30 Mai 2013
PR 09/13
Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Ebrill gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Ebrill wedi codi 0.4 y cant oddi ar fis Mawrth: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,458
- 1,293 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Chwefror 2013
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ebrill gyda 269,249 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 54,450 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Ebrill yn amrywio o £10,000 i £14.5 miliwn.
Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.7 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,458. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn gynnydd o 0.4 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 28 y cant ym mis Chwefror 2013 i 1,293 o gymharu â 1,788 ym mis Chwefror 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.2 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 1.4 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda symudiad o -5.7 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 1.6 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2013 ostwng 3 y cant i 43,573 o gymharu â 44,829 ym mis Chwefror 2012.
- Bu cynnydd o 3 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2013 i 488 o 475 ym mis Chwefror 2012.
- Gwelodd yr holl ranbarthau ostyngiad mewn adfeddiannau rhwng mis Chwefror 2012 a mis Chwefror 2013. Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Gorllewin Canolbarth Lloegr (mis Chwefror 2013 o gymharu â mis Chwefror 2012).
Llwythwch adroddiad llawn y Mynegai Prisiau Tai i lawr
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Ein Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Mawrth 2013) | Newid blynyddol (oddi ar fis Ebrill 2012) |
Pris cyfartalog (Ebrill 2013) |
---|---|---|---|
Llundain | 1.4% | 6.2% | £375,795 |
De Orllewin Lloegr | 0.8% | 0.3% | £172,720 |
Dwyrain Lloegr | 0.8% | 0.3% | £174,741 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 0.6% | -3.7% | £107,184 |
Cymru a Lloegr | 0.4% | 0.7% | £161,458 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.3% | 1.4% | £209,750 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -0.8% | -1.2% | £114,619 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | -0.9% | 0.5% | £127,689 |
Cymru | -0.9% | -2.0% | £114,444 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -1.4% | -1.2% | £120,544 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.6% | -5.7% | £95,546 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Ebrill 2013 | Ebrill 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ty sengl |
£255,006 |
£256,148 |
-0.4% |
Ty pâr |
£153,119 |
£151,860 |
0.8% |
Ty teras |
£122,134 |
£121,369 |
0.6% |
Fflat/Fflat deulawr |
£152,313 |
£149,538 |
1.9% |
Holl |
£161,458 |
£160,373 |
0.79% |
Nifer y gwerthiannau, 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,752 |
37,644 |
16% |
Chwefror |
44,829 |
39,703 |
13% |
Mawrth |
61,327 |
46,781 |
31% |
Ebrill |
43,238 |
50,794 |
-15% |
Mai |
52,481 |
49,013 |
7% |
Mehefin |
59,787 |
57,757 |
4% |
Gorffennaf |
59,068 |
62,347 |
-5% |
Awst |
64,888 |
64,455 |
1% |
Medi |
52,707 |
63,588 |
-17% |
Hydref |
58,989 |
58,027 |
2% |
Tachwedd |
63,497 |
60,399 |
5% |
Rhagfyr |
55,963 |
63,618 |
-12% |
Cyfanswm |
660,530 |
654,126 |
1% |
Nifer y gwerthiannau, 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
42,511 |
43,756 |
-3% |
Chwefror |
43,573 |
44,829 |
-3% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Chwefror 2013 | Chwefror 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr |
95 |
138 |
-31% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
126 |
197 |
-36% |
Llundain |
117 |
165 |
-29% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
45 |
52 |
-13% |
Gogledd Orllewin Lloegr |
321 |
367 |
-113% |
De Ddwyrain Lloegr |
151 |
236 |
-36% |
De Orllewin Lloegr |
71 |
108 |
-34% |
Cymru |
95 |
135 |
-30% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
97 |
166 |
-42% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
175 |
224 |
-22% |
Cymru a Lloegr |
1,293 |
1,788 |
-28% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,168,800 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys 1,124,323 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif gyda:
- 261,772 yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 530,698 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 149,318 yn chwiliadau
- 54,064 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set ddata trafodion llawn
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited |
920 |
Countrywide Property Lawyers |
835 |
O'Neill Patient |
552 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 5,938 |
Optima Legal Services | 5,065 |
O'Neill Patient | 3,475 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr |
269,249 |
Llundain Fwyaf |
213,033 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
126,603 |
De Orllewin Lloegr |
114,731 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
99,316 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
96,726 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
85,575 |
Cymru |
58,566 |
Gogledd Lloegr |
55,516 |
Dwyrain Anglia |
49,447 |
Ynysoedd Sili |
39 |
Cymru a Lloegr a (heb eu haseinio) |
39 |
Cyfanswm |
1,168,834 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 54,450 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ebrill 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ebrill 2013 wedi'i leoli yn Knightsbridge, canol Llundain, a werthwyd am dros £14.5 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Ebrill 2013 wedi'i leoli yn Platt Bridge y tu allan i Wigan, Manceinion Fwyaf a werthwyd am £10,000.
Mynediad i'r set ddata pris a dalwyd llawn
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mai am 11 y bore ar ddydd Gwener 28 Mehefin 2013.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Ty’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV a chaiff ei gyhoeddi ar ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant o fis Gorffennaf 2013.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai Prisiau Tai i gael rhagor o wybodaeth.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn, fodd bynnag maent ar gael i'w llwytho i lawr am ddim o 28 Mehefin 2013.
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297, marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook