logo_w
28 March 2014
PR 07/14

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Chwefror gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Chwefror yn codi 0.7 y cant oddi ar fis Ionawr 2014
  • Prisiau tai mis Chwefror yn codi 5.3 y cant oddi ar fis Chwefror 2013
  • Pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £170,000 o gymharu'r â'r uchafbwynt o £181,658 ym mis Tachwedd 2007
  • 966 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Rhagfyr 20132013
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Chwefror gyda 297,964 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 70,500 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Chwefror yn amrywio o £11,500 i £21,750,000  

Mae data mis Chwefror o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £170,000. Mae'r newid misol o fis Ionawr i fis Chwefror yn gynnydd o 0.7 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 24 y cant ym mis Rhagfyr 2013 i 966 o gymharu â 1,278 ym mis Rhagfyr 2012.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 13.8 y cantt.
  • Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.6 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol o 1.3 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda symudiad o -1.4 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Rhagfyr 2013 gynyddu 33 y cant i 75,182 o gymharu â 56,697 ym mis Rhagfyr 2012.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Rhagfyr 2013 wedi cynyddu 44 y cant i 898 o 624 ym mis Rhagfyr 2012.
  • Cymru yw'r unig ranbarth gyda chynnydd mewn gwerthiannau adfeddiannadu ym mis Rhagfyr 2013 (wedi codi 6 y cant)

 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Llwytho adroddiad llawn mis Chwefror y Mynegai Prisiau Tai i lawr (PDF)

Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Ionawr 2014) Newid blynyddol (oddi ar fis Chwefror2013) Pris cyfartalog (Chwefror  2014)

Cymru

 1.6%

 1.7%

£119,118

Gogledd Orllewin Lloegr

 1.2%

 2.2%

£111,453

De Orllewin Lloegr

 2.1%

 4.5%

£178,108

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 1.0%

 3.6%

£133,670

Llundain

 0.8%

 13.8%

£414,356

De Ddwyrain Lloegr

 0.7%

 7.1%

£223,733

Cymru a Lloegr

 0.7%

 5.3%

£170,000

Dwyrain Lloegr

 0.5%

 6.2%

£183,285

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 0.1%

 1.2%

£117,025

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-0.1%

 4.5%

£127,343

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.4%

 -1.3%

£97,332


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Chwefror 2014 Chwefror 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£267,557

 £254,494

5.1%

Tŷ pâr

£160,943

 £152,884

5.3%

Tŷ teras

£127,738

 £122,998

3.9%

Fflat/Fflat deulawr

£163,168

 £151,657

7.6%

Holl

£170,000

 £161,424

5.3%


Nifer y gwerthiannau 2013-2012 

Mis Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  43,360

  43,779

  -1%

Chwefror

  45,208

  44,869

   1%

Mawrth

  54,638

  61,372

-11%

Ebrill

  50,936

  43,273

 18%

Mai

  66,205

  52,551

 26%

Mehefin

  65,835

  59,883

 10%

Gorffennaf

  73,403

  59,164

 24%

Awst

  79,027

  65,035

 22%

Medi

  69,246

  52,884

 31%

Hydref

  75,951

  59,234

 28%

Tachwedd

  80,893

  63,963

 26%

Rhagfyr

  75,182

  56,697

 33%

Cyfanswm

779,884

662,704

  18%


Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Rhagfyr 2013 Rhagfyr 2012 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

   62

   133

-53%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   80

   105

-24%

Llundain

   90

   170

-47%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

   31

     36

-14%

Gogledd Orllewin Lloegr

 243

   275

-12%

De Ddwyrain Lloegr

 119

   131

  -9%

De Orllewin Lloegr

   56

     82

-32%

Cymru

   88

     83

   6%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

   75

     98

-23%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 122

   165

-26%

Holl

 966

1,278

-24%

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 70,500 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Chwefror 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Chwefror 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Barnet, Llundain, a werthwyd am dros £21,750,000. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Chwefror 2014 wedi'i leoli yn Swydd Durham, a werthwyd am £11,500.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau 1,301,843 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys 1,249,846 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 298,042 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 587,074 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 162,360 yn chwiliadau a 74,852 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata trafodiad


Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited LLP

1,601

O'Neill Patient

783

Countrywide Property Lawyers

702


Chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau

Enact

6,694

Optima Legal Services

4,871

O'Neill Patient

3,279


Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

 297,964

Llundain Fwyaf

 247,833

Gogledd Orllewin Lloegr

 139,028

De Orllewin Lloegr

 126,856

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 112,273

Swydd Gaerefrog a'r Humber

 104,230

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   93,789

Gogledd Lloegr

   64,069

Cymru

   62,622

Dwyrain Anglia

   53,075

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

         74

Ynysoedd Sili

         30

Cyfanswm

1,301,843

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. 1Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mawrth am 9.30 y bore ar ddydd Llun 30 Ebrill 2014. Mynediad i'r calendr rhyddhau hyd at fis Ionawr 2015.
  2. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  3. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  4. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  5. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  6. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  7. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
  8. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  9. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  10. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y Data trafodiad
  11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  12. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  13. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  14. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  15. 15. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.

    Contact

    Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix