Datganiad polisi amgylcheddol
Rydym yn cydnabod bod yn rhaid, wrth gyflawni swyddogaethau’n busnes, inni leihau effaith negyddol ein busnes ar yr amgylchedd. Rydym felly’n gwneud yr ymrwymiad amgylcheddol canlynol i:
- gydymffurfio â phob deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol ac amcan allweddol y llywodraeth
- atal llygredd o’n gweithgareddau
- adolygu a gwella’n perfformiad amgylcheddol yn barhaus
- integreiddio cynaliadwyedd i bob penderfyniad busnes, prosiect a newid o ran arfer gwaith.
Yn benodol, byddwn yn cyflawni’r rhain trwy:
- ystyried effeithiau amgylcheddol nwyddau a gwasanaethau yn ystod y broses gaffael a chydweithio â darparwyr allweddol yn unol â chanllawiau caffael cynaliadwy
- gweithio gyda’n darparwyr cyfarpar TG a rheolwyr mewnol i weithredu gofynion y fenter Greening Government ICT a thrwy hynny, cyflwyno newid o fewn y Gofrestrfa Tir
- lleihau defnydd cymharol gwasanaethau ac adnoddau eraill a rhoi pwyslais ar gyrraedd targedau llywodraeth ganolog yn ymwneud â chynaliadwyedd a chyrraedd statws carbon niwtral
- cyflwyno polisi i leihau’n effeithiol gollyngiadau CO2 o drafnidiaeth trwy gydbwyso ein hanghenion busnes am effeithlonrwydd yn erbyn yr effaith ar yr amgylchedd
- annog symudiad tuag at ddewisiadau trafnidiaeth sy’n fwy effeithlon o ran carbon, megis cynadledda fideo a ffôn
- gweithio gyda’n staff, contractwyr a darparwyr i leihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi a chynyddu’n hailgylchu/ailddefnydd cyffredinol yn unol â thargedau’r llywodraeth.
Mynegai Prisiau Tai
Mehefin 2014: 276.6(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £172,011 Newid:Blynyddol 6.4%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...