logo_w

PR17/11

28/10/2011

Prisiau mis Medi wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Awst: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,109

Mae data mis Medi o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 2.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,109. Mae'r newid misol o fis Awst i fis Medi yn ostyngiad o 0.3 y cant ac mae'n parhau â'r newid prisiau misol negyddol a welwyd ym mis Awst o -0.1 y cant.

Yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd yng ngwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf oedd Llundain gyda symudiad o 2.7 y cant. Gogledd Orllewin Lloegr welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.0 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 8.2 y cant a'r gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o -3.9 y cant.

Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Gorffennaf 2011 ostwng 11 y cant i 59,919 o 67,475 ym mis Gorffennaf 2010. Bu gostyngiad o 24 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr rhwng mis Gorffennaf 2010 a mis Gorffennaf 2011, sef o 932 i 707

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Awst 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Medi 2010)

Pris cyfartalog

(Medi 2011)

Gogledd Orllewin Lloegr

1.0%

-2.7%

£115,057

De Orllewin Lloegr

0.5%

-2.4%

£173,331

Swydd Gaerefrog a’r Humber

0.4%

-4.9%

£121,680

Llundain

0.3%

2.7%

£349,026

De Ddwyrain Lloegr

0.0%

-2.1%

£207,244

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-0.2%

-4.1%

£130,308

Cymru a Lloegr

-0.3%

-2.6%

£162,109

Dwyrain Lloegr

-1.1%

-3.0%

£171,600

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-1.6%

-4.3%

£122,973

Cymru

-1.7%

-5.8%

£117,813

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-3.9%

-8.2%

£100,616

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Medi 2011

Medi 2010

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£257,187

£261,101

-1.5%

Tŷ pâr

£153,059

£157,691

-2.9%

Tŷ teras

£122,494

£126,820

-3.4%

Fflat/Fflat deulawr

£152,286

£156,000

-2.4%

Holl

£162,109

£166,364

-2.6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,848

26,289

36%

Chwefror

42,540

27,296

56%

Mawrth

51,424

35,556

45%

Ebrill

52,295

39,367

33%

Mai

52,192

45,883

14%

Mehefin

62,725

54,809

14%

Gorffennaf

67,475

63,698

6%

Awst

61,455

58,373

5%

Medi

57,450

58,545

-2%

Hydref

58,588

65,834

-11%

Tachwedd

56,252

61,155

-8%

Rhagfyr

56,766

78,549

-28%

Cyfanswm

655,010

615,354

6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,497

35,848

5%

Chwefror

39,534

42,540

-7%

Mawrth

46,487

51,424

-10%

Ebrill

50,355

52,295

-4%

Mai

48,392

52,192

-7%

Mehefin

56,342

62,725

-10%

Gorffennaf

59,919

67,475

-11%

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai ".
  2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Hydref am 11 y bore ar ddydd Llun 28 Tachwedd 2011.
  3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  4. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy na 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae tua chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix