logo_w

28 Chwefror 2013
PR 05/13

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ionawr gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Ionawr yn codi 1.0 y cant oddi ar fis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,441
  • 1,589 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Tachwedd 2012, Niferoedd yr adfeddiannau bellach wedi'u cynnwys yn adroddiad misol y Mynegai Prisiau Tai
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ionawr gyda 251,121 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 65,500 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Ionawr yn amrywio o £10,000 i £20.5 miliwn

Mae data mis Ionawr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 1.0 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,441. Mae'r newid misol o fis Rhagfyr i fis Ionawr yn gynnydd o 1.0 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 11 y cant ym mis Tachwedd 2012 i 1,589 o gymharu â 1,777 ym mis Tachwedd 2011.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 7.1 y cant.
  • Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 2.5 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Orllewin Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 4.2 y cant.
  • Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 1.9 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2012 gynyddu 1 y cant i 61,091 o gymharu â 60,369 ym mis Tachwedd 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Tachwedd 2012 wedi cynyddu 19 y cant i 657 o 554 ym mis Tachwedd 2011.
  • Yr unig ranbarth i weld cynnydd o ran adfeddiannau yw Cymru gyda chynnydd blynyddol o 21 y cant (Tachwedd 2012 o gymharu â mis Tachwedd 2011).

chevron_bullet Llwythwch yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai llawn i lawr
chevron_bullet Chwilio'r Mynegai Prisiau Tair
chevron_bullet Am y Mynegai Prisiau Tai

 
Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Rhagfyr 2012) Newid blynyddol
(oddi ar fis Ionawr 2012)
Pris cyfartalog
(Ionawr 2013)
Llundain 2.5% 7.1% £373,207
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1.6% 1.1% £130,391
Dwyrain Lloegr 1.5% 1.4% £175,187
Gogledd Ddwyrain Lloegr 1.1% -2.3% £99,294
De Ddwyrain Lloegr 1.0% 2.6% £211,054
Cymru a Lloegr 1.0% 1.0%£162,441
Cymru 1.0% 0.9% £116,545
De Orllewin Lloegr 0.8% 0.2% £172,311
Swydd Gaerefrog a’r Humber -0.9% -3.7% £114,669
Dwyrain Canolbarth Lloegr -1.3% -1.2% £121,072
Gogledd Orllewin Lloegr -1.9% -4.2% £106,527
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
(Cymru a Lloegr)
Ionawr 2013 Ionawr 2012 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£257,724

£254,557

1.2%

Tŷ pâr

£153, 931

£153,047

0.6%

Tŷ teras

£122,140

£121,349

0.7%

Fflat/Fflat deulawr

£153, 940

£151,048

1.9%

Holl

£162,441

£160,839

1.0%

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,736

37,630

16%

Chwefror

44,790

39,695

13%

Mawrth

61,269

46,769

31%

Ebrill

43,196

50,777

-15%

Mai

52,377

48,999

7%

Mehefin

59,577

57,741

3%

Gorffennaf

58,852

62,331

-6%

Awst

64,573

64,436

0%

Medi

52,177

63,567

-18%

Hydref

57,947

58,006

0%

Tachwedd

61,091

60,369

1%

 
Adfeddiannau fesul rhanbarth Tachwedd 2012 Tachwedd 2011 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

145

162

-10%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

119

206

-42%

Llundain

162

170

-5%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

44

48

-8%

Gogledd Orllewin Lloegr

347

356

-3%

De Ddwyrain Lloegr

197

224

-12%

De Orllewin Lloegr

82

109

-25%

Cymru

141

117

21%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

131

140

-6%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

221

245

-10%

Cymru a Lloegr

1,589

1,777

-11%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,108,000 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys 1,064,521 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:

  • 268,817 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
  • 474,972 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
  • 146,011 yn chwiliadau
  • 62,078 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited

1,113

Countrywide Property Lawyers

1,036

O'Neill Patient

571

Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 4,967
Optima Legal Services 4,786
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) 4,025
Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

251,121

Llundain Fwyaf

205,023

Gogledd Orllewin Lloegr

121,627

De Orllewin Lloegr

109,627

Gorllewin Canolbarth Lloegr

94,709

Swydd Gaerefrog a'r Humber

93,053

Dwyrain Canolbarth Lloegr

80,776

Cymru

54,730

Gogledd Lloegr

52,133

Dwyrain Anglia

45,155

Ynysoedd Sili

44

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

42

Cyfanswm

1,108,040

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 65,500 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ionawr 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ionawr 2013 wedi'i leoli yn Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £8.6 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Ionawr 2013 wedi'i leoli yn Durham, a werthwyd am £10,000.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Chwefror am 11 y bore ar ddydd Iau 28 Mawrth 2013.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  9. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pwer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  10. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler http://www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales/about-hpi i gael rhagor o wybodaeth.
  11. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  12. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  13. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  14. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
    • Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
    • I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk oneu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.

    Cysylltu

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix