logo_w
27 Mehefin 2014
PR 13/14

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mai gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Mai wedi codi 0.4 y cant oddi ar fis Ebrill 2014
  •  
  • Prisiau Tai mis Mai wedi codi 6.7 y cant oddi ar fis Mai 2013
  •  
  • Mae prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,035 o gymharu â'r brig o £181,518 ym mis Tachwedd 2007
  •  
  • 987 o adfeddiannau yng Nghymru  Lloegr yn ystod mis Mawrth 2014
  •  
  • Cyflwynwyd dros 72,450 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mai yn amrywio o £7,000 i £39 miliwn

Mae data mis Mai o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.7 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £172,035. Mae'r newid misol o fis Ebrill i fis Mai yn dangos cynnydd o 0.4 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 37 y cant ym mis Mawrth 2014 i 987 o gymharu â 1,560 ym mis Mawrth 2013.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 18.5 y cant. 
  •  
  • Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.5 y cant.
  •  
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf blynyddol isaf gyda symudiad o 0.9 y cant.
  •  
  • Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol o 0.9 y cant. 
  •  
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014 gynyddu 16 y cant i 63,587 o gymharu â 54,708 ym mis Mawrth 2013.
  •  
  • Bu cynnydd o 28 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014 i 840 o 657 ym mis Mawrth 2013.
  •  
  • Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Mawrth 2014 oedd Dwyrain Canolbarth Lloegr.

 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Download the full May 2014 HPI report (PDF)

 
RhanbarthNewid misol oddi ar fis Ebrill 2014 Newid blynyddol oddi ar fis Mai 2013 Pris cyfartalog Mai 2014

Llundain

 2.5%

18.5%

£439,719

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 1.5%

 6.5%

£130,553

Dwyrain Lloegr

 0.7%

 8.4%

£188,580

De Orllewin Lloegr

 0.6%

 4.7%

£180,265

De Ddwyrain Lloegr

 0.6%

 8.4%

£226,334

Cymru a Lloegr

 0.4%

 6.7%

£172,035

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-0.1%

 4.3%

£133,985

Cymru

-0.2%

 2.3%

£116,845

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-0.3%

 0.9%

  £99,319

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.5%

 1.3%

£110,161

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-0.9%

 2.9%

£119,472


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegrs) Mai 2014 Mai 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£268,897

 £253,896

5.9%

Tŷ pâr

£162,408

 £152,821

6.3%

Tŷ teras

£129,267

 £121,873

6.1%

Fflat/Fflat deulawr

£166,944

 £152,857

9.2%

Holl

£172,035

 £161,254

6.7%


Sales volumes 2013-2012 

   

MisGwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  43,386

  43,783

  -1%

Chwefror

  45,246

  44,874

   1%

Mawrth

  54,708

  61,377

-11%

Ebrill

  51,014

  43,280

 18%

Mai

  66,289

  52,559

 26%

Mehefin

  66,061

  59,893

 10%

Gorffennaf

  73,651

  59,179

 24%

Awst

  79,403

  65,047

 22%

Medi

  69,811

  52,895

 32%

Hydref

  77,006

  59,249

 30%

Tachwedd

  83,126

  63,992

 30%

Rhagfyr

  79,489

  56,722

 40%

Cyfanswm

789,190

662,850

 19%


  

Sales volumes 2014-2013 

 
MisGwerthiannau 2014
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  65,010

  43,386

  50%

Chwefror

  63,789

  45,246

  41%

Mawrth

  63,587

  54,708

  16%


  

Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Mawrth 2014 Mawrth 2013 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

   90

   124

-27%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   68

   150

-55%

Llundain

 103

   160

-36%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

   30

     43

-30%

Gogledd Orllewin Lloegr

 238

   355

-33%

De Ddwyrain Lloegr

 115

   197

-42%

De Orllewin Lloegr

   53

   100

-47%

Cymru

   79

   103

-23%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

   83

   125

-34%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 128

   203

-37%

Holl

 987

1,560

-37%

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,450 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mai 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mai 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £11.5 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mai 2014 wedi'i leoli yn Scarborough, Gogledd Swydd Gaerefrog, a werthwyd am £8,500. 

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mehefin am 9.30 y bore ar ddydd Gwener 28 Gorffennaf 2014. Mynediad i'r calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Ebrill 2015.
  2.  
  3. Symudwyd dyddiad cyhoeddi'r Data Trafodiad  fel ei fod bellach ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set ddata trafodiad mis Mehefin ar 21 Gorffennaf 2014 am 11 y bore.
  4.  
  5. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  6.  
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8.  
  9. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  10.  
  11. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  12.  
  13. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  14.  
  15. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig .
  16.  
  17. Mae'r Data Pris a Dalwyd Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:    
    • y cyfeiriad llawn
    •  
    • y pris a dalwyd
    •  
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  18.  
  19. Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  20.  
  21. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  22.  
  23. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  24.  
  25. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.    

    Cysylltu

    Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix