logo_w
30 Mai 2014
PR 10/14

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Ebrill gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Ebrill wedi codi 1.5 y cant oddi ar fis Mawrth2014
  • Prisiau Tai mis Ebrill wedi codi 6.7 y cant oddi ar fis Ebrill2013
  • Prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,069 o gymharuâ'r brig o £181, 572 ym mis Tachwedd 2007
  • 936 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Chwefror2014
  • Cyflwynwyd dros 69,830 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestruym mis Ebrill yn amrywio o £8,000 i £27.9 miliwn
 

Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yndangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.7 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yngNghymru a Lloegr i £172,069. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn dangoscynnydd o 1.5 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 33 y cant ym mis Chwefror2014 i 936 o gymharu â 1,387 ym mis Chwefror 2013

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 17 y cant.
  •  
  • Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 4.2 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 2.9 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd yr unig ostyngiad prisiau misol hefyd o 1.9  y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2014 gynyddu 38 y cant i 62,368 o gymharu â 45,236 ym mis Chwefror 2013.
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr oedd y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Chwefror 2014.

 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Mynediad i adroddiad llawn mis Ebrill y Mynegai Prisiau Tai (PDF)

Rhanbarth   Newid misol oddi ar fis Mawrth 2014 Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2013 Pris cyfartalog (Ebrill  2014)

Llundain

 4.2%

  17%

£435,034

Gogledd Orllewin Lloegr

 3.0%

 3.8%

£112,064

Cymru

 2.9%

 3.0%

£117,581

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 2.3%

 5.5%

£120,118

De Ddwyrain Lloegr

 1.9%

 7.5%

£225,650

East

 1.9%

 7.8%

£187,963

Cymru a Lloegr

 1.5%

 6.7%

£172,069

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 1.2%

 5.7%

£135,150

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 0.8%

 6.4%

£128,988

De Orllewin Lloegr

 0.2%

 3.8%

£178,918

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.9%

 2.9%

  £99,001


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

 
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Ebrill 2014 Ebrill 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£269,666

 £255,125

5.7%

Tŷ pâr

£162,059

 £153,064

5.9%

Tŷ teras

£129,329

 £122,087

5.9%

Fflat/Fflat deulawr

£166,952

 £151,764

 10%

Holl

£172,069

 £161,259

6.7%


 

Nifer y gwerthiannau 2013-2012 

 

                    

MisGwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  43,384

  43,784

  -1%

Chwefror

  45,236

  44,874

   1%

Mawrth

  54,697

  61,377

-11%

Ebrill

  50,984

  43,278

 18%

Mai

  66,266

  52,558

 26%

Mehefin

  66,018

  59,893

 10%

Gorffennaf

  73,595

  59,176

 24%

Awst

  79,340

  65,044

 22%

Medi

  69,714

  52,894

 32%

Hydref

  76,832

  59,242

 30%

Tachwedd

  82,787

  63,989

 29%

Rhagfyr

  78,892

  56,716

 39%

Cyfanswm

787,745

662,825

 19%


Nifer y gwerthiannau 2014-2013 

                 
MisGwerthiannau 2014
      (Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2013
      (Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  64,271

  43,384

  48%

Chwefror

  62,368

  45,236

  38%


Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Chwefror 2014 Chwefror 2013 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

   63

   102

-38%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   81

   135

-40%

Llundain

   91

   130

-30%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

   36

     45

-20%

Gogledd Orllewin Lloegr

 216

   343

-37%

De Ddwyrain Lloegr

 109

   167

-35%

De Orllewin Lloegr

   47

     76

-38%

Cymru

   83

     98

-15%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

   86

   102

-16%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 124

   189

-34%

Holl

 936

1,387

-33%

Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 69,830 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ebrill 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ebrill 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £24 miliwn.  Mae'r gwerthiant rhataf ym mis Ebrill 2014 wedi'i leoli yn Bishop Auckland, Swydd Durham a werthwyd am £12,000.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set ddata Pris a Dalwyd mis Mai ar ddydd Gwener 27 Mehefin am 9.30 y bore. Mynediad i'r calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Ebrill 2015 .
  2.  
  3. Symudwyd cyhoeddi'r Data Trafodiad  iddo fod ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set ddata trafodiad mis Mai ar 20 Mehefin 2014 am 11 y bore.
  4.  
  5. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  6.  
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8.  
  9. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  10.  
  11. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  12.  
  13. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  14.  
  15. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
  16.  
  17. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:    
    • y cyfeiriad llawn
    •      
    • y pris a dalwyd
    •      
    • dyddiad y trosglwyddiad
    •      
    • y math o eiddo
    •      
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    •      
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
    •    
  18.  
  19. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  20.  
  21. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  22.  
  23. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion bron 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  24.  
  25. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.

    Cysylltu

    Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

     Yn ôl i'r brig
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix