel wedi dirywio hefyd.
Ond yn gyffredinol, mae Corfforaeth Channel 4 wedi perfformio'n dda, at ei gilydd, o ran cyflawni ei dyletswyddau dros gyfnod pedair blynedd yr adolygiad. Yn benodol, mae wedi gwneud ystod eang o gynnwys cyfryngau o ansawdd uchel sy'n eang eu hapêl; wedi cynhyrchu ffilmiau o ansawdd uchel i'w rhyddhau yn y sinema; ac wedi dal ati i gefnogi talent greadigol.
DIWEDD
1. Mae'n rhaid i Ofcom adrodd bob hyn a hyn ar sut mae cynnwys gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei ddarparu, gyda'r bwriad o gynnal a chryfhau'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Er mwyn gwneud hynny, rydym wedi edrych ar y newidiadau yn y sector darlledu a'r sector cyfathrebu ehangach a'u heffaith bosib ar y system darlledu gwasanaeth cyhoeddus bresennol. I ddechrau, mae'r ddogfen hon yn nodi'r cyd-destun ehangach y mae'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gweithredu o fewn iddo. Yna, mae'n asesu i ba raddau mae'r system wedi cyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus er 2008, ac yn edrych ar gyfraniad gwasanaethau cyfryngau eraill, fel teledu nad ydynt yn darlledu gwasanaeth cyhoeddus, radio a chynigion ar-lein. Yna, mae'n edrych ar heriau posib i'r system yn y dyfodol ac yn ystyried sut gellid cynnal a chryfhau'r system.
2. Y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus a ystyriwyd yn yr adolygiad hwn yw BBC One, BBC Two, BBC Three, BBC Four, BBC News, CBBC, CBeebies, BBC Parliament, BBC HD Services, ITV, STV a BBC Alba yn yr Alban, UTV yng Ngogledd Iwerddon, Channel 4, Channel 5 ac S4C yng Nghymru.
3. Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn nodi dibenion ac amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae Ofcom wedi datblygu cyfres o ddibenion a nodweddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn seiliedig ar yr amcanion a'r dibenion statudol hyn.
Dibenion Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus:
Nodweddion Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus: