Datblygu argymhellion adolygiad yr Ystadegydd Gwladol o ystadegau prisiau tai y DU – diweddariad Tachwedd 2013
Ym mis Gorffennaf 2013 cyhoeddwyd y cytundeb canlynol rhwng y pedwar cynhyrchydd ystadegau prisiau tai swyddogol.
- Y Gofrestrfa Tir
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Cofrestri'r Alban
- Gwasanaethau Tir ac Eiddo, Gogledd Iwerddon.
Byddai prosiect ar y cyd yn cael ei ddechrau i ystyried datblygu Mynegai Prisiau Tai awdurdodol unigol ar gyfer y DU y gall darparwyr swyddogol adrodd am eu meysydd cyfrifoldeb eu hunain mewn ffordd y gellir ei gymharu'n uniongyrchol. Y gobaith fyddai i’r dull cydweithredol hwn alluogi i ddata Mynegai Prisiau Tai cyson gael ei gyhoeddi ar lefel genedlaethol, ranbarthol ac is-ranbarthol ledled y DU.
Oddi ar fis Gorffennaf mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar asesu'r ffynonellau data presennol a ddefnyddir wrth greu'r ystadegau prisiau tai swyddogol a dichonolrwydd cyfuno'r ffynonellau hyn i greu Mynegai Prisiau Tai unigol, awdurdodol. Er i gynnydd da gael ei wneud, nawr mae angen gwaith pellach i archwilio ffynonellau data priodoleddau eiddo y byddai eu hangen i ategu'r data presennol a dechrau asesu'r gwahanol fethodolegau y gellid eu defnyddio o bosibl i greu mynegai awdurdodol.
Cynhelir y dadansoddiad ychwanegol hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf gyda'r nod o ganfod methodoleg addas a ffynhonnell gynhwysfawr o ddata priodoleddau eiddo y gellid ei ddefnyddio i greu'r Mynegai Prisiau Tai awdurdodol. Ceir rhagor o fanylion mewn perthynas â'r dadansoddiad hwn ac unrhyw ddatblygiadau pellach yn ystod chwarter cyntaf 2014.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y datblygiad arfaethedig a'r dadansoddiad a gynhelir, defnyddiwch y cyfeiriad ebost canlynol i gysylltu â ni: hpi@ons.gsi.gov.uk
Mynegai Prisiau Tai
Mehefin 2014: 276.6(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £172,011 Newid:Blynyddol 6.4%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...