CWSMERIAID Y GOFRESTRFA TIR YN ELWA AR FFÏOEDD IS
Mae arbedion effeithlonrwydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, yn golygu y bydd cwsmeriaid yn elwa ar ffïoedd is cyn hir. Mae'r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir newydd yn ategu strategaeth Digidol yn Ddiofyn y Llywodraeth trwy roi cymhelliant ariannol sylweddol i gwsmeriaid gyflwyno eu ceisiadau'n electronig.
Gosodwyd y Gorchymyn gerbron y Senedd ddoe, dydd Llun 16 Rhagfyr 2013 a disgwylir iddo ddod i rym ar ddydd Llun 17 Mawrth 2014.
Ymhlith y prif newidiadau mae
- Cyfuno'r ddau fand ffi Graddfa 1 isaf gan wneud ffi'r Gofrestrfa Tir am gofrestru eiddo gwerth hyd at £80,000 yn £40 yn unig.
- Gostwng ffi Graddfa 1 o £120 i £80 ar gyfer eiddo gwerth rhwng £80,001 a £100,000.
- Gostyngiad o 50% ar gyfer llawer o geisiadau Graddfa 1 a Graddfa 2 pan gânt eu cyflwyno'n electronig. Er enghraifft, mae'r ffi am eiddo o werth cyfartalog yng Nghymru a Lloegr (£165,515 ym mis Hydref 2013*) yn cwympo o £190 i £95 ac o £910 i £455 ar gyfer eiddo gwerth dros £1 filiwn.
- Cyflwyno ffi sefydlog fesul dogfen (£3 yn electronig/£7 am gais ar bapur) am archwilio dogfennau a chopïau swyddogol o ddogfennau.
Ffïoedd newydd o 17 Mawrth 2014
Band Ffi - Graddfa 1 | Ffi Bresennol | Ffi Newydd | Ffi Newydd (cyflwyno electronig) |
---|---|---|---|
£0 i £50,000 | 40 | 40 | 20 |
£50,001 i £80,000 | 70 | 40 | 20 |
£80,001 i £100,000 | 120 | 80 | 40 |
£100,001 i £200,000 | 190 | 190 | 95 |
£200,001 i £500,000 | 270 | 270 | 135 |
£500,001 i £1 filiwn | 540 | 540 | 270 |
Dros £1 filiwn | 910 | 910 | 455 |
Dywedodd Ed Lester, Prif Weithredwr y Gofrestrfa Tir:
"Y llynedd galluogodd ein harbedion effeithlonrwydd i ni ostwng ffïoedd ac yn 2013 gostyngwyd ein costau gweithredu ymhellach o bedwar y cant. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein bod mewn sefyllfa ffodus o allu rhannu manteision y gostyngiad hwn trwy ostwng ein ffïoedd eto (yn ôl Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir).
“Mae ein hymchwil yn dangos y bydd llawer o brynwyr am y tro cyntaf sy'n prynu eiddo rhwng £50 a £100,000, sy'n cynnwys cyfran sylweddol o werthiannau perchnogaeth ar y cyd neu Hawl i Brynu yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr, yn elwa ar y ffïoedd is.
“Mae hyn yn enghraifft wych o'r manteision o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol i'n cwsmeriaid proffesiynol. Trwy gymell e-gyflwyno, rydym am eu hannog i elwa ar ystod lawn manteision cyflwyno'n electronig – costau is, cyflymder a chyfleustra.”
Fel asiantaeth y llywodraeth sydd â statws cronfa fasnachu, mae'n ofynnol i’r Gofrestrfa Tir dalu ei chostau gweithredu o incwm ffïoedd. Mae ffïoedd y Gofrestrfa Ti yn seiliedig ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd, gwerth yr eiddo a'r gorbenion mewnol. Er i ffïoedd gael eu gostwng, mae nifer presennol y ceisiadau ymhell islaw lefel y blynyddoedd cyn chwalfa'r farchnad eiddo.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Gosodwyd Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2013 gerbron y Senedd ar 16 Rhagfyr a daw i rym ar 17 Mawrth 2014. Mae'n disodli Gorchymyn 2012 a ddaeth i rym ar 22 Hydref 2012.
- I gael rhestr lawn o'r ffïoedd ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/fees
- Incwm ffïoedd y Gofrestrfa Tir ar gyfer 2012/13 yw £347.2 miliwn o gymharu â £359.3 miliwn yn 2011/12. Fel cronfa fasnachu, mae'n ofynnol i'r Gofrestrfa Tir dalu ei chostau a rhoi difidend ar gyfalaf i Drysorlys EM. Daw prif incwm y Gofrestrfa Tir o'i ffïoedd.
- Cafodd y Gofrestrfa Tir 22.6 miliwn o geisiadau yn 2012/13 o gymharu â 36.3 miliwn yn 2007/08.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn Ffi 2013 newydd, gweler http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/fees neu anfonwch ebost at y Tîm Gwasanaeth a Thrin Cwsmeriaid.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk.
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Dilynwch ni ar LinkedIn