logo_w
20 Mehefin 2014
PR 12/14

Data Trafodiad mis Mai y Gofrestrfa Tir

  • Y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,360,416 o geisiadau
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 317,043 o geisiadau
  • Birmingham ar frig y tabl o geisiadau awdurdod lleol gyda 19,593

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,360,400 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Mai. Mae hyn yn cynnwys 1,311,939 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 360,223 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 582,518 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 173,991 yn chwiliadau a 77,402 yn drafodion am werth.

Ceisiadau fesul rhanbarth

 

RhanbarthCeisiadau

De Ddwyrain Lloegr

317,043

Llundain Fwyaf

260,379

Gogledd Orllewin Lloegr

151,871

De Orllewin Lloegr

135,018

Gorllewin Canolbarth Lloegr

111,399

Swydd Gaerefrog a'r Humber

104,672

Dwyrain Canolbarth Lloegr

97,825

Cymru

64,034

Gogledd Lloegr

63,261

Dwyrain Anglia

54,778

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

70

Ynysoedd Sili

66

Cyfanswm

1,360,416


Tri phrif awdurdod lleol

 
Tri phrif awdurdod lleolCeisiadau

Birmingham

19,593

Dinas Westminster

18,777

Leeds

15,575



Trafodion am werth

 
Tri phrif gwsmerTrafodion am werth

My Home Move Limited

1,604

Countrywide Property Lawyers

968

O'Neill Patient

584


 

Chwiliadau

 
Tri phrif gwsmerChwiliadau

Enact

6,447

Optima Legal Services

5,140

TM Group (UK) Ltd (Search Choice)

4,620

 

 Mynediad i'r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

 

  1. Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Mehefin ar ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2014 am 11 y bore.
  2.  
  3. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Esboniad o'r termau a ddefnyddir.
  4.  
  5. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  6.  
  7. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  8.  
  9. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  10.   
  11. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  12.   
  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.landregistry.gov.uk
  14.  
  15. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.  

    Cysylltu

     

    Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

     
     
    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix