logo_w

PR 09/12
28 Mehefin 2012

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011/12 y Gofrestrfa Tir 

Y GOFRESTRFA TIR – “NEWID ER GWELL”

Cyhoeddodd y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, ei Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2011/12 heddiw (28 Mehefin 2012).

Roedd blwyddyn gadarn o berfformiad yn erbyn targedau, cwblhau newidiadau strwythurol pwysig, ymateb i anghenion cwsmeriaid a derbyn cyfrifoldebau newydd ymhlith yr uchafbwyntiau i'r Gofrestrfa Tir yn 2011/12 

Wrth lansio'r adroddiad blynyddol dywedodd Malcolm Dawson, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr:

“Mae'r Gofrestrfa Tir wedi newid er gwell yn ystod o flwyddyn ddiwethaf. Nid fy marn i yn unig yw hynny – dyna’r hyn mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud wrthyf hefyd.

“Rheolir bron 80 y cant o'n gwaith trwy dimau cwsmeriaid penodedig erbyn hyn. Bu'r adborth yn gadarnhaol. Rydym yn fwy agored, hyblyg ac yn canolbwyntio mwy ar anghenion ein cwsmeriaid. Mae'r gwelliant yn ein sgôr boddhad cwsmeriaid i 97 y cant yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys 99 y cant rhagorol yn y chwarter diwethaf, yn brawf o'r gwaith a wnaed tuag at ddod yn sefydliad mwy rhagweithiol ac ymatebol sy'n canolbwyntio ar y berthynas â'i gwsmeriaid.

“Rydym wedi cwblhau rhaglen ailstrwythuro galed ddechreuodd ar ôl y dirywiad economaidd yn 2008. Caewyd nifer o'n swyddfeydd, cafwyd ymarfer diswyddo gwirfoddol a chwblhawyd y broses o dendro ein gwasanaethau cyfleusterau a chronfeydd ffeiliau allan. Mae wedi bod yn drist ffarwelio â chydweithwyr gwerthfawr, ond roedd y newidiadau hyn yn angenrheidiol a gwnaethom ein gorau i'w rheoli'n sensitif. Rydym wedi adfer sefydlogrwydd ariannol a nawr rydym yn disgwyl gostwng ein ffïoedd yn ddiweddarach eleni gan drosglwyddo'r fantais i'n cwsmeriaid.

“Ynghyd â newidiadau strwythurol, symudodd y cyfrifoldeb gweinidogol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) fel rhagflaenydd i ddod yn aelod sefydlu'r Grŵp Data Cyhoeddus fel rhan o amcanion y Llywodraeth ar gyfer gwella hygyrchedd i ddata cyhoeddus a chefnogi twf economaidd. Tra bod ein diben canolog yn aros yn gyflawn, rydym bellach yn canolbwyntio ar ein rôl newydd wrth gyflenwi ein hadnoddau a'n hasedau er budd yr economi a'r gymdeithas yn gyffredinol.

“Ar y cyfan, mae gennym sylfaen wych i adeiladu arni yn ystod y flwyddyn i ddod – blwyddyn hanesyddol i ni wrth i ni ddathlu ein 150 mlwyddiant. Mae rhai heriau mawr o'n blaenau ond rwy'n ffyddiog y gallwn eu hwynebu er budd ein cwsmeriaid, ein partneriaid, ein gweithwyr a'r economi ehangach.”

Ychwanegodd y Cadeirydd newydd, Mark Boyle, ei fod wedi'i blesio gyda phroffesiynoldeb a gallu'r Gofrestrfa Tir ers iddo ddechrau ei rôl ym mis Hydref 2011. Mae'n credu fod ganddi sail gref ar gyfer y dyfodol wedi'i chreu gan ei rhaglen ailstrwythuro a datblygu'r Strategaeth Cwsmeriaid.

Ymhlith uchafbwyntiau'r flwyddyn mae:

  • Ymuno â'r Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau a dod yn aelod sefydlu'r Grŵp Data Cyhoeddus, oedd yn golygu bod y Gofrestrfa Tir yn canolbwyntio fwyfwy ar ei rôl fel busnes data ac ar amcanion y Llywodraeth o wella hygyrchedd data cyhoeddus a chefnogi twf economaidd. Fel cam cyntaf, rhyddhawyd Data Trafodiad am ddim yn fisol am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2012 gyda'r Data Pris a Dalwyd yn dilyn ym mis Mawrth. Creodd hyn gryn ddiddordeb gan fusnesau ac aelodau'r cyhoedd.
  • Cyflawnwyd gwarged o £67.8 miliwn yn 2011/12 ar ôl cyfanswm o £163.6 miliwn o ddiffygion ariannol yn ystod y tair blynedd ariannol blaenorol (£4.8 miliwn yn 2010/11). Bydd sefyllfa ariannol iachach yn galluogi'r gwaith o weithredu'r gorchymyn ffi yn 2012/13 a fydd yn lleihau ffïoedd o 10 y cant ar gyfartaledd.
  • Cyflawnwyd 11 o 14 o dargedau perfformiad, gan gynnwys gwella pum pwynt i radd boddhad cwsmeriaid o 97 y cant – yr uchaf erioed oddi ar i'r arolygiadau annibynnol ddechrau. Cyrhaeddwyd yr holl dargedau ar gyfer cyflymder gwaith cais, ansawdd a chywirdeb wrth i waith timau cwsmeriaid ddod yn fwy cyffredin ar gyfer dros 4,400 o gwmnïau a chyrhaeddodd nifer y teitlau ar y Gofrestr Tir 23 miliwn.
  • Rhagorodd y Gwasanaeth Register Extract yng Ngwobrau Real IT trwy ennill y brif wobr yng nghategori 'Delivering Business Value and E-Commerce' a chlod gan y beirniaid ar gyfer ei berfformiad er budd cwsmeriaid a'r Gofrestrfa Tir.
  • Ymhlith gwasanaethau masnachol a berfformiodd yn dda mae Data Matching a gyfrannodd dros £880,000 i gyfanswm yr incwm masnachol o £4.93 miliwn, 13 y cant yn fwy na'r llynedd, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd heriol.
  • Mae gwasanaethau electronig wedi parhau i ehangu gyda phedwar ychwanegol ar gael trwy Business Gateway a gwelliannau i'r porthol.
  • Llwyddodd y Gofrestrfa Tir i gwblhau ei Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig ar ôl y dirwasgiad yn y farchnad dai a thorrodd ei gweithlu o 44 y cant yn y broses (oddi ar 2008) a lleihau ei chostau rhedeg gwaelodol o 35 y cant o gymharu â 2007/08.
  • Diwygiwyd y broses llywodraethu gyda Chadeirydd anweithredol annibynnol newydd a Bwrdd y Gofrestrfa Tir wedi'i ailstrwythuro gan roi gwell arolygiaeth o strategaeth a pherfformiad y sefydliad.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011/12 y Gofrestrfa Tir ar gael gan www.tsoshop.co.uk am £21.25 Gellir gweld y fersiwn Cymraeg yn www.cofrestrfatir.gov.uk a’r fersiwn Saesneg ar-lein yn www.official-documents.gov.uk a www.landregistry.gov.uk
  2. Mae copïau ar gael i'r wasg gan Swyddfa'r Wasg ar 0300 0067543. Mae'r datganiad i'r wasg ar gael yn Saesneg hefyd. Cysylltwch â Swyddfa'r Wasg am gopi neu ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/
  3. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  4. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
  6. Dilynwch ni @LandRegGov | LinkedIn

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix