Data Tueddiadau’r Farchnad mis Rhagfyr gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau mis Rhagfyr wedi codi 1.1 y cant oddi ar fis Tachwedd: pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £167,353
- 1,129 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Hydref 2013
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Rhagfyr gyda 256,440 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 76,500 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i’w cofrestru ym mis Rhagfyr yn amrywio o £10,500 i dros £19 miliwn
Mae data mis Rhagfyr o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 4.4 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £167,353. Mae’r newid misol o fis Tachwedd i fis Rhagfyr yn dangos cynnydd o 1.1 y cant. Gostyngodd nifer yr adfeddiannau 31 y cant ym mis Hydref 2013 i 1,129 o gymharu â 1,636 ym mis Hydref 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 11.2 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.6 y cant.
- Yr unig ranbarth welodd ostyngiad pris blynyddol yw Gogledd Ddwyrain Lloegr gyda gostyngiad o 0.1 y cant.
- Swydd Gaerefrog a’r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad -1.2 y cant.
- Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2013 gynyddu 21 y cant i 71,929 o gymharu â 59,213 ym mis Hydref 2012.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Hydref 2013 wedi cynyddu 40 y cant i 913 o 651 ym mis Hydref 2012.
- Y rhanbarthau welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Dwyrain Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr.
Llwythwch adroddiad llawn Mynegai Prisiau Tai mis Rhagfyr 2013 i lawr (PDF, 443KB)
Mynediad i'r set lawn o ddata
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Am y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Tachwedd 2013) | Newid blynyddol (oddi ar fis Rhagfyr 2012) | Pris cyfartalog (Rhagfyr 2013) |
---|---|---|---|
Llundain |
2.6% |
11.2% |
£403,792 |
De Ddwyrain Lloegr |
1.8% |
5.9% |
£220,509 |
Dwyrain Lloegr |
1.4% |
5.2% |
£180,690 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
1.4% |
4.1% |
£126,939 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
1.3% |
-0.1% |
£97,596 |
Cymru a Lloegr |
1.1% |
4.4% |
£167,353 |
De Orllewin Lloegr |
1.0% |
3.6% |
£176,783 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
0.3% |
1.7% |
£110,008 |
Cymru |
0.0% |
3.5% |
£118,268 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
-0.6% |
3.2% |
£131,800 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
-1.2% |
0.5% |
£116,012 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo(Cymru a Lloegr) | Rhagfyr 2013 | Rhagfyr 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl |
£263,040 |
£251,925 |
4.4% |
Tŷ pâr |
£158,771 |
£152,192 |
4.3% |
Tŷ teras |
£125,675 |
£121,391 |
3.5% |
Fflat/fflat deulawr |
£159,900 |
£151,158 |
5.8% |
Holl |
£167,353 |
£160,291 |
4.4% |
Nifer y gwerthiannau 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth | |
---|---|---|---|---|
Ionawr |
43,777 |
37,661 |
16% | |
Chwefror |
44,865 |
39,709 |
13% | |
Mawrth |
61,365 |
46,787 |
31% | |
Ebrill |
43,269 |
50,809 |
-15% | |
Mai |
52,536 |
49,027 |
7% |
|
Mehefin |
59,876 |
57,784 |
4% | |
Gorffennaf |
59,153 |
62,362 |
-5% | |
Awst |
65,022 |
64,472 |
1% | |
Medi |
52,873 |
63,604 |
-17% | |
Hydref |
59,213 |
58,053 |
2% | |
Tachwedd |
63,945 |
60,429 |
6% | |
Rhagfyr |
56,657 |
63,650 |
-11% | |
Cyfanswm |
662,551 |
654,347 |
1% |
Nifer y gwerthiannau 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,298 |
43,777 |
-1% |
Chwefror |
45,162 |
44,865 |
1% |
Mawrth |
54,546 |
61,365 |
-11% |
Ebrill |
50,819 |
43,269 |
17% |
Mai |
66,022 |
52,536 |
26% |
Mehefin |
65,477 |
59,876 |
9% |
Gorffennaf |
72,900 |
59,153 |
23% |
Awst |
77,975 |
65,022 |
20% |
Medi |
67,224 |
52,873 |
27% |
Hydref |
71,929 |
59,213 |
21% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Hydref 2013 | Hydref 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr |
98 |
133 |
-26% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
93 |
153 |
-39% |
Llundain |
102 |
148 |
-31% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
36 |
40 |
-10% |
Gogledd Orllewin Lloegr |
252 |
367 |
-31% |
De Ddwyrain Lloegr |
131 |
202 |
-35% |
De Orllewin Lloegr |
60 |
98 |
-39% |
Cymru |
105 |
114 |
-8% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
87 |
130 |
-33% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
165 |
251 |
-34% |
Cymru a Lloegr |
1,129 |
1,636 |
-31% |
Mae’r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 76,500 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Rhagfyr 2013. Mae’r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Rhagfyr 2013 wedi’i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £15 miliwn. Mae’r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Rhagfyr 2013 wedi’i leoli yn Coventry, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a werthwyd am £14,000.
Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,101,730 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 302,502 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 410,489 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestru neu gynllun teitl; 181,847 yn chwiliadau a 73,619 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited |
1,721 |
O'Neill Patient |
701 |
Countrywide Property Lawyers |
697 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact |
7,508 |
T M Group (UK) Ltd (Search Choice) |
5,621 |
Optima Legal Services |
5,224 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr |
256,440 |
Llundain Fwyaf |
201,569 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
118,778 |
De Orllewin Lloegr |
113,074 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
90,368 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
86,757 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
82,110 |
Cymru |
53,407 |
Gogledd Lloegr |
53,305 |
Dwyrain Anglia |
45,801 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) |
87 |
Ynysoedd Sili |
35 |
Cyfanswm |
1,101,731 |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Ionawr am 9.30 y bore ar 28 Chwefror 2014. Mynediad i’r calendr rhyddhau hyd at fis Hydref 2014.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae’r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 18.5 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai Prisiau Tai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 1995.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y Data trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Gwneir y rhan fwyaf o chwiliadau gan gyfreithwyr neu drawsgludwyr i warchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr ar gyfer cais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant yr eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo.
- Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLLA.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Ronal Patel 0300 006 7490, 07768 644685
ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk