Map ar-lein yn helpu gweithwyr proffesiynol i ganfod gwybodaeth eiddo
Heddiw mae’r Gofrestrfa Tir yn lansio ei gwasanaeth digidol diweddaraf, MapSearch. Mae’r gwasanaeth di-dâl hwn yn cynnig fersiwn ar-lein o Fap Mynegai y Gofrestrfa Tir y gellir ei chwilio i weithwyr tir ac eiddo proffesiynol. Mae’r map yn cynnwys lleoliad holl dir ac eiddo cofrestredig Cymru a Lloegr. Mae hwn yn gam arwyddocaol yn ei gwaith i ddarparu gwasanaethau digidol syml a chyfleus i’w chwsmeriaid.
Gyda MapSearch, gall cwsmeriaid gadarnhau a yw tir ac eiddo’n gofrestredig a chael gwybodaeth bellach megis rhif cyfeirnod unigryw y mae’r Gofrestrfa Tir yn ei roi i bob eiddo. Cyn MapSearch, ffordd gyffredin i gwsmeriaid ganfod y wybodaeth hon oedd cais ‘Chwiliad o’r Map Mynegai’ (SIM). Codir ffi am gais SIM ac mae’n gofyn i weithwyr cais y Gofrestrfa Tir archwilio’r cais â llaw a dychwelyd y canlyniadau.
Meddai Simon Cairns, arweinydd rhaglen Cyflwyno Gwasanaeth Digidol y Gofrestrfa Tir, “Nod y llywodraeth yw arbed rhwng £1.7 ac £1.8 biliwn bob blwyddyn trwy fod yn ‘ddigidol yn ddiofyn’. Rydym yn cyfrannu at hyn yn y Gofrestrfa Tir trwy ailddylunio, symleiddio a digideiddio ein gwasanaethau, sy’n ein galluogi i ganolbwyntio ar ddefnyddio ein sgiliau’n well i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.”
Mae Angela Jackson, Pennaeth Datblygu Cynnyrch yn esbonio MapSearch, “Mae’r Map Mynegai yn rhan hanfodol o gyflwyno gwasanaeth y Gofrestrfa Tir. Mae’n cadw manylion ar gyfer pob eiddo a gofrestrwyd gennym yng Nghymru a Lloegr erioed, gan haenu’r data ar fap yr Arolwg Ordnans.
“Wrth inni ddatblygu’r gwasanaeth, cydweithiwyd yn agos â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a chynnwys cwsmeriaid ar bob cam o’r gwaith datblygu. Rydym yn falch o gynnig y dewis i gwsmeriaid holi’r map eu hunain sy’n gallu arbed arian ac amser iddynt, a galluogi’n gweithwyr cais i gefnogi’r agweddau mwy cymhleth ar gofrestru tir.”
Mae hyd at 12,000 o gwsmeriaid wedi defnyddio fersiwn ‘beta’ y gwasanaeth trwy sianel drafodaethol ar-lein y Gofrestrfa Tir, y porthol, gyda thua 2,000 o gwsmeriaid yn defnyddio’r gwasanaeth bob dydd yn ystod mis Mawrth. Mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Dywed David Roberts, Cyfarwyddwr Cyfreithiol, Morgoed Estates Limited:
“Rydym wedi defnyddio MapSearch am sawl wythnos erbyn hyn ac mae wedi dod yn gwbl angenrheidiol!”
Dywed Lucy Edwards, Uwch Gyfreithiwr Datblygu Ymarfer, Pinsent Masons LLP:
“Nid wyf erioed wedi cael cymaint o adborth gwirfoddol gan enillwyr ffi am ba mor hawdd, mor dda a mor ddefnyddiol yw rhywbeth. Rydym yn gweld manteision gwirioneddol o ddefnyddio’r cyfleuster. Ar y diwrnod yr anfonais ebost i hysbysu’r enillwyr ffi bod y cyfleuster ar gael, clywais gan chwech o enillwyr ffi (yn wirfoddol) pa mor wych ydoedd.”
Mae’r Gofrestrfa Tir wedi digideiddio nifer o wasanaethau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, megis Gwasanaeth Cofrestru Dogfen electronig (e-DRS). Mae e-DRS, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2012, yn galluogi cwsmeriaid i gyflwyno ceisiadau’n electronig, yn hytrach na thrwy’r post. Erbyn hyn mae dros 2,000 o gwsmeriaid yn defnyddio e-DRS, ac maent wedi cyflwyno bron hanner miliwn o geisiadau’n electronig. Mae hyn wedi arbed swm sylweddol o arian mewn costau postio yn unig i fusnesau a’r llywodraeth.
Yn ogystal mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnig cymhelliannau pellach i gwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaethau digidol yn hytrach na gwasanaethau papur. Ddoe gostyngodd ei ffïoedd ar gyfer rhai ceisiadau penodol a gyflwynir yn electronig.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
- Cewch ragor o wybodaeth am MapSearch ar wefan y Gofrestrfa Tir.
- Mae cwsmeriaid sy’n cael mynediad i E-wasanaethau busnes trwy borthol y Gofrestrfa Tir yn mwynhau gwasanaeth cyflymach a mwy cost effeithiol nag wrth ddefnyddio’r llwybr traddodiadol ar bapur.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch iwww.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley, Press and PR Manager
- 0300 006 7543,
- 07790 690297 a thrwy
- ebost marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk