Amrywiaeth
Mae’r Gofrestrfa Tir yn gwbl ymroddedig i drin pobl fel unigolion, gan roi cyfle cyfartal i bob aelod o staff, a thrin ein cwsmeriaid yn gyfartal. Byddwn yn cynnal ein polisïau'n deg, yn rhesymol, yn ddiduedd a heb ragfarn i'n staff a'n cwsmeriaid. Mae gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein galluogi i wneud y gorau o alluoedd ein holl staff ac yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r amrediad llawn o gwsmeriaid sydd gennym.
Bydd ein strategaeth amrywiaeth a'n hamcanion cydraddoldeb strategol yn sicrhau y byddwn yn cyflawni ein gofynion cyfreithiol o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Yn ogystal, rydym yn ymgymryd â dadansoddiad cydraddoldeb er mwyn sicrhau ein bod yn dangos y sylw dyledus i nodau'r ddyletswydd cydraddoldeb. Caiff pob asesiad effaith ar gydraddoldeb (EIA) a gwblheir yn ddiweddar ei gyhoeddi ar y wefan hon. Gallwch weld asesiadau effaith ar gydraddoldeb a archifwyd ar wefan yr Archif Genedlaethol.
Mae'n bwysig ein bod yn monitro pa mor llwyddiannus yw'n hamcanion cydraddoldeb i ddiwallu ein nodau ac felly rydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth i'n helpu i wneud hyn. Cyhoeddir y canlyniadau yn ein Hadroddiad Gwybodaeth am Gydraddoldeb 2013, sy'n rhoi gwybodaeth am sut rydym wedi monitro a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod y 12 mis diwethaf a'n cynlluniau gwella ar gyfer 2014. Yn ogystal, bydd ein Pwyllgor Amrywiaeth yn adolygu ein hamcanion cydraddoldeb yn annibynnol drwy'r flwyddyn.
Os oes angen y ddogfen hon arnoch ar ffurf wahanol neu os oes angen gwybodaeth fwy manwl mewn perthynas â data cydraddoldeb craidd, cysylltwch â:
Diversity Team
Nottingham Office
Castle Wharf House
2 Canal Street
Nottingham
NG1 7AU
Ebost: CMS.HRsupportdesk@landregistry.gsi.gov.uk
Ffôn: 0300 006 2523
Mynegai Prisiau Tai
Mehefin 2014: 276.6(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £172,011 Newid:Blynyddol 6.4%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...