Dylai myfyrwyr newydd ymgeisio am gyllid erbyn 13 Mai 2016 a'r dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau yw 10 Mehefin 2016.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn prosesu oddeutu 1.7 miliwn o geisiadau eleni yn ei swyddfa yng Nghyffordd Llandudno gyda'r disgwyliad o fwy nag erioed o fyfyrwyr o Gymru. Mae dros 32,000 o fyfyrwyr yng Nghymru eisoes wedi cyflwyno ceisiadau.
Meddai Mark Cassidy, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweithrediadau:
“Dylai myfyrwyr newydd yng Nghymru ymgeisio nawr ac mae'r dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau yn prysur nesáu hefyd. Mae’n bwysig ymgeisio erbyn y dyddiadau cau perthnasol i sicrhau bod eich cyllid yn ei le i chi ar ddechrau’r tymor.
“Does dim angen lle wedi ei gadarnhau i allu ymgeisio - gallwch ddefnyddio eich dewis cyntaf o gwrs a’i ddiweddaru'n hwyrach os oes angen. Dylai myfyrwyr newydd gael eu Rhif Yswiriant Gwladol a Phasbort wrth law wrth anfon eu cais i mewn.
“Byddwn hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu manylion banc - mae'n bwysig rhoi'r manylion banc cywir i sicrhau y telir y cyllid yn uniongyrchol i'r cyfrif priodol.
“Dylai myfyrwyr sy'n parhau ar eu cwrs gasglu manylion unrhyw newid mewn amgylchiadau yn y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu gwybodaeth gyfredol.
“Gall gymryd chwe wythnos i brosesu cais am gyllid felly dylai myfyrwyr ymgeisio mor fuan â phosibl.”
Gall myfyrwyr newydd weld pa gymorth ariannol sydd ar gael cyn ymgeisio ar http://gov.uk/studentfinancecyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Efallai y bydd help ychwanegol ar gael i chi os oes gennych ddibynyddion neu anabledd.