logo_w

PR16/11 25/10/2011

Y Gofrestrfa Tir yn penodi ei chadeirydd cyntaf

Heddiw, dydd Llun 24 Hydref, cyhoeddodd y Gofrestrfa Tir benodiad ei Chadeirydd cyntaf yn ei hanes 149 blwyddyn. Ar ôl cystadleuaeth a chymeradwyaeth gan Edward Davey, y Gweinidog dros Gysylltiadau Cyflogaeth, Defnyddwyr a Materion Post yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, penodwyd Mark Boyle fel cadeirydd anweithredol newydd y Gofrestrfa Tir.

Roedd cyflwyno swydd Cadeirydd ar wahân i rôl Prif Weithredwr yn un o argymhellion Adolygiad Llywodraethu diweddar a wnaed gan y Gofrestrfa Tir. Bydd y cam yn sicrhau bod y Gofrestrfa Tir yn dilyn ymarfer gorau ar gyfer llywodraethu corfforaethol.

Wrth groesawu'r penodiad, dywedodd Malcolm Dawson, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr:

"Rwyf wrth fy modd bod Mark yn ymuno â ni. Mae'n dod â phrofiad eang o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat fydd yn amhrisiadwy wrth ein helpu i gyfrannu at ddatblygu syniadau am Gorfforaeth Data Cyhoeddus a sut y gallwn gefnogi amcanion data cyhoeddus a thwf economaidd y Llywodraeth orau."

Ychwanegodd Mark Boyle:

"Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno â'r Gofrestrfa Tir. Mae amcanion y Llywodraeth ynghylch twf a thryloywder data yn rhoi symbyliad i'r Gofrestrfa Tir archwilio ffyrdd newydd o fanteisio ar ei safle yn y farchnad a sgiliau ei chyflogeion.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos â Malcolm a'i dîm i archwilio'r cyfleoedd hyn fydd o fantais i gwsmeriaid, cyflogeion a phob budd-ddeiliad."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Ar hyn o bryd mae Mark Boyle yn gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol i'r Weithrediaeth Cyfranddeiliaid, rhan o'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Cyn ymuno â'r Weithrediaeth Cyfranddeiliaid yn 2008, treuliodd 12 mlynedd mewn rolau datblygu masnachol a chorfforaethol uwch gyda Compass Group a Rentokil Initial a chyn hynny treuliodd 15 mlynedd ym maes bancio gyda Lloyds a Kleinwort Benson.
  2. Bydd Mark yn dechrau yn ei swydd newydd ar 24 Hydref. Bydd yn ymgymryd â swydd y Cadeirydd yn ei enw ei hun. Bydd yn parhau i weithio rhan-amser i'r Weithrediaeth Cyfranddeiliaid ar faterion nad ydynt yn ymwneud â'r Gofrestrfa Tir na'r Gorfforaeth Data Cyhoeddus.
  3. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297 marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix