logo_w

13/11 30/08/2011

PRISIAU TAI MIS GORFFENNAF WEDI CODI 1.3 Y CANT ODDI AR FIS MEHEFIN: pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £163,049

Mae data mis Gorffennaf o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad pris blynyddol o 2.1 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £163,049. Mae’r newid misol o fis Mehefin i fis Gorffennaf yn 1.3 y cant.

Llundain oedd yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd o ran gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 1.3 y cant. De Orllewin Lloegr welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.2 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad pris tai blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 8.8 y cant a’r gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o 2.3 y cant.

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai 2011 ostwng 10 y cant i 46,870 o 52,170 ym mis Mai 2010. Cwympodd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 44 y cant rhwng mis Mai 2010 a mis Mai 2011, o 464 i 262.

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Mehefin 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Gorffennaf 2010)

Pris cyfartalog

(Gorffennaf 2011)

De Orllewin Lloegr

2.2%

-1.9%

£174,946

Llundain

1.9%

1.3%

£346,416

Gorllewin Canolbarth Lloegr

1.6%

-1.8%

£133,254

Swydd Gaerefrog a’r Humber

1.4%

-4.5%

£122,083

Cymru a Lloegr

1.3%

-2.1%

£163,049

Dwyrain Canolbarth Lloegr

1.2%

-3.2%

£125,335

Gogledd Orllewin Lloegr

1.2%

-3.3%

£114,452

De Ddwyrain Lloegr

0.9%

-1.1%

£209,309

Cymru

0.9%

-3.4%

£119,892

Dwyrain Lloegr

0.6%

-2.3%

£173,393

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-2.3%

-8.8%

£101,143

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Gorffennaf 2011

Gorffennaf 2010

Gwahaniaeth (%)

Tŷ sengl

£256,545

£260,865

-1.7%

Tŷ pâr

£154,219

£157,466

-2.1%

Tŷ teras

£124,453

£127,507

-2.4%

Fflat/fflat deulawr

£151,519

£155,863

-2.8%

Holl

£163,049

£166,607

-2.1%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth (%)

Ionawr

35,842

26,286

36%

Chwefror

42,534

27,288

56%

Mawrth

51,412

35,546

45%

Ebrill

52,282

39,360

33%

Mai

52,170

45,878

14%

Mehefin

62,705

54,803

14%

Gorffennaf

67,451

63,682

6%

Awst

61,419

58,359

5%

Medi

57,396

58,532

-2%

Hydref

58,532

65,820

-11%

Tachwedd

56,193

61,151

-8%

Rhagfyr

56,637

78,529

-28%

Cyfanswm

654,573

615,234

6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth (%)

Ionawr

37,380

35,842

4%

Chwefror

39,362

42,534

-7%

Mawrth

46,114

51,412

-10%

Ebrill

49,608

52,282

-5%

Mai

46,870

52,170

-10%

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".

2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Awst am 11 y bore ar ddydd Mercher 28 Medi 2011.

3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Jill Inglis 0300 0067487

jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix