Y Gofrestrfa Tir yn lansio gwasanaeth Property Alert i helpu brwydro yn erbyn twyll eiddo
Heddiw, 4 Mawrth, mae'r Gofrestrfa Tir yn lansio gwasanaeth newydd o'r enw Property Alert sydd wedi'i anelu at unrhyw un sy'n credu y gallai ei eiddo fod mewn perygl o dwyll.
Gall twyll eiddo ddigwydd mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, gall twyllwyr geisio cael gafael ar berchnogaeth eiddo naill ai trwy ddefnyddio dogfennau wedi'u ffugio neu trwy ddynwared y perchennog cofrestredig. Yna gallai'r twyllwyr godi arian trwy forgeisio'r eiddo yn ddiarwybod i'r perchennog cyn diflannu heb wneud ad-daliadau gan adael y perchennog i ddelio'r â'r goblygiadau.
Mae Uned Gwrth-dwyll y Gofrestrfa Tir, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn gweithio'n agos â'r heddlu ac asiantaethau eraill i leihau'r risg o dwyll eiddo. Rhwng mis Medi 2009 a mis Ionawr 2014 ataliodd y Gofrestrfa Tir dwyll eiddo gwerth dros £62 miliwn.
Dywedodd Alasdair Lewis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol: "Ar ôl llwyddiant treial Property Alert, rydym yn gobeithio y bydd llawer o berchnogion cartrefi am gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd di-dâl hwn i'w helpu i warchod eu hased mwyaf gwerthfawr.”
Gall pobl gofrestru am y gwasanaeth a chofrestru hyd at dri eiddo i'w monitro. Bydd hysbysiadau e-bost yn cael eu hanfon pan fydd y Gofrestrfa Tir yn derbyn cais i newid y gofrestr ac ar gyfer chwiliadau swyddogol. Yna gallent farnu a yw'r gweithgaredd yn amheus neu beidio ac a ddylent geisio cyngor pellach. Er enghraifft, os ydych yn derbyn hysbysiad bod banc wedi cyflwyno chwiliad ar eich eiddo, ond nid ydych wedi gwneud cais am forgais, efallai y byddwch am gysylltu ag Action Fraud neu â'r banc dan sylw i'w hysbysu mai chi yw'r perchennog ac nad ydych wedi gwneud cais am forgais. Yna gellir dechrau archwiliad i ddilysrwydd y cais morgais lawer cynharach yn y broses.
Sut i gofrestru ar gyfer Property Alert:
Bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein gyda'r Gofrestrfa Tir sydd am ddim - http://www.cofrestrfatir.gov.uk/propertyalert.
Byddwch yn gallu monitro hyd at dri eiddo. Bydd hysbysiad ebost yn cael ei anfon pan dderbynnir chwiliadau swyddogol a cheisiadau yn erbyn eiddo wedi'i fonitro.
Manteision Property Alert:- Gall roi rhybudd cynnar o weithgaredd amheus
- Mae'n eich galluogi i gymryd camau ar unwaith os oes rhywbeth annisgwyl yn digwydd i'ch eiddo
- Mae am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio
- Eiddo gwag megis lle y mae'r perchennog yn byw dramor neu mewn cartref gofal
- Lle mae problemau teuluol. Er enghraifft, pan fydd perthynas yn marw, gallai aelod o'r teulu geisio gwerthu'r eiddo heb roi'r gyfran gywir i rywun neu pan fydd perthynas yn chwalu gallai rhywun geisio cael morgais ar ei eiddo yn ddiarwybod i'w bartner/phartner
- Eiddo gyda thenantiaid – er enghraifft, lle bo'r perchennog yn byw mewn man arall, gallai tenant geisio cael morgais neu werthu'r eiddo yn ddiarwybod i'r perchennog.
- Eiddo heb forgais. Yn ôl ein cofnodion, mae bron hanner holl berchnogion eiddo preswyl cofrestredig yn ddi-forgais.
- Gwnewch yn siwr bod eich eiddo'n gofrestredig. Os byddwch yn ddioddefwr diniwed o dwyll ac yn dioddef colledion ariannol o ganlyniad, efallai y cewch iawndal.
- Unwaith y byddwch wedi cofrestru, sicrhewch fod gan y Gofrestrfa Tir eich manylion cysylltu cyfredol fel y gallwn gysylltu â chi'n hawdd. Gallwch roi hyd at dri chyfeiriad gwahanol yn y gofrestr, gan gynnwys cyfeiriad ebost (argymhellir hyn yn gryf) a/neu gyfeiriad tramor.
- Gall perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo cofrestredig wneud cais i nodi cyfyngiad am ddim gan ddefnyddio ein ffurflen RQ. Mae'r cyfyngiad hwn yn golygu na fyddwn yn cofrestru deliad gyda'ch eiddo, megis trosglwyddiad neu forgais, oni bai y bydd cyfreithiwr neu drawsgludwr proffesiynol arall yn ardystio ei fod wedi gwirio hunaniaeth yr unigolyn sydd wedi llofnodi'r weithred.
Mae rhagor o gyngor am dwyll eiddo ar gael yn www.cofrestrfatir.gov.uk/propertyfraud
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
- Gall pobl nad ydynt ar-lein gofrestru am Property Alert hefyd trwy ffonio 0800 678 1678
- Mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithredu llinell Twyll Eiddo ar gyfer unrhyw un sy'n credu ei fod yn ddioddefwr twyll eiddo. 0300 006 7030 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am a 5pm). Oddi ar cyflwyno'r llinell twyll eiddo ym mis Chwefror 2013, rydym wedi helpu dros 1,000 o bobl sydd wedi cysylltu â ni
- Oddi ar cyflwyno ein cyfyngiad ffurf RQ ym mis Chwefror 2012 ar gyfer perchnogion cartrefi nad ydynt yn byw yn yr eiddo, rydym wedi derbyn 9,723 o geisiadau i gofnodi'r cyfyngiad hwn
- Mae Uned Gwrth-dwyll arbennig y Gofrestrfa Tir yn gweithio'n agos â'r heddlu ac asiantaethau eraill i leihau'r risg o dwyll eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cyswllt ymholiadau'r cyfryngau:
- Jessica Prasad 0300 006 7037
- Jessica.prasad@landregistry.gsi.gov.uk