Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Ebrill gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Ebrill wedi codi 1.5 y cant oddi ar fis Mawrth2014
- Prisiau Tai mis Ebrill wedi codi 6.7 y cant oddi ar fis Ebrill2013
- Prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,069 o gymharuâ'r brig o £181, 572 ym mis Tachwedd 2007
- 936 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Chwefror2014
- Cyflwynwyd dros 69,830 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestruym mis Ebrill yn amrywio o £8,000 i £27.9 miliwn
Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yndangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.7 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yngNghymru a Lloegr i £172,069. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn dangoscynnydd o 1.5 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 33 y cant ym mis Chwefror2014 i 936 o gymharu â 1,387 ym mis Chwefror 2013
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 17 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 4.2 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 2.9 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd yr unig ostyngiad prisiau misol hefyd o 1.9 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2014 gynyddu 38 y cant i 62,368 o gymharu â 45,236 ym mis Chwefror 2013.
- Dwyrain Canolbarth Lloegr oedd y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Chwefror 2014.
Mynediad i'r set lawn o ddata
Mynediad i adroddiad llawn mis Ebrill y Mynegai Prisiau Tai (PDF)
Rhanbarth | Newid misol oddi ar fis Mawrth 2014 | Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2013 | Pris cyfartalog (Ebrill 2014) |
---|---|---|---|
Llundain | 4.2% | 17% | £435,034 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 3.0% | 3.8% | £112,064 |
Cymru | 2.9% | 3.0% | £117,581 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 2.3% | 5.5% | £120,118 |
De Ddwyrain Lloegr | 1.9% | 7.5% | £225,650 |
East | 1.9% | 7.8% | £187,963 |
Cymru a Lloegr | 1.5% | 6.7% | £172,069 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 1.2% | 5.7% | £135,150 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.8% | 6.4% | £128,988 |
De Orllewin Lloegr | 0.2% | 3.8% | £178,918 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.9% | 2.9% | £99,001 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Ebrill 2014 | Ebrill 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £269,666 | £255,125 | 5.7% |
Tŷ pâr | £162,059 | £153,064 | 5.9% |
Tŷ teras | £129,329 | £122,087 | 5.9% |
Fflat/Fflat deulawr | £166,952 | £151,764 | 10% |
Holl | £172,069 | £161,259 | 6.7% |
Nifer y gwerthiannau 2013-2012
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,384 | 43,784 | -1% |
Chwefror | 45,236 | 44,874 | 1% |
Mawrth | 54,697 | 61,377 | -11% |
Ebrill | 50,984 | 43,278 | 18% |
Mai | 66,266 | 52,558 | 26% |
Mehefin | 66,018 | 59,893 | 10% |
Gorffennaf | 73,595 | 59,176 | 24% |
Awst | 79,340 | 65,044 | 22% |
Medi | 69,714 | 52,894 | 32% |
Hydref | 76,832 | 59,242 | 30% |
Tachwedd | 82,787 | 63,989 | 29% |
Rhagfyr | 78,892 | 56,716 | 39% |
Cyfanswm | 787,745 | 662,825 | 19% |
Nifer y gwerthiannau 2014-2013
Mis | Gwerthiannau 2014 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 64,271 | 43,384 | 48% |
Chwefror | 62,368 | 45,236 | 38% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Chwefror 2014 | Chwefror 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 63 | 102 | -38% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 81 | 135 | -40% |
Llundain | 91 | 130 | -30% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 36 | 45 | -20% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 216 | 343 | -37% |
De Ddwyrain Lloegr | 109 | 167 | -35% |
De Orllewin Lloegr | 47 | 76 | -38% |
Cymru | 83 | 98 | -15% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 86 | 102 | -16% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 124 | 189 | -34% |
Holl | 936 | 1,387 | -33% |
Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 69,830 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ebrill 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ebrill 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £24 miliwn. Mae'r gwerthiant rhataf ym mis Ebrill 2014 wedi'i leoli yn Bishop Auckland, Swydd Durham a werthwyd am £12,000.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set ddata Pris a Dalwyd mis Mai ar ddydd Gwener 27 Mehefin am 9.30 y bore. Mynediad i'r calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Ebrill 2015 .
- Symudwyd cyhoeddi'r Data Trafodiad iddo fod ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set ddata trafodiad mis Mai ar 20 Mehefin 2014 am 11 y bore.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion bron 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
Yn ôl i'r brig
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk