logo_w

Hysbysiad Prosesu Teg

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ddiogelu'r cronfeydd cyhoeddus rydym yn eu gweinyddu. Er mwyn atal a chanfod twyll, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth a roddir i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus.

Mae'r Comisiwn Archwilio yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data. Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un sefydliad â chofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan yr un sefydliad neu sefydliad arall er mwyn gweld pa mor debyg ydynt. Fel arfer gwybodaeth bersonol sydd dan sylw.

Mae paru data'n gyfrifiadurol yn galluogi hawliadau a thaliadau twyllodrus posibl i gael eu nodi. Lle y ceir pâr, mae'n nodi bod anghysondeb y mae angen ei archwilio ymhellach. Ni allwn dybio bod yr anghysondeb o ganlyniad i dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

Rydym yn cymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn cynorthwyo yn y gwaith o atal a chanfod twyll ac rydym yn rhoi data i'r Comisiwn Archwilio i'w baru â data a gedwir gan sefydliadau eraill. Nodir y mathau o ddata y mae eu hangen ar y Comisiwn Archwilio i gwblhau'r ymarfer paru data yn ei arweiniad sydd i'w weld yn http://www.audit-commission.gov.uk/nfi.

Mae'r Comisiwn Archwilio yn cynnal ymarferion paru data yn gyfrifiadurol o dan ei bwerau yn Rhan 2A o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998. Nid oes angen cydsyniad yr unigolion dan sylw arno o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae data sy'n cael ei baru gan y Comisiwn Archwilio yn destun Côd Ymarfer. Mae hwn i'w weld yn www.audit-commission.gov.uk/nfi/codeofdmp.asp.

I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol y Comisiwn Archwilio a'r rhesymau pam mae'n paru gwybodaeth benodol, ewch i www.audit-commission.gov.uk/nfi/fptext.asp.

I gael rhagor o wybodaeth am baru data yn y Gofrestrfa Tir, ewch i'r COA neu cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data.

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix