Amdanom ni
Adran o'r llywodraeth a sefydlwyd yn 1862 i gofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yw'r Gofrestrfa Tir.
Rydym yn cadw a chynnal y Gofrestr Tir, lle y cedwir dros 23 miliwn o deitlau – y dystiolaeth o berchnogaeth.
Gweledigaeth y Gofrestrfa Tir yw rhoi’r cwsmer, safon ac arloesiad wrth wraidd gwasanaethau cofrestru tir.
Unwaith y bydd tir neu eiddo wedi'i nodi yn y gofrestr, rydym yn cofnodi unrhyw newidiadau i berchnogaeth, morgeisi neu brydlesi sy'n effeithio arno. Fel rheol, caiff unrhyw un sy'n dioddef oherwydd gwall neu hepgoriad yn y gofrestr, neu oherwydd bod angen cywiro'r gofrestr, iawndal.
Rydym yn ariannu'n hunain trwy godi ffïoedd am gofrestriad a gwasanaethau eraill. Rydym yn creu incwm trwy werthu gwasanaethau Add Value hefyd.
Mae'r Gofrestrfa Tir yn rhan o'r Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) ac yn aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus o fewn BIS. Mae'r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr, Malcolm Dawson, yn atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol, Vince Cable a'r Gweinidog, Michael Fallon.
Rhagor o wybodaeth
Mynegai Prisiau Tai
Mehefin 2014: 276.6(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £172,011 Newid:Blynyddol 6.4%
Cwestiynau poblogaidd
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...