(PR07/12) 4 Mai 2012
Y Gofrestrfa Tir yn lansio ymgynghoriad ar gynigion i gau gwasanaethau ffôn
Heddiw, 4 Mai 2012, lansiodd y Gofrestrfa Tir ymgynghoriad ar gynigion i newid deddfwriaeth Pridiannau Tir a fydd yn ei galluogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau ar-lein a chau ei gwasanaeth archebu dros y ffôn ar gyfer cwsmeriaid busnes (y Gwasanaethau Ffôn) y gellir eu defnyddio ar gyfer ceisiadau Pridiannau Tir a cheisiadau’r Gofrestrfa Tir.
O ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn cwsmeriaid busnes yn defnyddio’i gwasanaeth ar-lein, mae’r galw am y Gwasanaethau Ffôn wedi gostwng 95 y cant ac mae’n parhau i ostwng. Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar golled ariannol cyn hir. Mae’r gyfran o geisiadau a archebir dros y ffôn bellach tua 2 y cant o gymharu ag 87 y cant a archebir ar-lein ac 11 y cant drwy’r post.
Bydd y newidiadau i’r rheolau a gynigir yn alinio’r rheolau Pridiannau Tir â Rheolau Cofrestru Tir 2003 gan alluogi i geisiadau gael eu cyflwyno a chyhoeddi canlyniadau trwy ddulliau eraill heblaw’r post neu’n bersonol. Bydd y newidiadau yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran sut y darperir gwasanaethau Pridiannau Tir a bydd yn galluogi gwasanaeth mwy effeithlon sy’n gallu ymateb i gwsmeriaid trwy ddarparu cynnyrch a gwasanaethau trwy sianeli cost effeithiol sy’n diwallu eu hanghenion.
Dywedodd Malcolm Dawson, y Prif Gofrestrydd Tir:
“Bydd y newidiadau a nodir yn yr ymgynghoriad yn ein galluogi i wneud gwell defnydd o’r dechnoleg sydd ar gael er mwyn darparu sianel ‘hunan wasanaeth’ ar gyfer ein cwsmeriaid. Bydd y newidiadau yn ein galluogi i wella a moderneiddio ein prosesau a bod yn fwy hyblyg ac effeithlon ac ymateb yn well i anghenion cwsmeriaid. Mae’n amlwg bod y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid am gael mynediad i wasanaethau electronig ac, o ganlyniad, nid yw’r gwasanaeth ffôn yn gynaliadwy mwyach. Mae angen i ni ddiwygio’r ddeddfwriaeth Pridiannau Tir er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau perthnasol a chost effeithiol ar gyfer ein cwsmeriaid.
“Mae angen ymgynghoriad pan fyddwn yn ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth, a nawr rydym yn croesawu eich cyfraniadau a’ch barn.”
Caiff adroddiad ei gyhoeddi ar ôl yr ymgynghoriad yn www.cofrestrfatir.gov.uk yn dilyn adolygiad gweinidogol. Os caiff y cynigion eu cadarnhau, ac yn amodol ar gymeradwyaeth gweinidogol, disgwylir i’r newidiadau gael eu gweithredu erbyn diwedd 2012.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Gellir defnyddio’r gwasanaethau archebu dros y ffôn (y Gwasanaethau Ffôn) gyfer ceisiadau Pridiannau Tir a cheisiadau’r Gofrestrfa Tir. Dim ond ar gyfer defnyddwyr busnes mae ar gael, sef cyfreithwyr, trawsgludwyr trwyddedig, banciau, cymdeithasau adeiladu a gweithwyr eiddo proffesiynol yn bennaf, sydd â chyfrif y Gofrestrfa Tir. Nid yw ar gael i’r cyhoedd.
1. Mae’r papur ymgynghori yn ceisio barn ar gynigion i newid deddfwriaeth Pridiannau Tir a fydd yn galluogi i’r Gwasanaethau Ffôn gael eu cau. Gellir darllen y ddogfen o heddiw, 4 Mai hyd 27 Gorffennaf 2012 yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/public/consultations
2. Os oes gennych gwestiynau am yr ymgynghoriad neu sut i ymateb iddo, anfonwch ebost at tscclosure@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0191 301 3630.
3. Mae staff yn y Canolfannau Cyswllt i Gwsmeriaid yn delio â’r ceisiadau hyn a chânt eu cyflogi ar batrwm cylch o waith. Ni fyddant yn cymryd archebion dros y ffôn yn unig. Bydd yr hyn sy’n cyfateb i 6.6 aelod llawn amser o staff sy’n darparu’r Gwasanaethau Ffôn ar hyn o bryd yn parhau i weithio i’r Gofrestrfa Tir ar eu dyletswyddau eraill.
4. Mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnal cofrestri mewn perthynas ag eiddo digofrestredig a elwir yn gofrestri Pridiannau Tir. Nid yw’r cofrestri yn cofnodi perchnogaeth tir digofrestredig. Eu prif dasg yw gwarchod buddion penodol, er enghraifft, morgeisi, mewn tir digofrestredig a chynnal mynegai methdalwyr Cymru a Lloegr.
5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
6. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297 marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk