Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mai gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Mai wedi codi 0.4 y cant oddi ar fis Ebrill 2014
- Prisiau Tai mis Mai wedi codi 6.7 y cant oddi ar fis Mai 2013
- Mae prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,035 o gymharu â'r brig o £181,518 ym mis Tachwedd 2007
- 987 o adfeddiannau yng Nghymru Lloegr yn ystod mis Mawrth 2014
- Cyflwynwyd dros 72,450 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mai yn amrywio o £7,000 i £39 miliwn
Mae data mis Mai o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.7 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £172,035. Mae'r newid misol o fis Ebrill i fis Mai yn dangos cynnydd o 0.4 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 37 y cant ym mis Mawrth 2014 i 987 o gymharu â 1,560 ym mis Mawrth 2013.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 18.5 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.5 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf blynyddol isaf gyda symudiad o 0.9 y cant.
- Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol o 0.9 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014 gynyddu 16 y cant i 63,587 o gymharu â 54,708 ym mis Mawrth 2013.
- Bu cynnydd o 28 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014 i 840 o 657 ym mis Mawrth 2013.
- Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Mawrth 2014 oedd Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Mynediad i'r set lawn o ddata
Download the full May 2014 HPI report (PDF)
Rhanbarth | Newid misol oddi ar fis Ebrill 2014 | Newid blynyddol oddi ar fis Mai 2013 | Pris cyfartalog Mai 2014 |
---|---|---|---|
Llundain | 2.5% | 18.5% | £439,719 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 1.5% | 6.5% | £130,553 |
Dwyrain Lloegr | 0.7% | 8.4% | £188,580 |
De Orllewin Lloegr | 0.6% | 4.7% | £180,265 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.6% | 8.4% | £226,334 |
Cymru a Lloegr | 0.4% | 6.7% | £172,035 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | -0.1% | 4.3% | £133,985 |
Cymru | -0.2% | 2.3% | £116,845 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -0.3% | 0.9% | £99,319 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.5% | 1.3% | £110,161 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -0.9% | 2.9% | £119,472 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegrs) | Mai 2014 | Mai 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £268,897 | £253,896 | 5.9% |
Tŷ pâr | £162,408 | £152,821 | 6.3% |
Tŷ teras | £129,267 | £121,873 | 6.1% |
Fflat/Fflat deulawr | £166,944 | £152,857 | 9.2% |
Holl | £172,035 | £161,254 | 6.7% |
Sales volumes 2013-2012
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,386 | 43,783 | -1% |
Chwefror | 45,246 | 44,874 | 1% |
Mawrth | 54,708 | 61,377 | -11% |
Ebrill | 51,014 | 43,280 | 18% |
Mai | 66,289 | 52,559 | 26% |
Mehefin | 66,061 | 59,893 | 10% |
Gorffennaf | 73,651 | 59,179 | 24% |
Awst | 79,403 | 65,047 | 22% |
Medi | 69,811 | 52,895 | 32% |
Hydref | 77,006 | 59,249 | 30% |
Tachwedd | 83,126 | 63,992 | 30% |
Rhagfyr | 79,489 | 56,722 | 40% |
Cyfanswm | 789,190 | 662,850 | 19% |
Sales volumes 2014-2013
Mis | Gwerthiannau 2014 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 65,010 | 43,386 | 50% |
Chwefror | 63,789 | 45,246 | 41% |
Mawrth | 63,587 | 54,708 | 16% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Mawrth 2014 | Mawrth 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 90 | 124 | -27% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 68 | 150 | -55% |
Llundain | 103 | 160 | -36% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 30 | 43 | -30% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 238 | 355 | -33% |
De Ddwyrain Lloegr | 115 | 197 | -42% |
De Orllewin Lloegr | 53 | 100 | -47% |
Cymru | 79 | 103 | -23% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 83 | 125 | -34% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 128 | 203 | -37% |
Holl | 987 | 1,560 | -37% |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,450 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mai 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mai 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £11.5 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mai 2014 wedi'i leoli yn Scarborough, Gogledd Swydd Gaerefrog, a werthwyd am £8,500.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mehefin am 9.30 y bore ar ddydd Gwener 28 Gorffennaf 2014. Mynediad i'r calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Ebrill 2015.
- Symudwyd dyddiad cyhoeddi'r Data Trafodiad fel ei fod bellach ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set ddata trafodiad mis Mehefin ar 21 Gorffennaf 2014 am 11 y bore.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig .
- Mae'r Data Pris a Dalwyd Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk