logo_w

HyfforddiantTraining

Datblygwch eich sgiliau, gwybodaeth a'ch hyder ym mhob agwedd ar weinyddu tir gyda'n pecynnau hyfforddiant – yn ddelfrydol ar gyfer pob lefel.

Rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno hyfforddiant ymarferol a phroffesiynol i sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol tramor.

Mae ein hyfforddiant yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau sy'n ymwneud â gweinyddu tir:

  • polisi ac ymarfer cofrestru tir
  • gweithdrefnau a dogfennau cofrestru tir
  • egwyddorion sylfaenol cyfraith a hawliau tir
  • llywodraethu
  • cyllid
  • adnoddau dynol
  • gwasanaeth cwsmeriaid.

Cyflwynir hyfforddiant mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:

  • seminarau
  • gweithdai
  • hyfforddiant cymysg (yn cyfuno darllen ymlaen llaw gyda sesiynau ystafell ddosbarth).

Cynllunnir ein pecynnau hyfforddi i ddiwallu'ch anghenion a chyflwyno manteision hirdymor i hyfforddeion a'u sefydliadau.

Mynegai Prisiau Tai

Mehefin 2014: 276.6

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £172,011 Newid:
Misol 0.0%
Blynyddol 6.4%
Mynegai nesaf: 9.30 y bore ar 29 Awst 2014

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
Back to Top
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix