logo_w
10 Mawrth 2014
PR 05/14

Nodyn atgoffa: ffïoedd is yn dod i rym ar ddydd Llun 17 Mawrth 2014

Mae arbedion effeithlonrwydd a wnaed y llynedd gan y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, yn golygu o ddydd Llun nesaf, 17 Mawrth 2014, mae’n gostwng rhai o’i ffïoedd, gan gynnwys gostyngiadau mewn ffïoedd ar gyfer llawer o geisiadau a gyflwynir yn electronig.

Y prif newidiadau yw:

  • cyfuno’r ddau fand ffi Graddfa 1 isaf gan wneud y ffi am gofrestru eiddo gwerth hyd £80,000 yn £40 yn unig
  • gostwng ffi Graddfa 1 o £120 i £80 ar gyfer eiddo rhwng £80,001 a £100,000.
  • gostyngiad o 50 y cant yn y ffi ar gyfer llawer o geisiadau Graddfa 1 a Graddfa 2 pan gânt eu cyflwyno’n electronig. Er enghraifft, mae’r ffi am eiddo o werth cyfartalog yng Nghymru a Lloegr (£168,356 ym Mynegai Prisiau Tai mis Ionawr 2014 y Gofrestrfa Tir) yn cwympo o £190 i £95, ac o £910 i £455 ar gyfer eiddo gwerth dros £1 filiwn
  • cyflwyno ffi sefydlog fesul dogfen am archwilio dogfennau a chopïau swyddogol o ddogfennau (£3 yn electronig a £7 am gais ar bapur).

Ffïoedd Graddfa 1 newydd

Graddfa 1 Ffi Bresennol Ffi Newydd Ffi Newydd (cyflwyno electronig)

£0 - £50,000

 £40

 £40

£20

£50,000 - £80,000

 £70

 £40

£20

£80,001 - £100,000

 £120

 £80

£40

£100,001 - £200,000

 £190

 £190

£95

£200,001 - £500,000

 £270

 £270

£135

£500,001 - £1 filiwn

 £540

 £540

£270

Dros £1 filiwn

 £910

 £910

£455

       

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Daw Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2013 i rym ar 17 Mawrth 2014.

    Pdf icon Cyfarwyddyd i ffïoedd gwasanaethau cofrestru o fis Hydref 2014 (PDF, 137KB)
    Pdf icon Cyfarwyddyd i ffïoedd gwasanaethau gwybodaeth o fis Hydref 2014 (PDF, 226KB)
     

  2. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  3. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  4. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.

    Cysylltu

    Marion Shelley 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix