logo_w

PR10/11 26/07/2011

Y Gofrestrfa Tir yn ymuno â'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau

O heddiw, 18 Gorffennaf 2011, mae'r cyfrifoldeb dros y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, yn symud o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Mae hyn yn golygu y bydd y cyfrifoldeb yn symud o'r Arglwydd Ganghellor, Kenneth Clarke i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, Dr Vince Cable.

Dywedodd Malcolm Dawson, Prif Gofrestrydd a Phrif Weithredwr:

"Rydym yn falch ein bod yn ymuno â theulu'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ynghyd â'r Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans. Credaf y bydd y newid hwn yn cryfhau partneriaethau sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â chynnig cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer cydweithio."

Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol tuag at sefydlu Corfforaeth Data Cyhoeddus (PDC), y cyhoeddwyd cynlluniau ar ei chyfer gan y Llywodraeth ym mis Ionawr eleni. Gwneir penderfyniadau terfynol am aelodaeth, strwythur a strategaeth fasnachol y PDC yn ddiweddarach eleni ar ôl ymgynghori am bolisi data'r PDC, y disgwylir iddo gael ei lansio yn ystod yr haf.

Fel cam pellach tuag at sefydlu PDC, mae Gweinidogion wedi penderfynu sefydlu Bwrdd Pontio Corfforaeth Data Cyhoeddus. Bydd yn ystyried aelodaeth, strwythur a llywodraethu'r PDC ond ni fydd yn disodli Bwrdd y Gofrestrfa Tir na Byrddau presennol mewn sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig.

Ychwanegol Malcolm Dawson:

"Ni chaiff y trosglwyddiad cyfrifoldeb hwn effaith ar statws a gweithrediad y Gofrestrfa Tir. Gall cwsmeriaid a budd-ddeiliaid fod yn dawel eu meddwl y byddwn yn parhau i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf fel rydym wedi ymrwymo i'w wneud."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

1. Ni chaiff y newid MoG unrhyw effaith ar statws y Gofrestrfa Tir fel adran anweinidogol y llywodraeth, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu nac i sefyllfa'r Prif Gofrestrydd Tir fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu. Gwneir y newidiadau angenrheidiol i Ddeddf a Rheolau Cofrestru Tir cyn gynted â phosibl trwy is-ddeddfwriaeth.

2. Bydd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn cymryd y cyfrifoldeb o weithio gyda'r Gofrestrfa Tir i archwilio i opsiynau ar gyfer newid yng ngoleuni'r gwaith blaenorol a wnaed gyda'r Astudiaeth Ddichonoldeb o dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r datblygiadau am PDC a pholisi data cyhoeddus. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod yr haf.

3. Ym mis Hydref 2010, gofynnodd Gweinidogion i swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder arwain astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i'r cyfleoedd a gyflwynwyd gan ehangu cynnwys y sector preifat yng ngwaith y Gofrestrfa Tir. Gwnaed hyn mewn ymateb i adolygiad y Swyddfa'r Cabinet o Gyrff Hyd Braich.

4. Cyflwynwyd canfyddiadau'r astudiaeth i Weinidogion a chynhaliwyd trafodaethau am gyfeiriad y Gofrestrfa Tir yn y dyfodol yn dilyn yr astudiaeth a'r effaith o gynnig y Llywodraeth i ddatblygu PDC.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix